Mathew 1

1
1We Iesu Grist in dwâd o dilwith Dafydd a Abraham, a ffor'ýn wedd e'n perthyn iddyn nhwy.
2-22Abraham we tad Isaac, Isaac we tad Jacob, Jacob we tad Jwda a'i frodyr e i gyd, Jwda we tad Peres a Sera (Tamar we'u mham), Peres we tad Hesron, Hesron we tad Ram, Ram we tad Aminadab, Aminadab we tad Nason, Nason we tad Salmon, Salmon we tad Boas (Rahab we'i fam e), Boas we tad Obed (Riwth we'i fam inte), Obed we tad Jese, a Jese we tad Dafydd i brenin.
Dafydd wedyn we tad Solomon (gwidw Wreias we'i fam e), Solomon we tad Rehoboam, Rehoboam we tad Abeia, Abeia we tad Asa, Asa we tad Jehosoffat, Jehosoffat we tad Joram, Joram we tad Wseia, Wseia we tad Jotham, Jotham we tad Ahas, Ahas we tad Heseceia, Heseceia we tad Manase, Manase we tad Amos, Amos we tad Joseia, Joseia we tad Jeconeia a'i frodyr e i gyd, a pri'ny gath i genedl 'i charto bant i Babilon. Wedi'r genedl gal i charto bant i Babilon fel hyn we pethe: Jeconeia we tad Shealtiel, Shealtiel we tad Serwbabel, Serwbabel we tad Abiwd, Abiwd we tad Eliacim, Eliacim we tad Asor, Asor we tad Sadoc, Sadoc we tad Achim, Achim we tad Eliwd, Eliwd we tad Eleaser, Eleaser we tad Mathan, Mathan we tad Jacob, Jacob we tad Joseff gŵr Mair, a Mair we mam Iesu, a fe sy'n câl i alw in Feseia.
So we peder cinhedleth ar ddeg o amser Abraham hyd at amser Dafydd, peder cinhedleth ar ddeg o amser Dafydd hyd pryd gath i genedl 'i charto bant i Babilon, a peder cinhedleth ar ddeg wedyn weth o'r amser gethon nhwy 'u carto bant i Babilon hys nes dâth i Meseia.
'Co shwt gath Iesu'i eni. Cas Mair 'i haddo in wraig i Joseff, ond cyn iddon nw gisgu da'i gily ffeindiodd e mas 'i bod hi'n dishgwyl babi. (We hyn wedi digwydd trw'r Isbryd Glân, ond weno fe'n stando 'ny ar i pryd). We Joseff, i dyn we wedi addo i phriodi 'ddi, in ddyn teidi a weno fe moyn gweld pobol in sharad in gas am Mair, in lle 'ny we well 'dag e alw'r briodas bant heb wbod i neb. A 'na beth wedd e'n golgu neud pan gâth e freuddwd. In i freuddwd welodd e angel ir Arglwi, a wedo hwnnw wrtho fe, “Joseff, crwt Dafydd, paid becso dim byd obitu priodi Mair, achos beth nâth i'r Isbryd Glân ma i'n dishgwyl. Geith i grwt, a biddwch chi'n 'i alw e'n Iesu (sy'n goligu ‘Mae Duw in safio’ in iaith ir Iddewon), achos bydd e'n safio'i bobol o'u pechode.” Nawr, digwyddodd pethe fel 'yn fel bo beth wedodd Duw trw'r proffwydi in dwâd in wir, pan wedodd e,
23“Bydd morwm in dishgwyl babi
a fe geith hi grwt bach,
a fe alwan nw e'n Imaniwel.” (Ma Imaniwel in meddwl “Mae Duw 'da ni”).
24-25Pan ddihunodd Joseff nâth e'n gowir fel wedo'r angel wrtho fe, a mynd â 'i gatre i fod in wraig iddo, ond âth e ddim i'r gwely 'da 'i nes 'ddi gâl i crwt bach. A galwodd e'r crwt in Iesu.

目前选定:

Mathew 1: DAFIS

高亮显示

分享

复制

None

想要在所有设备上保存你的高亮显示吗? 注册或登录

YouVersion 使用 cookie 来个性化你的体验。使用我们的网站,即表示你同意我们根据我们的隐私政策来使用 cookie。