Luc 22
22
Y Cynllwyn i Ladd Iesu
Mth. 26:1–5, 14–16; Mc. 14:1–2, 10–11; In. 11:45–53
1Yr oedd gŵyl y Bara Croyw, y Pasg fel y'i gelwir, yn agosáu. 2Yr oedd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion yn ceisio modd i'w ladd, oherwydd yr oedd arnynt ofn y bobl. 3Ac aeth Satan i mewn i Jwdas, a elwid Iscariot, hwnnw oedd yn un o'r Deuddeg. 4Aeth ef a thrafod gyda'r prif offeiriaid a swyddogion gwarchodlu'r deml sut i fradychu Iesu iddynt. 5Cytunasant yn llawen iawn i dalu arian iddo. 6Cydsyniodd yntau, a dechreuodd geisio cyfle i'w fradychu ef iddynt heb i'r dyrfa wybod.
Paratoi Gwledd y Pasg
Mth. 26:17–25; Mc. 14:12–21; In. 13:21–30
7Daeth dydd gŵyl y Bara Croyw, pryd yr oedd yn rhaid lladd oen y Pasg. 8Anfonodd ef Pedr ac Ioan gan ddweud, “Ewch a pharatowch inni gael bwyta gwledd y Pasg.” 9Meddent hwy wrtho, “Ble yr wyt ti am inni ei pharatoi?” 10Atebodd hwy, “Wedi i chwi fynd i mewn i'r ddinas fe ddaw dyn i'ch cyfarfod, yn cario stenaid o ddŵr. Dilynwch ef i'r tŷ yr â i mewn iddo, 11a dywedwch wrth ŵr y tŷ, ‘Y mae'r Athro yn gofyn i ti, “Ble mae f'ystafell, lle yr wyf i fwyta gwledd y Pasg gyda'm disgyblion?” ’ 12Ac fe ddengys ef i chwi oruwchystafell fawr wedi ei threfnu; yno paratowch.” 13Aethant ymaith, a chael fel yr oedd ef wedi dweud wrthynt, a pharatoesant wledd y Pasg.
Sefydlu Swper yr Arglwydd
Mth. 26:26–30; Mc. 14:22–26; 1 Cor. 11:23–25
14Pan ddaeth yr awr, cymerodd ei le wrth y bwrdd, a'r apostolion gydag ef. 15Meddai wrthynt, “Mor daer y bûm yn dyheu am gael bwyta gwledd y Pasg hwn gyda chwi cyn imi ddioddef! 16Oherwydd rwy'n dweud wrthych na fwytâf hi byth hyd nes y cyflawnir hi yn nheyrnas Dduw.” 17Derbyniodd gwpan, ac wedi diolch meddai, “Cymerwch hwn a rhannwch ef ymhlith eich gilydd. 18Oherwydd rwy'n dweud wrthych nad yfaf o hyn allan o ffrwyth y winwydden hyd nes y daw teyrnas Dduw.” 19Cymerodd fara, ac wedi diolch fe'i torrodd a'i roi iddynt gan ddweud, “Hwn yw fy nghorff, sy'n cael ei roi er eich mwyn chwi; gwnewch hyn er cof amdanaf.” 20Yr un modd hefyd fe gymerodd y cwpan ar ôl swper gan ddweud, “Y cwpan hwn yw'r cyfamod newydd yn fy ngwaed i, sy'n cael ei dywallt er eich mwyn chwi.#22:20 Yn ôl darlleniad arall gadewir allan sy'n cael ei roi… ei dywallt er eich mwyn chwi. Yn adn. 20 gellir cyfieithu: Y cwpan hwn, sy'n cael ei dywallt er eich mwyn chwi, yw'r cyfamod newydd yn fy ngwaed i. 21Ond dyma law fy mradychwr gyda'm llaw i ar y bwrdd. 22Oherwydd y mae Mab y Dyn yn wir yn mynd ymaith, yn ôl yr hyn sydd wedi ei bennu, ond gwae'r dyn hwnnw y bradychir ef ganddo!” 23A dechreusant ofyn ymhlith ei gilydd p'run ohonynt oedd yr un oedd am wneud hynny.
