Luc 23

23
Dod â Iesu gerbron Pilat
Mth. 27:1–2, 11–14; Mc. 15:1–5; In. 18:28–38
1Codasant oll yn dyrfa a dod ag ef gerbron Pilat. 2Dechreusant ei gyhuddo gan ddweud, “Cawsom y dyn hwn yn arwain ein cenedl ar gyfeiliorn, yn gwahardd talu trethi i Gesar, ac yn honni mai ef yw'r Meseia, sef y brenin.” 3Holodd Pilat ef: “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” Atebodd yntau ef, “Ti sy'n dweud hynny.#23:3 Neu, Yr wyt yn dweud y gwir.4Ac meddai Pilat wrth y prif offeiriaid a'r tyrfaoedd, “Nid wyf yn cael dim trosedd yn achos y dyn hwn.” 5Ond dal i daeru yr oeddent: “Y mae'n cyffroi'r bobl â'i ddysgeidiaeth, trwy Jwdea gyfan. Dechreuodd yng Ngalilea, ac y mae wedi cyrraedd hyd yma.”
Iesu gerbron Herod
6Pan glywodd Pilat hyn, gofynnodd ai Galilead oedd y dyn; 7ac wedi deall ei fod dan awdurdod Herod, cyfeiriodd yr achos ato, gan fod Herod yntau yn Jerwsalem y dyddiau hynny. 8Pan welodd Herod Iesu, mawr oedd ei lawenydd; bu'n awyddus ers amser hir i'w weld, gan iddo glywed amdano, ac yr oedd yn gobeithio ei weld yn cyflawni rhyw wyrth. 9Bu'n ei holi'n faith, ond nid atebodd Iesu iddo yr un gair. 10Yr oedd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion yno, yn ei gyhuddo yn ffyrnig. 11A'i drin yn sarhaus a wnaeth Herod hefyd, ynghyd â'i filwyr. Fe'i gwatwarodd, a gosododd wisg ysblennydd amdano, cyn cyfeirio'r achos yn ôl at Pilat. 12Daeth Herod a Philat yn gyfeillion i'w gilydd y dydd hwnnw; cyn hynny yr oedd gelyniaeth rhyngddynt.
Dedfrydu Iesu i Farwolaeth
Mth. 27:15–26; Mc. 15:6–15; In. 18:39—19:16
13Galwodd Pilat y prif offeiriaid ac aelodau'r Cyngor a'r bobl ynghyd, 14ac meddai wrthynt, “Daethoch â'r dyn hwn ger fy mron fel un sy'n arwain y bobl ar gyfeiliorn. Yn awr, yr wyf fi wedi holi'r dyn hwn yn eich gŵydd chwi, a heb gael ei fod yn euog o unrhyw un o'ch cyhuddiadau yn ei erbyn; 15ac ni chafodd Herod chwaith, oherwydd cyfeiriodd ef ei achos yn ôl atom ni. Fe welwch nad yw wedi gwneud dim sy'n haeddu marwolaeth. 16Gan hynny, mi ddysgaf wers iddo â'r chwip a'i ollwng yn rhydd.”#23:16 Yn ôl darlleniad arall ychwanegir adn. 17 Yr oedd yn rhaid iddo ryddhau un carcharor iddynt ar y Pasg. 18Ond gwaeddasant ag un llais, “Ymaith â hwn, rhyddha Barabbas inni.” 19Dyn oedd hwnnw wedi ei fwrw i garchar o achos gwrthryfel a llofruddiaeth oedd wedi digwydd yn y ddinas. 20Drachefn anerchodd Pilat hwy, yn ei awydd i ryddhau Iesu, 21ond bloeddiasant hwy, “Croeshoelia ef, croeshoelia ef.” 22Y drydedd waith meddai wrthynt, “Ond pa ddrwg a wnaeth ef? Ni chefais unrhyw achos i'w ddedfrydu i farwolaeth. Gan hynny, mi ddysgaf wers iddo â'r chwip a'i ollwng yn rhydd.” 23Ond yr oeddent yn pwyso arno â'u crochlefain byddarol, gan fynnu ei groeshoelio ef, ac yr oedd eu bonllefau yn ennill y dydd. 24Yna penderfynodd Pilat ganiatáu eu cais; 25rhyddhaodd yr hwn yr oeddent yn gofyn amdano, y dyn oedd wedi ei fwrw i garchar am wrthryfela a llofruddio, a thraddododd Iesu i'w hewyllys hwy.
Croeshoelio Iesu
Mth. 27:32–44; Mc. 15:21–32; In. 19:17–27
