Psalmau 2
2
Yr ail Psalm. Cywydh deuair hirion hefyd.
1PA ffromi brochi bar oedh
Eigion vdlais genhedloedh?
Pobloedh ar gyhoedh bob gant
Oferedh a fyfyriant.
2Brenhn we [...]ch at barn hynod
Yn erhyn Duw gloewdhuw glod,
Ag yn erbyn, gw [...] oerwyll,
I Gri [...] ef a gwersi [...] wyll.
3Torrwn, medhant, kyn teirawr
I rhwymau ae maglau mawr.
4Y gwr o nef, gewrain ior,
A gai etto yw gwaiwor.
5Yno dywad ein dewin
Ban dhigid y bai lid blin:
Yn i angerdh vniawngof
Yr ofnant, kiliant oe kof.
6Irais ef teg yw ’r araith,
Frenin Seion, dirion daith.
7Traethaf a brysiaf heb rus,
Ys da yttoedh dy status;
Dwedaist, fy vnduw ydwyd,
Imi o barch, fy mab wyd,
Hedhyw y mab hawdh om ais
Gain odli i’th genhedlais.
8O gof vniawn gofyni
Rwydhfyd hwnt, rhodhaf yti
Y kenhedloedh gyhoedh gant,
Ytifed hiaeth it’ fydhant:
Ag eithafion gwchion gwar
Mawr duedh mor a daear.
9Dy wïalen lle delyd,
Durn gwyllt, a’u darnia i gyd,
Fal padell o bridhell bron
A friwesid yn friwsion.
10Pob barnwr trewynwr trin,
Pob barwniaid, pob brenin,
Dysgwch eiriau dewisgall,
Dysgwch i gael dysg wych gall.
11Gwinaethwch gwelwch eich gwaith,
Adholwch wirdhuw eilwaith,
Drwy ofn a saifdrefnu serch,
Ag arswyd o gowirserch.
12Cusan ir mab, arab yw;
I lidio, peryil ydyw:
Alladh a wnaiff llaw dhuw ’n wir
Os digia ni ostegir:
Gwỳn i fyd, ni […] gwanna i foes
I bob vn, i bob einioes:
Arydh ei oglyd ae rann
Yn faith ar Dhuw nef weithian.
موجودہ انتخاب:
Psalmau 2: SC1595
سرخی
شئیر
کاپی
کیا آپ جاہتے ہیں کہ آپ کی سرکیاں آپ کی devices پر محفوظ ہوں؟ Sign up or sign in
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.