Joel 1

1
PEN. I.—
1Gair yr Arglwydd yr hwn a fu at Joel fab Pethuel.#Bathouel. LXX. Bethuel. Syr. Phatuel. Vulg.
2Gwrandewch hyn yr henafgwyr;
A rhoddwch glust;
Holl breswylwyr y wlad:
A fu hyn#y fath bethau. LXX. yn eich dyddiau chwi;
Ac os yn nyddiau eich tadau.
3Mynegwch am dano#am danynt. LXX. i’ch plant:
A’ch plant i’w plant hwynt;
A’u plant hwythau i genedlaeth arall.
4Gweddill pryf y rhwd#campe. LXX. a fwytaodd y locust;
A gweddill y locust a fwytaodd y lindys:#bruchus. LXX.
A gweddill y lindys a fwytaodd y chesil.#difrodydd, y rhwd. LXX., Vulg.
5Deffrowch feddwon ac wylwch;
A chwynwch holl yfwyr gwin:
Am y gwin newydd#hyd feddwdod. LXX y rhai a yfwch win mewn hyfrydwch. Vulg.;
Canys torwyd ef oddiwrth eich min.#cymerwyd o’ch genau hyfrydwch a llawenydd. LXX.
6Canys cenedl a ddaeth i fyny ar fy ngwlad;
Gref ac annifeiriol:
Ei danedd ydynt ddanedd llew;
A childdanedd llewes#llew; cenaw llew. LXX. Syr., Vulg. sydd iddi.
7Hi a ddifrododd fy ngwinwydden:
A hi a ddrylliodd fy ffigyswydden:
Gan ddirisglo hi a’i dirisglodd ac a’i taflodd ymaith;
Ei changenau a wynasant.
8Cwyna#cwyna wrthyf yn fwy na gwyryf. LXX. fel gwyryf wedi ei gwregysu â sachlïan,
Am wr ei hieuenctyd.
9Torwyd offrwm bwyd ac offrwm diod#aberth a diod o dy. LXX., Vulg. oddiwrth dŷ yr Arglwydd:
Galarodd#galarwch. LXX, breninoedd a eisteddasant mewn tristwch a’r offeiriaid. Syr. yr offeiriaid;
Gweinidogion yr Arglwydd.
10Difrodwyd maes#ardal. Vulg.;
Galarodd daear:
Canys difrodwyd ŷd;
Sychodd gwin newydd, pallodd olew.
11Cywilyddiwych,#cywilyddiasant. lafurwyr,
Wylwch#udasant. Vulg. winwyddwyr;
Am wenith ac am haidd:
Canys darfu cynhauaf maes.
12Gwywodd y winwydden;
Methodd y ffigyswydden:
Pomgranad, palmwydden hefyd ac afallen,#afalwydden.
Holl goed y maes a wywasant;
Canys sychodd llawenydd oddiwrth feibion dynion.
13Ymwregyswch a galerwch yr offeiriaid,
Wylwch weinidogion allor:
Ewch, gorweddwch#cysgwch. LXX. yn y sachlieiniau;
Weinidogion fy Nuw:
Canys ataliwyd#darfyddodd. Vulg. oddiwrth dŷ eich Duw,
Offrwm bwyd ac offrwm diod.#aberth a diod. LXX. Vulg.
14Cysegrwch ympryd, gelwch gymanfa;
Cesglwch, henuriaid,#cesglwch henuriaid, holl. holl drigolion y wlad;
I dŷ yr Arglwydd eich Duw:
A gwaeddwch ar yr Arglwydd.#yr Arglwydd eich Duw, a dywedwch. Syr.
15Och i’r dydd;#och i fi, och i fi, och i fi at y dydd. LXX. och, och i’r. Syr. och, och, och i’r. Vulg.
Canys agos yw dydd yr Arglwydd;
Ac fel difrod oddiwrth yr Hollalluog#fel trallod o drallod y daw. LXX. oddiwrth Dduw. Syr. oddiwrth alluog. Vulg. y daw.
16Onid yn ngwydd ein llygaid y torwyd ymaith fwyd:
Llawenydd a gorfoledd o dŷ ein Duw.
17Pydrodd hadau dan eu cwysau;#llamodd aneirod wrth eu presebau. LXX. rhostiodd aneirod wrth eu. Syr. pydrodd anifeiliaid yn eu tail eu hun. Vulg.
Anrheithiwyd ystorfëydd;
Dinystriwyd ysguboriau,#y cafnau gwasgu. Syr.
Canys ŷd a wywodd.
18Pa fodd y cwyna anifeiliaid,#griddfan y mae yr anifail. Syr.
Yr aflonydda#wylodd. LXX., Syr. brefodd. Vulg. minteiodd gwartheg;
Am nad oes borfa iddynt:
Deadelloedd y defaid hefyd a ddifrodwyd.
19Atat ti, Arglwydd, y llefaf:#ar yr Arglwydd y. Syr.
Canys tân a ddifaodd borfeydd#brydferth leoedd yr. LXX., Vulg. drigfeydd. Syr. yr anialwch;
A fflam a oddeithiodd holl goed y maes.
20Anifeiliaid maes#fel man yn sychedu am wlaw. Vulg. hefyd a ddysgwyliant#edrychasant i fyny. LXX. Vulg. wrthyt ti:
Canys sychodd y ffrydiau dwfr;
A thân a ysodd borfeydd#drigfeydd. Syr. yr anialwch.

موجودہ انتخاب:

Joel 1: PBJD

سرخی

شئیر

کاپی

None

کیا آپ جاہتے ہیں کہ آپ کی سرکیاں آپ کی devices پر محفوظ ہوں؟ Sign up or sign in

اس Joel 1 کے مطابق مفت مطالعاتی منصوبے اور عقیدت بھرے پیغام

YouVersion آپ کے تجربے کو ذاتی بنانے کے لیے کوکیز کا استعمال کرتا ہے۔ ہماری ویب سائٹ کا استعمال کرتے ہوئے، آپ ہماری کوکیز کے استعمال کو قبول کرتے ہیں جیسا کہ ہماری رازداری کی پالیسیمیں بیان کیا گیا ہے۔