26Wedi mynd ag ef ymaith gafaelsant yn Simon, brodor o Cyrene, a oedd ar ei ffordd o'r wlad, a gosod y groes ar ei gefn, iddo ei chario y tu ôl i Iesu. 27Yr oedd tyrfa fawr o'r bobl yn ei ddilyn, ac yn eu plith wragedd yn galaru ac yn wylofain drosto. 28Troes Iesu atynt a dweud, “Ferched Jerwsalem, peidiwch ag wylo amdanaf fi; wylwch yn hytrach amdanoch eich hunain ac am eich plant. 29Oherwydd dyma ddyddiau yn dod pan fydd pobl yn dweud, ‘Gwyn eu byd y gwragedd diffrwyth a'r crothau nad esgorasant a'r bronnau na roesant sugn.’ 30Y pryd hwnnw bydd pobl yn dechrau
“ ‘Dweud wrth y mynyddoedd,
“Syrthiwch arnom”,
ac wrth y bryniau,
“Gorchuddiwch ni.” ’
31“Oherwydd os gwneir hyn i'r pren glas, pa beth a ddigwydd i'r pren crin?”
32Daethpwyd ag eraill hefyd, dau droseddwr, i'w dienyddio gydag ef. 33Pan ddaethant i'r lle a elwir Y Benglog, yno croeshoeliwyd ef a'r troseddwyr, y naill ar y dde a'r llall ar y chwith iddo. 34Ac meddai Iesu, “O Dad, maddau iddynt, oherwydd ni wyddant beth y maent yn ei wneud.”#23:34 Yn ôl darlleniad arall gadewir allan Ac meddai… yn ei wneud.” A bwriasant goelbrennau i rannu ei ddillad. 35Yr oedd y bobl yn sefyll yno, yn gwylio. Yr oedd aelodau'r Cyngor hwythau yn ei wawdio gan ddweud, “Fe achubodd eraill; achubed ei hun, os ef yw Meseia Duw, yr Etholedig.” 36Daeth y milwyr hefyd ato a'i watwar, gan gynnig gwin sur iddo, 37a chan ddweud, “Os ti yw Brenin yr Iddewon, achub dy hun.” 38Yr oedd hefyd arysgrif uwch ei ben: “Hwn yw Brenin yr Iddewon.”
39Yr oedd un o'r troseddwyr ar ei groes yn ei gablu gan ddweud, “Onid ti yw'r Meseia? Achub dy hun a ninnau.” 40Ond atebodd y llall, a'i geryddu: “Onid oes arnat ofn Duw, a thithau dan yr un ddedfryd? 41I ni, y mae hynny'n gyfiawn, oherwydd haeddiant ein gweithredoedd sy'n dod inni. Ond ni wnaeth hwn ddim o'i le.” 42Yna dywedodd, “Iesu, cofia fi pan ddoi i'th deyrnas#23:42 Yn ôl darlleniad arall, ddoi i deyrnasu..” 43Atebodd yntau, “Yn wir, rwy'n dweud wrthyt, heddiw byddi gyda mi ym Mharadwys.”
Marwolaeth Iesu
Mth. 27:45–56; Mc. 15:33–41; In. 19:28–30
44Erbyn hyn yr oedd hi tua hanner dydd. Daeth tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o'r gloch y prynhawn, 45a'r haul wedi diffodd. Rhwygwyd llen y deml yn ei chanol. 46Llefodd Iesu â llef uchel, “O Dad, i'th ddwylo di yr wyf yn cyflwyno fy ysbryd.” A chan ddweud hyn bu farw. 47Pan welodd y canwriad yr hyn oedd wedi digwydd, dechreuodd ogoneddu Duw gan ddweud, “Yn wir, dyn cyfiawn oedd hwn.” 48Ac wedi gweld yr hyn a ddigwyddodd, troes yr holl dyrfaoedd, a oedd wedi ymgynnull i wylio'r olygfa, tuag adref gan guro eu bronnau. 49Yr oedd ei holl gyfeillion, ynghyd â'r gwragedd oedd wedi ei ddilyn ef o Galilea, yn sefyll yn y pellter ac yn gweld y pethau hyn.
Claddu Iesu
Mth. 27:57–61; Mc. 15:42–47; In. 19:38–42
50Yr oedd dyn o'r enw Joseff, aelod o'r Cyngor a dyn da a chyfiawn, 51nad oedd wedi cydsynio â'u penderfyniad a'u gweithred hwy. Yr oedd yn hanu o Arimathea, un o drefi'r Iddewon, ac yn disgwyl am deyrnas Dduw. 52Aeth hwn at Pilat a gofyn am gorff Iesu. 53Wedi ei dynnu ef i lawr a'i amdói mewn lliain, gosododd ef mewn bedd wedi ei naddu, lle nad oedd neb hyd hynny wedi gorwedd. 54Dydd y Paratoad oedd hi, ac yr oedd y Saboth ar ddechrau. 55Fe ddilynodd y gwragedd oedd wedi dod gyda Iesu o Galilea, a gwelsant y bedd a'r modd y gosodwyd ei gorff. 56Yna aethant yn eu holau i baratoi peraroglau ac eneiniau.
Atgyfodiad Iesu
Mth. 28:1–10; Mc. 16:1–8; In. 20:1–10
Ar y Saboth buont yn gorffwys yn ôl y gorchymyn.

目前选定:

Luc 23: BCNDA

高亮显示

分享

复制

None

想要在所有设备上保存你的高亮显示吗? 注册或登录