Genesis 33

33
PEN. XXXIII.
4 Esau ac Iacob yn cyfarfod, ac yn cymmodi ai gilydd. 11 Esau yn derbyn anrhegion Iacob. 19 Iacob yn prynu dryll o dir. 20 Ac yn cyfodi allor.
1Ac Iacob a dderchafodd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele Esau yn dyfod a phedwar cant o wŷr: ac efe a rannodd y plant at Lea, ac at Rahel, ac at y ddwy law-forwyn.
2Ac ym mlaen, y gosododd efe y ddwy law-forwyn, ai plant hwynt: a Lea ai phlant hithe yn ol [y rhai hynny:] yno Rahel ac Ioseph yn olaf.
3Ac yntef a gerddodd oi blaen hwynt, ac a ymostyngodd i lawr seith-waith, oni ddaeth efe hyd at ei frawd.
4Yna Esau a redodd iw gyfarfod ef, ac ai cofleidiodd ef, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac ai cussanodd ef, a hwynt a wylasant.
5Ac a dderchafodd ei lygaid ac a ganfu y gwragedd, a’r plant, ac a ddywedodd, pwy yw y rhai hyn cennyt ti? yntef a ddywedodd y plant y rhai a roddes Duw i’th wâs di.
6Felly y llaw-forwynion a ddynessasant, hwynt-hwy, ai plant, ac a ymgrymmasant.
7Yna y nessaodd Lea, ai phlant hithe, ac a ymgrymmasant, ac wedi hynny y nessaodd Ioseph a Rahel, ac a ymgrymmasant.
8Yna [Esau] a ddywedodd, pa beth [yw] cennyt yr holl fintai accw yr hon a gyfarfûm i? yntef a ddywedodd [anfonais hwynt] i gael ffafor yng-olwg fy arglwydd.
9Ac Esau a ddywedodd y mae gennifi ddigon fy mrawd: bydded i ti yr hyn [sydd] gennyt.
10Ond Iacob a ddywedodd nage attolwg os cefais ffafor yn dy olwg: ond cymmer fy anrheg o’m llaw fi, gan weled o honof dy wyneb di, fel gweled wyneb Duw, a’th fod yn fodlon i mi.
11Cymmer attolwg fy anrheg, yr hon a dducpwyd i ti: o blegit Duw ai roddes i mi, ac am fod gennifi bôb peth: felly efe a fu daer arno ef, ac yntef a gymmerodd:
12Ac a ddywedodd cychwynnwn ac awn, a mi a âf oth flaen di.
13Yntef a ddywedodd wrtho, fy arglwydd a ŵyr mai tyner [yw] y plant, a [bod] y praidd a’r gwarthec blithion gŷd a’m fi: os gyrryr hwynt vn diwrnod yn rhy chwyrn, yna marw a wna yr holl braidd.
14Aed attolwg fy arglwydd o flaen ei wâs, a minne a ddeuaf yn araf gyd a’r anifeiliaid y rhai [ydynt] o’m blaen i, a chyd ar plant, hyd oni ddelwyf at fy arglwydd i Seir.
15Yna Esau a ddywedodd, gadawaf yn awr gyd a thi [rai] o’r bobl y rhai [ydynt] gennif fi: yntef a atebodd, I ba beth [y gwnei] hynny? cafwyf ffafor yng-olwg fy arglwydd.
16Felly Esau y dydd hwnnw a ddychwelodd ar hyd ei ffordd ei hun i Seir.
17Ac Iacob a gerddodd i Succoth, ac a adailadodd iddo dŷ, ac a wnaeth fythod iw anifeiliaid: am hynny efe a alwodd henw y lle Succoth.
18Hefyd Iacob a ddaeth yn llwyddiannus i ddinas Sichem, yr hon [sydd] yng-wlad Canaan, (pan ddaeth efe o Mesopotamia,) ac a wersyllodd o flaen y ddinas.
19Ac a brynodd rann o’r maes yr hwn yr estynnase ei babell ynddo, o law meibion Hemor, tâd Sichem, am gant darn o arian.
20Ac a ossododd yno allor, ac ai henwodd [allor] cadarn Dduw’r Israel.

目前选定:

Genesis 33: BWMG1588

高亮显示

分享

复制

None

想要在所有设备上保存你的高亮显示吗? 注册或登录