Psalmau 8
8
Y Psalm. VIII. Awdl Gywydd.
1O Arglwydh ein Harglwydh ni,
Mawr yw d’enwi mor dyner,
I ’r dhaear oll, ar dhŵr oedh,
Uwch nefoedh a’i chynnifer!
2Yn ein plith o enau plant
Dy ogoniant, deg Wiwner;
Ag o enau ’r plant gweinion,
Dy nerth a wnaed, dawn wyrth Nêr;
Ag i gau dig a gwag dôn
D’elynion y dilyner;
A ’r dialwr, bradwr bryn,
Os gelyn yw ysgeler.
3Pan edrychwy’, mwyfwy im’ oedh,
Uwch nefoedh a’i chynnifer;
Gwaith dy fysedh arwedhiad,
Iôr, llwyr sad yw ’r lloer a ’r sêr:
4Beth yw dyn, heb obaith da,
I’w goffa, a ’r a gaffer?
Na mab dyn, a’i gyndyn gêd,
I’w ymweled a’i moler?
5Creaist ef îs dilis dôn
Angylion yngo a weler;
Cafodh goron ogonawl,
Arwydh o fawl, rhodh dhifer.
6Ti a’i gwnaeth i lywodraethu
Dy waith, a bu o daith bêr:
Dano fo, da iawn i fyd,
Di a osodyd, dwys hyder,
7Ychen a lafurien’ laid
Yno, a defaid nid ofer;
O ’r meusydh a ’r gwŷdh fe gaid
Anifeiliaid yn faelier;
8Holl adar nef, lle daw ’r nod
O bysgod môr a basger;
A rodia oll ei rad oedh
Uwch nefoedh a’i chynnifer.
9O Arglwydh ein Harglwydh ni,
Mawr yw d’enwi mor dyner, & c.
موجودہ انتخاب:
Psalmau 8: SC1595
سرخی
شئیر
کاپی

کیا آپ جاہتے ہیں کہ آپ کی سرکیاں آپ کی devices پر محفوظ ہوں؟ Sign up or sign in
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.