YouVersion Logo
تلاش

Luc 24

24
1Ar y dydd cyntaf o'r wythnos, ar doriad gwawr, daethant at y bedd gan ddwyn y peraroglau yr oeddent wedi eu paratoi. 2Cawsant y maen wedi ei dreiglo i ffwrdd oddi wrth y bedd, 3ond pan aethant i mewn ni chawsant gorff yr Arglwydd Iesu.#24:3 Yn ôl darlleniad arall, ni chawsant y corff. 4Yna, a hwythau mewn penbleth ynglŷn â hyn, dyma ddau ddyn yn ymddangos iddynt mewn gwisgoedd llachar. 5Daeth ofn arnynt, a phlygasant eu hwynebau tua'r ddaear. Meddai'r dynion wrthynt, “Pam yr ydych yn ceisio ymhlith y meirw yr hwn sy'n fyw? 6Nid yw ef yma; y mae wedi ei gyfodi.#24:6 Yn ôl darlleniad arall gadewir allan Nid yw ef yma; y mae wedi ei gyfodi. Cofiwch fel y llefarodd wrthych tra oedd eto yng Ngalilea, 7gan ddweud ei bod yn rhaid i Fab y Dyn gael ei draddodi i ddwylo pechaduriaid, a'i groeshoelio, a'r trydydd dydd atgyfodi.” 8A daeth ei eiriau ef i'w cof. 9Dychwelsant o'r bedd, ac adrodd yr holl bethau hyn wrth yr un ar ddeg ac wrth y lleill i gyd. 10Mair Magdalen a Joanna a Mair mam Iago oedd y gwragedd hyn; a'r un pethau a ddywedodd y gwragedd eraill hefyd, oedd gyda hwy, wrth yr apostolion. 11Ond i'w tyb hwy, lol oedd yr hanesion hyn, a gwrthodasant gredu'r gwragedd. 12Ond cododd Pedr a rhedeg at y bedd; plygodd i edrych, ac ni welodd ddim ond y llieiniau. Ac aeth ymaith, gan ryfeddu wrtho'i hun at yr hyn oedd wedi digwydd.#24:12 Yn ôl darlleniad arall gadewir allan Ond cododd Pedr… wedi digwydd.
Cerdded i Emaus
Mc. 16:12–13
13Yn awr, yr un dydd, yr oedd dau ohonynt ar eu ffordd i bentref, oddeutu un cilomedr ar ddeg o Jerwsalem, o'r enw Emaus. 14Yr oeddent yn ymddiddan â'i gilydd am yr holl ddigwyddiadau hyn. 15Yn ystod yr ymddiddan a'r trafod, nesaodd Iesu ei hun atynt a dechrau cerdded gyda hwy, 16ond rhwystrwyd eu llygaid rhag ei adnabod ef. 17Meddai wrthynt, “Beth yw'r sylwadau hyn yr ydych yn eu cyfnewid wrth gerdded?” Safasant hwy, a'u digalondid yn eu hwynebau. 18Atebodd yr un o'r enw Cleopas, “Rhaid mai ti yw'r unig ymwelydd â Jerwsalem nad yw'n gwybod am y pethau sydd wedi digwydd yno y dyddiau diwethaf hyn.” 19“Pa bethau?” meddai wrthynt. Atebasant hwythau, “Y pethau sydd wedi digwydd i Iesu o Nasareth, dyn oedd yn broffwyd nerthol ei weithredoedd a'i eiriau yng ngŵydd Duw a'r holl bobl. 20Traddododd ein prif offeiriaid ac aelodau ein Cyngor ef i'w ddedfrydu i farwolaeth, ac fe'i croeshoeliasant. 21Ein gobaith ni oedd mai ef oedd yr un oedd yn mynd i brynu Israel i ryddid, ond at hyn oll, heddiw yw'r trydydd dydd er pan ddigwyddodd y pethau hyn. 22Er hynny, fe'n syfrdanwyd gan rai gwragedd o'n plith; aethant yn y bore bach at y bedd, 23a methasant gael ei gorff, ond dychwelsant gan daeru eu bod wedi gweld angylion yn ymddangos, a bod y rheini'n dweud ei fod ef yn fyw. 24Aeth rhai o'n cwmni allan at y bedd, a'i gael yn union fel y dywedodd y gwragedd, ond ni welsant mohono ef.” 25Meddai Iesu wrthynt, “Mor ddiddeall ydych, ac mor araf yw eich calonnau i gredu'r cwbl a lefarodd y proffwydi! 26Onid oedd yn rhaid i'r Meseia ddioddef y pethau hyn, a mynd i mewn i'w ogoniant?” 27A chan ddechrau gyda Moses a'r holl broffwydi, dehonglodd iddynt y pethau a ysgrifennwyd amdano ef ei hun yn yr holl Ysgrythurau.