Y Ddadl ynglŷn â Mawredd
24Cododd cweryl hefyd yn eu plith: p'run ohonynt oedd i'w gyfrif y mwyaf? 25Meddai ef wrthynt, “Y mae brenhinoedd y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a'r rhai sydd ag awdurdod drostynt yn cael eu galw yn gymwynaswyr. 26Ond peidiwch chwi â gwneud felly. Yn hytrach, bydded y mwyaf yn eich plith fel yr ieuengaf, a'r arweinydd fel un sy'n gweini. 27Pwy sydd fwyaf, yr un sy'n eistedd wrth y bwrdd neu'r un sy'n gweini? Onid yr un sy'n eistedd? Ond yr wyf fi yn eich plith fel un sy'n gweini. 28Chwi yw'r rhai sydd wedi dal gyda mi trwy gydol fy nhreialon. 29Ac fel y cyflwynodd fy Nhad deyrnas i mi, yr wyf finnau yn cyflwyno un i chwi; 30cewch fwyta ac yfed wrth fy mwrdd i yn fy nheyrnas i, ac eistedd ar orseddau gan farnu deuddeg llwyth Israel.
Rhagfynegi Gwadiad Pedr
Mth. 26:31–35; Mc. 14:27–31; In. 13:36–38
31“Simon, Simon, dyma Satan wedi eich hawlio chwi, i'ch gogrwn fel ŷd; 32ond yr wyf fi wedi deisyf drosot ti na fydd dy ffydd yn pallu. A thithau, pan fyddi wedi dychwelyd ataf, cadarnha dy frodyr.” 33Meddai ef wrtho, “Arglwydd, gyda thi rwy'n barod i fynd i garchar ac i farwolaeth.” 34“Rwy'n dweud wrthyt, Pedr,” atebodd ef, “ni chân y ceiliog heddiw cyn y byddi wedi gwadu deirgwaith dy fod yn fy adnabod i.”
Pwrs, Cod a Chleddyf
35Dywedodd wrthynt, “Pan anfonais chwi allan heb bwrs na chod na sandalau, a fuoch yn brin o ddim?” “Naddo,” atebasant. 36Meddai yntau, “Ond yn awr, os oes gennych bwrs, ewch ag ef gyda chwi, a'ch cod yr un modd; ac os nad oes gennych gleddyf, gwerthwch eich mantell a phrynu un. 37Rwy'n dweud wrthych fod yn rhaid cyflawni ynof fi yr Ysgrythur sy'n dweud: ‘A chyfrifwyd ef gyda throseddwyr.’ Oherwydd y mae'r hyn a ragddywedwyd amdanaf fi yn dod i ben.” 38“Arglwydd,” atebasant hwy, “dyma ddau gleddyf.” Meddai yntau wrthynt, “Dyna ddigon.”
Y Weddi ar Fynydd yr Olewydd
Mth. 26:36–46; Mc. 14:32–42
39Yna aeth allan, a cherdded yn ôl ei arfer i Fynydd yr Olewydd, a'i ddisgyblion hefyd yn ei ddilyn. 40Pan gyrhaeddodd y fan, meddai wrthynt, “Gweddïwch na ddewch i gael eich profi.” 41Yna ymneilltuodd Iesu oddi wrthynt tuag ergyd carreg, a chan benlinio dechreuodd weddïo 42gan ddweud, “O Dad, os wyt ti'n fodlon, cymer y cwpan hwn oddi wrthyf. Ond gwneler dy ewyllys di, nid fy ewyllys i.” 43Ac ymddangosodd angel o'r nef iddo, a'i gyfnerthu. 44Gan gymaint ei ing, yr oedd yn gweddïo'n ddwysach, ac yr oedd ei chwys fel dafnau o waed yn diferu ar y ddaear.#22:44 Yn ôl darlleniad arall gadewir allan Ac ymddangosodd… ar y ddaear. 45Cododd o'i weddi a mynd at ei ddisgyblion a'u cael yn cysgu o achos eu gofid. 46Meddai wrthynt, “Pam yr ydych yn cysgu? Codwch, a gweddïwch na ddewch i gael eich profi.”
