Ioan 13
13
PEN. XIII.
Crist yn golchi traed yr Apostolion, 6 yr ymddiddan a fu rhyngddo â Phetr, 18 bradychiad Crist, 35 drwy gariad perffaith yr adwaenir discyblion Crist, 37 hyder Petr a’i wendid.
1Cyn #Math.26.1. Marc.14.1. Luc.22.1.gŵyl y Pasc, yr Iesu yn gŵybod dyfod ei awr i fyned o’r byd ymma at y Tad, [ac] yn caru yr eiddo y rhai oeddynt yn y bŷd, hyd y diwedd y carodd efe hwynt.
2A hwynt ar swpper (wedi i ddiafol eusus yrru yng-halon Iudas [fab] Simon Iscariotes, ei fradychu ef)
3Yr Iesu yn gŵybod roddi o’r Tad bob peth oll yn ei ddwylo ef, a’i fod wedi dyfod oddi wrth Dduw, ac yn myned at Dduw,
4Efe a gyfododd oddi a’r ei swpper, ac a fwriodd heibio ei gochl-wisc, a chan gymmeryd tywel, efe a ymwregysodd.
5Wedi hynny efe a dywalltodd ddwfr i’r cawg, ac a ddechreuodd olchi traed y discyblion, a’u sychu â’r lliain, â’r hwn y gwregysasid ef.
6Yna y daeth efe at Simon Petr, ac yntef a ddywedodd wrtho, ô Arglwydd, a’i tydi a olchi fy nrhaed i?
7A’r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, y peth yr wyf fi yn ei wneuthur, ni wyddost di yr awron: eithr ti a gei ŵybod yn ôl hyn.
8Petr a ddywedodd wrtho: ni chei olchi fy nrhaed i byth, ac attebodd yr Iesu iddo: oni olchaf dy di, nid oes i ti gyfran gyd â myfi.
9Simon Petr a ddywedodd wrtho: ô Arglwydd, nid fy nrhaed i yn vnic, ond fy nwylaw, am pen hefyd.
10A’r Iesu a ddywedodd wrtho, yr hwn a olchwyd, nid rhaid iddo ond golchi ei draed, eithr y mae yn lân oll: a #Ioan.15.3.chwithau ydych yn lân, ond nid bob vn.
11Canys efe a ŵydde pwy a’i bradyche ef, ac am hynny y dywedodd: nid ydych chwi yn lân bob vn.
12Felly wedi iddo olchi eu traed hwy, a chymmeryd ei gochl-wisc am dano, gan eistedd ail-waith y dywedodd wrthynt, a ŵyddoch chwi pa beth a wnaethum i chwi?
13Yr ydych chwi yn fyng-alwi, yr Athro, yr Arglwydd: a da y dywedwch: o herwydd, yr wyfi [felly.]
14Am hynny, os myfi yn Arglwydd, ac yn Athro, a olchais eich traed chwi, chwithau a ddylech hefyd olchi traed eu gilydd.
15Canys mi a ddodais siampl i chwi i wneuthur o honoch fel y gwneuthum i chwi.
16Yn #Ioan.15.20. Math.10.24. Luc.6.40.wir, yn wîr meddaf i chwi: nid yw’r gwâs yn fwy nâ’i arglwydd, na’r cennadwr yn fwy nâ’r hwn a’i danfonodd ef.
17Os gŵyddoch y pethau hyn, gwyn eich byd, os chwi a’u gwnewch hwynt.
18Nid wyfi yn dywedyd am danoch oll, mi a wn pwy a etholais, ond er cyflawni yr scrythur, [sef:] #Psal.40.9.hwn sydd yn bwyta bara gyd â mi, a gododd ei sodl yn fy erbyn.
19Bellach yr wyf yn dywedyd wrthych, cyn ei ddyfod, fel gwedi y dêl y credoch mai myfi yw efe.
20 #
Math.10.40. Luc.10.16. Yn wîr, yn wîr meddaf i chwi: yr hwn sydd yn derbyn y neb a ddanfonwyfi, sydd yn fy nerbyn i, a’r hwn sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn y neb am danfonodd.
21Wedi i’r Iesu ddywedyd hyn, efe a gyffroiwyd yn yr yspryd, ac a destiolaethodd, ac a ddywedodd, yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, mai vn o honoch a’m bradycha fi.
22 #
Math.26.21. Marc.14.18. Luc.22.21. Am hynny yr edrychodd y discyblion ar ei gilydd, gan ammau am bwy y dywedase efe.
23Yna vn o’i ddiscyblion ef, oedd yn pwyso ar fonwes yr Iesu, [sef] yr hwn yr oedd Iesu yn ei garu.
24Ac fe a amneidiodd Simon Petr ar hwn, i ofyn, pwy oedd yr hwn a ddywedase efe am dano.
25Ac yntef yn pwyso ar fynwes Iesu, a ddywedodd wrtho, ô Arglwydd, pwy yw efe.
26A’r Iesu a attebodd, hwnnw yw efe i’r hwn y rhoddaf fi dammaid wedi ei wlychu, ac wedi iddo wlychu y tammaid efe a’i rhoddodd i Iudas [fab] Simon Iscariotes.
27Ac ar ôl y tammaid yr aeth Satan i mewn iddo, ac yna y dywedodd yr Iesu wrtho: a wnelech, gwna ar frys.
28Ac ni wydde neb o’r rhai oeddynt yn eistedd, am ba beth y dywedase efe hynny wrtho.
29Canys rhai oedd yn tybied, mai am fod y gôd gyd ag Iudas, y dywedase Iesu wrtho: pryn y pethau sydd anghenrhaid i ni erbyn yr ŵyl, neu ar ddodi o honaw ef beth i’r tlodion.
30Ac yntef wedi derbyn y tammaid, a aeth allan yn ebrwydd: ac yr oedd hi yn nos.
31Ac wedi iddo fyned allan, yr Iesu a ddywedodd, yn awr y gogoneddwyd Mab y dyn, a Duw a ogoneddwyd ynddo ef.
32Os gogoneddwyd Duw ynddo ef, Duw hefyd a’i gogonedda ef ynddo ei hun, ac yn ebrwydd y gogonedda efe ef.
33O blant bychain etto yr wyf ennyd fechan gyd â chwi, chwi a’m ceisiwch, ac fel #Ioan.7.34.y dywedais wrth yr Iddewon, yr ydwyf yn dywedyd wrthych chwi hefyd yr awron: i’r lle yr ydwyf fi yn myned ni ellwch chwi ddyfod.
34 #
Lef.19.18. Math.22.39. Ioan.4.21.Gorchymyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, ar garu o honoch ei gilydd, fel y cerais i chwi, ar garu o honoch ei gilydd felly.
35Wrth hyn yr adnebydd pawb eich bod yn ddiscyblion i mi, os bydd cariad rhwng pawb o honoch a’i gilydd.
36A Simon Petr a ddywedodd wrtho: ô Arglwydd i ba le yr ydwyt ti yn myned, yr Iesu a attebodd iddo, #Math.26.33. Marc.14.29.lle yr ydwyfi yn myned ni elli di yr awron fyng-hanlyn: eithr yn ôl hyn i’m canlyni,
37Petr a ddywedodd wrtho: ô Arglwydd, pa ham na allaf fi dy ganlyn yr awron? mi a roddaf fy einioes drosot.
38Yr Iesu a’i hattebodd, a roddi di dy einioes drosofi? yn wîr, yn wîr meddaf i ti: ni chân y ceiliog nes i ti fyng-wadu dair gwaith.
Y Beibl Cyssegr-lan. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1588, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2023.