Ioan 9
9
PEN. IX.
Crist ar y Sabboth yn rhoddi ei olwg i vn a anesid yn ddall, 13 y Pharisæaid wedi holi hwn a’i rieni yn ei escymuno ef allan o’r Synagog, 35 Crist yn ei dderbyn ef, ac yn ei ddyscu, 39 gan ddangos peth o’r achos y daeth efe i’r byd.
1AC wrth fyned heibio efe a ganfu ddyn dall o’i enedigaeth.
2A’i ddiscyblion a ofynnasant iddo ef gan ddywedyd, Rabbi: pwy a bechodd ai hwn, ai ei rieni ef, iw eni ef yn ddall?
3Yr Iesu a attebodd, nid hwn a bechodd nai rieni chwaith, ond fel yr amlygid gweithredoedd Duw ynddo ef.
4Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn am hanfonodd tra ydyw hi yn ddydd, y mae y nos yn dyfod pan ni ddichon neb weithio.
5Tra yr ydwyfi yn y byd, #Ioan.1.9.goleuni y byd ydwyfi.
6Wedi iddo ef ddywedyd hyn, efe a boerodd ar lawr, ac a wnaeth glai o’r poeryn, ac a irodd y clai ar lygaid y dall.
7Ac efe a ddywedodd wrtho ef, dos ac ymolch yn llyn Siloe, (yr hwn a gyfieithir amfonedig) felly yr aeth efe, ac a ymolchodd, ac a ddaeth yn gweled.
8Yna y cymydogion, a’r rhai a’i gwelsent ef o’r blaen mai dall oedd efe, a ddywedasant: onid hwn yw yr hwn oedd yn eistedd, ac yn cardotta?
9Rhai a ddywedasant, hwn yw [efe,] ac eraill, y mae efe yn vebyg iddo ef: yntef a ddywedodd, myfi yw [efe.]
10Yna y dywedasant wrtho ef: pa fodd yr agorwyd dy lygaid?
11Yntef a ddywedodd, dŷn a elwir Iesu a wnaeth glai, ac a îrodd fy llygaid i, ac a ddywedodd wrthyfi: dos i’r llyn Siloe, ac ymolch, ac wedi i mi fyned ac ymolchi, mi a gefais fyngolwg eil-waith.
12Yna y dywedasant wrtho ef, pa le y mae efe? dywedodd yntef, ni wn i.
13Hwynt hwy a’i dugasant ef at y Pharisæaid yr hwn gynt a fuase yn ddall.
14A Sabboth oedd hi pan wnaethe yr Iesu y clai, ac agoryd ei lygaid ef.
15Am hynny y gofynnodd y Pharisæaid iddo ef trachefn, pa fodd y cawse efe ei olwg eilwaith: yntef a ddywedodd wrthynt hwy, clai a osododd efe ar fy llygaid, ac mi a ymolchais, ac yr wyfi yn gweled.
16Yna rhai o’r Pharisæaid a ddywedasant, nid yw y dŷn hwn o Dduw gan nad yw yn cadw y Sabboth: eraill a ddywedasant, pa fodd y gall dyn pechadurus wneuthur y cyfryw arwyddion? ac yr oedd ymbleidio yn eu mysc hwynt.
17Dywedasant drachefn wrth y dall: beth yr wyt ti yn ei ddywedyd am dano ef, am agoryd o honaw ef dy lygaid di? yntef a ddywedodd, mai prophwyd yw efe.
18Am hynny ni chrede yr Iddewon am dano ef ei fod efe yn ddall, a chael o honaw ef ei olwg drachefn, nes galw o honynt ei rieni ef yr hwn a gawse ei olwg drachefn.
19Ac hwynt hwy a ofynnasant iddynt hwy gan ddywedyd, a’i hwn yw eich mab chwi yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd ei eni yn ddall? pa fodd gan hynny y mae efe yn gweled yn awr?