28Wedi iddynt nesáu at y pentref yr oeddent ar eu ffordd iddo, cymerodd ef arno ei fod yn mynd ymhellach. 29Ond meddent wrtho, gan bwyso arno, “Aros gyda ni, oherwydd y mae hi'n nosi, a'r dydd yn dirwyn i ben.” Yna aeth i mewn i aros gyda hwy. 30Wedi cymryd ei le wrth y bwrdd gyda hwy, cymerodd y bara a bendithio, a'i dorri a'i roi iddynt. 31Agorwyd eu llygaid hwy, ac adnabuasant ef. A diflannodd ef o'u golwg. 32Meddent wrth ei gilydd, “Onid oedd ein calonnau ar dân ynom wrth iddo siarad â ni ar y ffordd, pan oedd yn egluro'r Ysgrythurau inni?” 33Codasant ar unwaith a dychwelyd i Jerwsalem. Cawsant yr un ar ddeg a'u dilynwyr wedi ymgynnull ynghyd 34ac yn dweud fod yr Arglwydd yn wir wedi ei gyfodi, ac wedi ymddangos i Simon. 35Adroddasant hwythau yr hanes am eu taith, ac fel yr oeddent wedi ei adnabod ef ar doriad y bara.
Ymddangos i'r Disgyblion
Mth. 28:16–20; Mc. 16:14–18; In. 20:19–23; Act. 1:6–8
36Wrth iddynt ddweud hyn, ymddangosodd ef yn eu plith, ac meddai wrthynt, “Tangnefedd i chwi.”#24:36 Yn ôl darlleniad arall gadewir allan ac meddai… i chwi.” 37Yn eu dychryn a'u hofn, yr oeddent yn tybied eu bod yn gweld ysbryd. 38Gofynnodd iddynt, “Pam yr ydych wedi cynhyrfu? Pam y mae amheuon yn codi yn eich meddyliau? 39Gwelwch fy nwylo a'm traed; myfi yw, myfi fy hun. Cyffyrddwch â mi a gwelwch, oherwydd nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn fel y canfyddwch fod gennyf fi.” 40Wrth ddweud hyn dangosodd iddynt ei ddwylo a'i draed.#24:40 Yn ôl darlleniad arall gadewir allan Wrth ddweud… a'i draed. 41A chan eu bod yn eu llawenydd yn dal i wrthod credu ac yn rhyfeddu, meddai wrthynt, “A oes gennych rywbeth i'w fwyta yma?” 42Rhoesant iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio. 43Cymerodd ef, a bwyta yn eu gŵydd.
44Dywedodd wrthynt, “Dyma ystyr fy ngeiriau a leferais wrthych pan oeddwn eto gyda chwi: ei bod yn rhaid i bob peth gael ei gyflawni sy'n ysgrifenedig amdanaf yng Nghyfraith Moses a'r proffwydi a'r salmau.” 45Yna agorodd eu meddyliau, iddynt ddeall yr Ysgrythurau. 46Meddai wrthynt, “Fel hyn y mae'n ysgrifenedig: fod y Meseia i ddioddef, ac i atgyfodi oddi wrth y meirw ar y trydydd dydd, 47a bod edifeirwch, yn foddion maddeuant pechodau, i'w gyhoeddi#24:47 Yn ôl darlleniad arall, edifeirwch a maddeuant pechodau i'w cyhoeddi. yn ei enw ef i'r holl genhedloedd, gan ddechrau yn Jerwsalem. 48Chwi yw'r tystion i'r pethau hyn. 49Ac yn awr yr wyf fi'n anfon arnoch yr hyn a addawodd fy Nhad; chwithau, arhoswch yn y ddinas nes eich gwisgo chwi oddi uchod â nerth.”
Esgyniad Iesu
Mc. 16:19–20; Act. 1:9–11
50Aeth â hwy allan i gyffiniau Bethania. Yna cododd ei ddwylo a'u bendithio. 51Wrth iddo'u bendithio, fe ymadawodd â hwy ac fe'i dygwyd i fyny i'r nef.#24:51 Yn ôl darlleniad arall gadewir allan ac fe'i… i'r nef. 52Wedi iddynt ei addoli ar eu gliniau,#24:52 Yn ôl darlleniad arall gadewir allan Wedi… ar eu gliniau. dychwelsant yn llawen iawn i Jerwsalem. 53Ac yr oeddent yn y deml yn ddi-baid, yn bendithio Duw.

موجودہ انتخاب:

Luc 24: BCND

سرخی

شئیر

کاپی

None

کیا آپ جاہتے ہیں کہ آپ کی سرکیاں آپ کی devices پر محفوظ ہوں؟ Sign up or sign in