YouVersion Logo
تلاش

Psalmau 4

4
Y bedwaredh Psalm. Cywydh devair hirion.
1Clyw fi naf coelia fy ner;
Cof fendith am kyfiawnder:
Gollyngaist fi gweithiaist ged;
O gaeth awydh gaethiwed.
Moes ras am vrdhas y mi
Yngwydh a gwrando ’ngwedhi.
2Clowch feibion dynion dinerth
Pa hyd o aflwydh swydh serth:
Y gogenir gogoniant
Ich plith kywilydh ich plant:
Drwy garn mewn drwg weryd
O goegedh balch gwagedh byd
A cheisiaw heb achosion,
Gelwydh serth gywilydh son.
3Gwybydhwch, nodwch yn ol
Yn dha dhoeth i dhuw dhethol;
Dynion a gar daioni;
Da ir rhain a rydh Duw rhi.
Eglyw oe ras gwaelwr wyf
O goel yr awr y galwyf.
4Na phechwch drwy serthwch sou
Ackw a holwch ych kalon:
Yn ych gwely felly fydh
Bodh wych lawn bydhwch lonydh.
5Offrymwch aberth perthyn
Im ner kyfiownder a fynn,
A rhowch ych goglyd yn rhwydh
O wirglaim ar yr arglwydh.
6Llawer o wyr ir lle’r ant
O dhadwrdh mawr a dhwe dant:
Pwy yw r neb ai pair y ni
Dinag weled daioni.
Dyrcha lewych drych lawen
Hynod wedh yni dy wen.
7Rhoist im kalon ffynnon ffydh
I llonaid or llawenydh:
Mwy nag amser dyner don
Ffraethlef kynhaeaf firwythlon:
Ban i llanwyd, bv’n llonwych
Gwenith a gwin gweniaith gwych.
8Gorwedhaf kysgaf rhag kawdh
A hedhwch am anhvdhawdh:
Dvw’n vnig didhig lle del,
Dy gaist fi i le diogel.

موجودہ انتخاب:

Psalmau 4: SC1595

سرخی

شئیر

کاپی

None

کیا آپ جاہتے ہیں کہ آپ کی سرکیاں آپ کی devices پر محفوظ ہوں؟ Sign up or sign in