1
Salmau 40:1-2
Detholiad o’r Salmau 1936 (Lewis Valentine)
Disgwyl a hir-ddisgwyl a fûm wrth Iehofa, Troi a wnaeth yntau ataf, a chlywed fy ngwaedd. Cododd fi o bydew diffaith, o laid bawlyd, A gosododd fy nhraed ar graig, a chadarnhau fy nghamre.
Ṣe Àfiwé
Ṣàwárí Salmau 40:1-2
2
Salmau 40:3
Rhoddodd gân newydd yn fy ngenau, A honno yn gân o foliant i’n Duw ni. O weld hyn, ofnodd llawer, ac ymddiried yn Iehofa.
Ṣàwárí Salmau 40:3
3
Salmau 40:4
O mor hapus yw’r gŵr sydd yn gwneuthur Iehofa yn hyder iddo, Heb droi byth at eilunod na gwyro at beth celwyddog.
Ṣàwárí Salmau 40:4
4
Salmau 40:8
Hyfryd gennyf yw gwneuthur Dy ewyllys, O Dduw; Dy gyfraith Di sydd yn fy nghalon.
Ṣàwárí Salmau 40:8
5
Salmau 40:11
Nac atal Dithau, O Iehofa, Dy drugareddau oddi wrthyf; Cadwed Dy gariad a’th ffyddlondeb fi yn wastad.
Ṣàwárí Salmau 40:11
Ilé
Bíbélì
Àwon ètò
Àwon Fídíò