Genesis 11

11
PEN. XI.
Adailadaeth twr Babel. 7 Cymmysciad yr ieithoedd. 10 Hiliogaeth Sem, hyd Abraham.
1A’r holl dîr ydoedd o un-iaith, ac o vn ymadrodd.
2Ac wrth fudo o honynt o’r dwyrain, y cawsant wastadedd yn nhir Sinar, ac yno y trigâsant.
3Ac a ddywedasant bôb vn wrth ei gilydd, deuwch gwnawn briddfeini, a llosgwn yn boeth, felly ’r ydoedd ganddynt briddfeini yn lle cerric, a chlai oedd ganddynt yn lle calch.
4A dywedasant, moeswch, adailadwn i ni ddinas, a thŵr, ai nenn hyd y nefoedd, a gwnawn i ni enw rhac ein gwascaru rhyd wyneb yr holl ddaiar.
5Yna y descynnodd yr Arglwydd i weled y ddinas, a’r tŵr, y rhai a adailiade meibion dynion.
6A dywedodd yr Arglwydd, wele y bobl yn un, ac vn iaith iddynt oll, a dymma eu dechreuad hwynt ar weithio: ac yr awrhon nid oes rwystr arnynt am ddim oll ar a amcanasāt ei wneuthur.
7Deuwch descynnwn, a chymmyscwn yno eu hiaith hwynt fel na ddeallo vn iaith ei gilydd
8Felly yr Arglwydd ai gwascarodd hwynt oddi yno rhyd wyneb yr holl ddaiar, a pheidiasant ac adailadu y ddinas.
9Am hynny y gelwir ei henw hi Babel, o blegit yno y cymmyscodd yr Arglwydd iaith yr holl ddaiar, ac oddi yno y gwascarodd yr Arglwydd hwynt ar hyd wyneb yr holl ddaiar.
10Dymma genhedlaethau Sem, Sem [ydoedd] fâb can-mlwydd, ac a genhedlodd Arphaxad ddwy flynedd wedi ’r diluw.
11A Sem a fu fyw wedi iddo genhedlu Arphaxad bump can mlhynedd, ac a genhedlodd feibion, a merched.
12Arphaxad hefyd a fu fyw bymtheng mlhynedd, a’r hugain, ac a genhedlodd Selah.
13Ac Arphaxad a fu fyw gwedi iddo genhedlu Selah dair o flynyddoedd, a phedwar can mlhynedd: ac a genhedlodd feibion, a merched.
14Selah hefyd a fu fyw ddeng mlhynedd ar hugain, ac a genhedlodd Heber.
15A Selah a fu fyw wedi iddo genhedlu Heber dair o flynyddoedd a phedwar can mlhynedd: ac a genhedlodd feibion, a merched.
16Heber hefyd a fu fyw bedair blynedd ar ddêc ar hugain, ac a genhedlodd Peleg.
17A Heber a fu fyw wedi iddo genhedlu Peleg, ddeng mlhynedd ar hugain, a phedwar can mlhynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
18 # 1.Cron.1.19. Peleg hefyd a fu fyw ddeng mlhynedd ar hugain, ac a genhedlodd Reu,
19A Pheleg a fu fyw gwedi iddo genhedlu Reu, naw o flynyddoedd, a deucan mlhynedd, ac a genhedlodd feibion, a merched.
20Reu hefyd a fu fyw ddeu-ddeng mlhynedd ar hugain, ac a genhedlodd Serug.
21A Reu a fu fyw wedi iddo genhedlu Serug, saith o flynyddoedd a dau can mlhynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
22Serug hefyd a fu fyw ddeng mlhynedd ar hugain, ac a genhedlodd Nachor.
23Serug a fu fyw wedi iddo genhedlu Nachor, ddau can mlhynedd, ac a genhedlodd feibion, a merched.
24Nachor hefyd a fu fyw naw mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Tarah.
25A Nachor fu fyw wedi iddo genhedlu Tarah onid vn flwyddyn chwech ugain mlhynedd, ac a genhedlodd feibion, a merched.
26Tarah #1.Cron.1.26. Iosua.24.2.hefyd a fu fyw ddeng mlhynedd a thrugain, ac a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran.
27A dymma genedlaethau Tarah: Tarah a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran, a Haran a genhedlodd Lot.
28A Haran a fu farw o flaen Tarah ei dâd, yngwlad ei anedigaeth, o fewn Ur y Caldeaid.
29Yna y cymmerodd Abram, a Nachor iddynt wragedd, henw gwraig Abram [oedd] Sarai: a henw gwraig Nachor Milcha merch Hanan tâd Milcha, a thâd Iischa.
30A Sarai oedd amhlantadwy heb plentyn iddi.
31A Thara a gymmerodd Abram ei fâb, a Lot fâb Haran, mâb ei fâb, a Sarai ei waudd ef gwraig Abram ei fâb ef, a hwynt a aethant allan yng-hyd o #Iosua.24.2.|JOS 24:2. Nehe.9.7.|NEH 9:7. Act.7.4.Ur y Caldeaid, gan fyned tua thir Canaan, ac a ddaethant hyd yn Haran, ac a drigasant yno.
32A dyddiau Tarah oeddynt bump o flynyddoedd, a deucan mlhynedd, a bu farw Tarah yn Haran.

目前选定:

Genesis 11: BWMG1588

高亮显示

分享

复制

None

想要在所有设备上保存你的高亮显示吗? 注册或登录