YouVersion 標識
搜索圖示

2 Tymothiws 2

2
Yr ail Cytpen
1Tydy fy mab am hyn: bydd gadarn y fewn y gras rhwn sydd yngrist iesu: 2ag y fewn y pethaû a glowaist y kenyfi: trwy lawer o dystyon: y pethau hyn cymûna hwynt i ddynion ffydlon a font kymhesur i ddyscu eraill: 3Tithau or achos hwn ymgospa megis dayonys filwr iesu grist: 4nid ymrwystra neb a fo yn rhyfela a negesau bydawl, ir mwyn rhyglyddu bodd ir neb ai dewisodd i fod yn rhyfelwr: 5ag os ymwan dyn am gamp (orchest) etto ni choronir ef oddeithr iddaw ymwan yn gyfreithlawn: 6rhaid ydiw ir llafurwr a fo yn llafurio yn gynta dderbyn kyfran or ffrwythydd: 7meddwl am i ddwy yn i ddoyded, yr arglwydd a ro dyall yt ymhob peth 8kydnebydd gyfodi o iesu grist o feirw: o hiliogeth Dauydd: yn gyttûn ar yfengil faû: 9am yr hon i ddydwy yn goddau trallawd megis a wnelai ddrwg hyd at rwymay: Eithr ni bu rwymedig gair duw: 10or achos hwn i ddydwy yn goddaû pob peth ir mwyn y dewisedigion: mal i gallont wythaû ynill y cadwedigaeth y sydd yngrist iesu ynghyd a gogoniant tragwyddawl 11ymadrodd diammay yw: Canys os kydfarw a wnawn: kydfyw a gawn gidag ef. 12O byddwn oddefus kydtyrnasu gidag ef a gawn: os gwadwn i ef yntay hefyd ayn gwatta ninay: 13os bydd i ni ar fod yn anffyddlon: etto ef a drig yn ffyddlawn: ni ddichin ef i wadû eu hûn: 14dwg ar go vddynt y pethaû hyn: a chydtestylaytha gar bron yr arglwydd: na fid ymryson geiriaû ni does dim proffit ynthynt, onid i ddymchwel y gwrandawyr 15Bwriada ymddangos dy fod yn weithwr canmoladwy i ddûw ar nas geller eu gwilyddio, yn kyfrannû gair y gwirionedd 16yn gyffion Eithr [[gad heibio llygaidd orwagedd geiriau]] tu ag att am lygaidd orwagedd geiriaû, gad heibio hwynt: Cans kynhyrchu a wnant i fwy o anwiredd: 17ai geiriau hwynt a fwytty y mal klwy cancer or kyfri hyn i may hymenews a phyletws: 18yr hain ynghylch y gwirionedd: aythont ar grwydr: yn doyded am adgyfodiad [y meirw] ddarfod hynny eusûs: a diwadnû ffydd rhai i maynt, 19eithr cadr sailfan duw a sai: ag iddaw i may r nodarwydd hwn: fo a edwyn yr arglwydd yrhai sy yn eiddaw ef: ymwrthoded pob dyn ag anwiredd ar a alwo ar enw c[[h]]rist: 20Eithr mewn tyy mawr i byddant nid yn vnig llestri aûr ag arian: namyn hefyd llestri preniaû a llestri pridd a rhai mewn vrddas a rhai mewn dirmig: 21os ymgeidw dyn ef i hûn yn ddilwgr o ddiwrth yr hain: ef fydd llestr santaidd mewn vrddas anhepcor i angenrheidiaû r arglwydd parawd (darparedig) i bob gweithred dda: 22ffo o ddiwrth trachwant ifieingtid a dylyn gyfiowndr, ffydd, cariad, a llonyddwch: ynghyd arhai a eilw ar yr arglwydd o galon bybûr: 23questiwnay ffol anyscedig gochel hwynt dan wybod na wnant onid magu ymryson: 24ni ddylai gwasnaythwr yr arglwydd ymryson: namyn bod yn foneddigaidd i bob dyn: parawd i ddyscû: ag vn a fettro oddaû yrhai drwg yn ddigynwr: 25ag a fettro iowni yrhai a wrthneppo yr gwir os myn duw vnwaith roi vddynt edifeirwch i gydnabod ar gwir 26a diaink o fagl y kythrel yr hai sy cantho ynal wrth i wollys.

目前選定:

2 Tymothiws 2: RDEB

醒目顯示

分享

複製

None

想要在所有設備上保存你的醒目顯示嗎? 註冊或登入