20Ei rieni ef a attebasant iddynt hwy, ac a ddywedasant: nyni a wyddom mai hwn yw ein mab ni, a’i eni ef yn ddall.
21Ond pa fodd y mae efe yn gweled yr awron, ni’s gwyddom ni: neu pwy a agorodd ei lygaid ef ni’s gwyddom ni: y mae efe mewn oedran, gofynnwch iddo ef, efe a ddywed am dano ei hun.
22Hyn a ddywedodd ei rieni ef am eu bod yn ofni yr Iddewon: o blegit yr Iddewon a ordeiniasent eusys os cyfaddefe neb ef yn Grist, yr escymunid ef allan o’r Synagog.
23Am hynny y dywedodd ei rieni ef, y mae efe mewn oedran, gofynnwch iddo ef.
24Am hynny hwynt hwy a alwasant eilwaith y dyn yr hwn a fuase ddall ac a ddywedasant wrtho ef: dod y gogoniant i Dduw, nyni a wyddom mai pechadur yw y dŷn hwn.
25Yna yntef a attebodd, ac a ddywedodd, ni wn i a ydyw efe bechadur, vn peth a wn i, lle yr oeddwn i yn ddall, yr wyfi yn awr yn gweled.
26Hwythau a ddywedasant wrtho ef drachefn, beth a wnaeth efe i ti? pa fodd yr agorodd efe dy lygaid ti?
27Efe a attebodd iddynt hwy, myfi a ddywedais i chwi eusys, ac ni wrandawsoch: pa ham yr ydych yn ewyllysio clywed trachefn? a ydych chwithau yn ewyllysio myned yn ddiscyblion iddo ef?
28Hwythau a’i difenwasant ef, ac a ddywedasant, bydd di ddiscybl iddo ef, discyblion Moses ydym ni.
29Nyni a wyddom lefaru o Dduw wrth Moses, ond ni wyddom ni o ba le y mae hwn.
30Y dŷn a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt hwy: yn hyn y mae rhyfeddod, na wyddoch o ba le y mae efe, ac efe a agorodd fy llygaid i.
31Ac nyni a wyddom nad yw Duw yn gwrando pechaduriaid, ond os ydyw neb yn dduwiol, ac yn gwneuthur ei ewyllys ef, hwnnw y mae efe yn ei wrando.
32Ni chlywyd er ioed agoryd o neb lygaid vn a enid yn ddall.
33Pe hwn ni bydde o Dduw, ni alle efe wneuthur dim.
34Hwythau a attebasant, ac a ddywedasant wrtho ef: mewn pechodau y ganwyd ti oll, ac a wyt ti yn ein dyscu ni? ac hwynt hwy a’i bwriasant ef allan.
35Clybu yr Iesu fwrw o honynt hwy ef allan, a phan ei cafodd ef, efe a ddywedodd wrtho ef: a wyt ti yn credu ym Mab Duw?
36Yntef a attebodd, ac a ddywedodd: pwy yw efe ô Arglwydd, fel y credwyf ynddo ef?
37A’r Iesu a ddywedodd wrtho ef, ti a’i gwelaist ef, a’r hwn sydd yn llefaru wrthit yw efe.
38Yntef a ddywedodd, yr wyfi yn credu (ô Arglwydd,) ac efe a’i addolodd ef.
39A’r Iesu a ddywedodd, i farnedigaeth y daethym i i’r byd hwn, fel y gwele y rhai nid ydynt yn gweled, ac yr ele y rhai sydd yn gweled yn ddeillion.
40A rhai o’r Pharisæaid y rhai oeddynt gyd ag ef a glywsant hyn, ac a ddywedasant wrtho ef: ai deillion ydym ninnau?
41Dywedodd yr Iesu wrthynt hwy, pe deillion fyddech, ni bydde arnoch bechod: eithr yn awr (meddwch chwi) yr ydym ni yn gweled: am hynny y mae eich pechod yn parhau.
Y Beibl Cyssegr-lan. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1588, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2023.