YouVersion 標識
搜索圖示

Matthew 3

3
Pen. iij.
Swydd, athrawaeth a buchedd Ioan. Ceryddy y Pharisaiait. Am ffrwythau edifeirwch. Betyddio Christ yn Iorddonen, A i awdurdodi gan Dduw ei Dat.
1AC yn y dyddiae hyny, y daeth Ioan Vatyddiwr ac a precethawdd yn‐diffaith Iudaea, 2ac a ddyvot, Edifarewch: can vot teyrnas nef yn gyfagos. 3Can ys hwn yw ef am bwy vn y dywetwyt gan y Prophwyt Esaias, gan ddywedyt, Llef #3:3 * criwr, vn yn llefainllafarydd yn y diffaith, paratowch ffordd yr Arglwydd: vniownwch y lwybrae ef. 4A’r Ioan hwnaw oedd ai ddillat o vlew camel, a gwregis o groen yn‐cylch ei #3:4 llwyfenelwyni: ai vwyt ef oedd #3:4 * keilogot rhedynlocustae a mel gwyllt. 5Yno ydd aeth allan atto Gaerusalem ac oll Iudaea, a’r oll wlat #3:5 oboppartho ddi amgylch Iorddanen. 6Ac ei batyddiwyt wy ganthaw yn Iorddonen, gan #3:6 * addefgyffessy ei pechotae. 7A’phan welawdd ef lawer o’r Pharisaiait ac or Sadduceit yn dywot y’w vetydd ef, y dyvot wrthynt, A genedleth #3:7 * nadroeddgwiperoedd, pwy ach rac rybyddiawdd i #3:7 ffogiliaw rac y #3:7 * irlonedd, llid, dial ar ddawotdigofeint a ddelai? 8Can hynny dygwch ffrwythae teilwng i #3:8 wellaat bucheddedifeirwch. 9Ac na veddyliwch ddywedyt ynoch eich unain, Y mae #3:9 ygenym ni Abraham yn dat i ni: can ys dyweddaf ychwi, y #3:9 * galldychon Duw o’r main hyn gyfodi i vyny blant i Abraham. 10Ac yr awrhō hefyt y gosodwyt y vwyall ar wreiddyn y preniae: can hyny pop pren, ar ny ddwc ffrwyth da, a #3:10 dorir, a gymynirdrychir i lawr, ac a #3:10 * vwrirdavlir #3:10 ynir tan. 11Myvi yn ddiau ach betyddiaf a dwfyr er #3:11 * gwellat bucheddedifeirwch, eithyr hwn a ddaw ar v’ol i, ys y gadarnach na myvi, a’ei escidiae nid wyf deilwng y’w dwyn: efe ach betyddia a’r Yspryt glan, ac a than. 12Yr hwn ’sydd aei vvogr yn ei law, ac a #3:12 lanagarth ei lawr, ac a gasel ei wenith yw yscupawr, anid yr #3:12 * gwanusvs a lysc ef a than #3:12 ny ddiffoddirdiddiffoddadwy.
13¶ Yno y daeth yr Iesu o’r Galilaea i Iorddanen at Ioan, yw vetyddio y ganthaw. 14Eithr Ioan y #3:14 * goharddoddgwrthladdawdd ef, can dywedyt. Mae arnaf eisiae vy‐betyddiaw y genyti, a’ thi a ddeuy atafi? 15Yno ’r Iesu gan atep, a ddyvot wrthaw, Gad yr awrhon: can val hyn y gwedda y ni gyflawni pop cyfiawnder. Yno y gadawodd yddaw. 16A’r Iesu wedi ei vetyddio, a ddaeth yn y van i vynydd o’r dwfr. Ac wely, y nefoedd a agorwyt iddaw, ac Ioan a welawdd Yspryt Duw yn descen val colomben, ac yn dewot arnaw ef. 17A’ nycha, llef o’r nefoedd yn dywedyt, Hwn yw vy caredic Vap, yn yr hwn im boddlonir.

目前選定:

Matthew 3: SBY1567

醒目顯示

分享

複製

None

想要在所有設備上保存你的醒目顯示嗎? 註冊或登入