Genesis 8

8
PEN. VIII.
Y dyfroedd yn treio. 7 Noah yn anfon allan y gig-fran ar golommen. 16 Mynediad Noah allan o’r Arch, 20 ai aberth.
1Yna Duw a gofiodd Noah, a phôb bwyst-fil a phôb anifail, y rhai [oeddynt] gyd ag ef yn yr Arch: a gwnaeth Duw i wynt dramwyo ar y ddaiar, a’r dyfroedd a lonyddasant.
2Caewyd hefyd ffynhonnau y dyfnder a ffenestri y nefoedd: a lluddiwyd y glaw o’r nefoedd.
3A’r dyfroedd a ddychwelasant oddi ar y ddaiar gan fyned a dychwelyd: ac ym mhen deng nhiwrnod a deugain a chant y dyfroedd a dreiasent.
4Ac yn y seithfed mîs, ar yr ail ddydd ar bymthec o’r mîs, y gorphywysodd yr Arch ar fynyddoedd Armenia.
5A’r dyfroedd fuant yn myned, ac yn treio hyd y decfed mîs, yn y decfed [mîs] ar y [dydd] cyntaf o’r mîs y gwelwyd pēnau y mynyddoedd.
6Ac ym mhen deugain nhiwrnod yr agorodd Noah ffenestr yr Arch yr hon a wnaethe efe.
7Ac efe a anfonodd allan gig-frân, a hi aeth, gan fyned allan a dychwelyd: hyd oni sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaiar.
8Yna’r anfonodd efe y golommen oddi wrtho, i weled a yscafnhause y dyfroedd oddi ar wyneb y ddaiar.
9Ac ni chafodd y golommen orphwysfa i wadn ei throed, am hynny hi a ddychwelodd atto ef i’r Arch, am [fod] y dyfroedd ar wyneb yr, holl-dîr: ac efe a estynnodd ei law, ac ai cymmerodd hi, ac ai derbynniodd hi atto i’r Arch.
10Ac efe a ddisgwiliodd etto saith niwrnod eraill, yna yr anfonodd efe eil-waith y golommen o’r Arch.
11A’r golommen a ddaeth atto ef ar bryd nawn, ac wele ddeilen oliwydden yn ei gylfin hi, wedi ei thynnu: yna y gwybu Noah yscafnahau y dyfroedd oddi ar y tir.
12Ac efe a ddisgwiliodd etto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd y golommen, ac ni ddychwelodd hi ail-waith atto ef mwy.
13Ac yn yr unfed flwyddyn a chwe chant, yn y [mîs] cyntaf, ar y [dydd] cyntaf o’r mîs, y darfu i’r dyfroedd sychu oddi ar y tir: a Noah a symmudodd gaead yr Arch, ac a edrychodd, ac wele wyneb y ddaiar a sychase.
14Ac yn yr ail mîs, ar y seithfed dydd ar hugain o’r mîs, y ddaiar a sychase.
15Yna y llefarodd Duw wrth Noah gan ddywedyd:
16Dos allan o’r Arch, ti, a’th wraig, a’th feibion, a gwragedd dy feibion, gyd a thi.
17Pôb bwyst-fil yr hwn [sydd] gyd a thi, o bôb cnawd, yn adar, ac yn anifeiliaid, ac yn bôb [rhyw] ymlusciad yn ymlusco ar y ddaiar, a ddygi allan gyd a thi: #Gen.1.22.|GEN 1:22. Gene.9.1.heigiant hwythau yn y ddaiar, a ffrwythant ac amlhânt ar y ddaiar.
18Yna Noah a aeth allan ai feibion, ai wraig, a gwragedd ei feibion, gyd ag ef.
19Pôb bwyst-fil, pôb pryf, a phôb ehediad, pôb ymlusciad ar y ddaiar, wrth eu rhywogaethau a daethant allan o’r Arch.
20A Noah a adailadodd allor i’r Arglwydd, ac a gymmerodd o bôb anifail glân, ac o bôb ehediad glân, ac a offrymmodd boeth offrymmau ar yr allor.
21Yna’r aroglodd yr Arglwydd arogl esmwyth; a dywedodd yr Arglwydd yn ei galon ni chwanegaf felldithio y ddaiar mwy er mwyn dŷn: er [bôd] brŷd calon dŷn yn ddrwg oi ieuenctid: ac ni chwanegaf mwy ladd pôb [peth] byw, fel y gwneuthum.
22Pryd hâu, a chynhaiaf, ac oerni, a gwrês, a hâf, a gaiaf, a dydd, a nôs, ni pheidiant mwy holl ddyddiau y ddaiar.

目前选定:

Genesis 8: BWMG1588

高亮显示

分享

复制

None

想要在所有设备上保存你的高亮显示吗? 注册或登录