Bradychu a Dal Iesu
Mth. 26:47–56; Mc. 14:43–50; In. 18:3–11
47Tra oedd yn dal i siarad, fe ymddangosodd tyrfa, a Jwdas, fel y'i gelwid, un o'r Deuddeg, ar ei blaen. Nesaodd ef at Iesu i'w gusanu. 48Meddai Iesu wrtho, “Jwdas, ai â chusan yr wyt yn bradychu Mab y Dyn?” 49Pan welodd ei ddilynwyr beth oedd ar ddigwydd, meddent, “Arglwydd, a gawn ni daro â'n cleddyfau?” 50Trawodd un ohonynt was yr archoffeiriad a thorri ei glust dde i ffwrdd. 51Atebodd Iesu, “Peidiwch! Dyna ddigon!” Cyffyrddodd â'r glust a'i hadfer. 52Yna meddai Iesu wrth y rhai oedd wedi dod yn ei erbyn, y prif offeiriaid a swyddogion gwarchodlu'r deml a'r henuriaid, “Ai fel at leidr, â chleddyfau a phastynau, y daethoch allan? 53Er fy mod gyda chwi beunydd yn y deml, ni wnaethoch ddim i'm dal. Ond eich awr chwi yw hon, a'r tywyllwch biau'r awdurdod.”
Pedr yn Gwadu Iesu
Mth. 26:57–58, 69–75; Mc. 14:53–54, 66–72; In. 18:12–18, 25–27
54Daliasant ef, a mynd ag ef ymaith i mewn i dŷ'r archoffeiriad. Yr oedd Pedr yn canlyn o hirbell. 55Cyneuodd rhai dân yng nghanol y cyntedd, ac eistedd gyda'i gilydd. Eisteddodd Pedr yn eu plith. 56Gwelodd morwyn ef yn eistedd wrth y tân, ac wedi syllu arno meddai, “Yr oedd hwn hefyd gydag ef.” 57Ond gwadodd ef a dweud, “Nid wyf fi'n ei adnabod, ferch.” 58Yn fuan wedi hynny gwelodd un arall ef, ac meddai, “Yr wyt tithau yn un ohonynt.” Ond meddai Pedr, “Nac ydwyf, ddyn.” 59Ymhen rhyw awr, dechreuodd un arall daeru, “Yn wir yr oedd hwn hefyd gydag ef, oherwydd Galilead ydyw.” 60Meddai Pedr, “Ddyn, nid wyf yn gwybod am beth yr wyt ti'n sôn.” Ac ar unwaith, tra oedd yn dal i siarad, canodd y ceiliog. 61Troes yr Arglwydd ac edrych ar Pedr, a chofiodd ef air yr Arglwydd wrtho, “Cyn i'r ceiliog ganu heddiw, fe'm gwedi i deirgwaith.” 62Aeth allan ac wylo'n chwerw.#22:62 Yn ôl darlleniad arall gadewir allan Aeth allan… chwerw.
Gwatwar a Churo Iesu
Mth. 26:67–68; Mc. 14:65
63Yr oedd gwarcheidwaid Iesu yn ei watwar a'i guro. 64Rhoesant orchudd amdano, a dechrau ei holi gan ddweud, “Proffwyda! Pwy a'th drawodd?” 65A dywedasant lawer o bethau cableddus eraill wrtho.
Iesu gerbron y Sanhedrin
Mth. 26:59–66; Mc. 14:55–64; In. 18:19–24
66Pan ddaeth yn ddydd, cyfarfu Cyngor henuriaid y bobl, y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion. Daethant ag ef gerbron eu brawdlys 67gan ddweud, “Os ti yw'r Meseia, dywed hynny wrthym.” Meddai yntau wrthynt, “Os dywedaf hynny wrthych, fe wrthodwch gredu; 68ac os holaf chwi, fe wrthodwch ateb. 69O hyn allan bydd Mab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw Gallu Duw.” 70Meddent oll, “Ti felly yw Mab Duw?” Atebodd hwy, “Chwi sy'n dweud mai myfi yw.#22:70 Neu, Yr ydych yn dweud y gwir; myfi yw.” 71Yna meddent, “Pa raid inni wrth dystiolaeth bellach? Oherwydd clywsom ein hunain y geiriau o'i enau ef.”
موجودہ انتخاب:
Luc 22: BCND
سرخی
شئیر
کاپی
کیا آپ جاہتے ہیں کہ آپ کی سرکیاں آپ کی devices پر محفوظ ہوں؟ Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004