Luc 13
13
A.D. 33. —
1 Crist yn pregethu edifeirwch, wrth gosbedigaeth y Galileaid, ac eraill. 6 Y ffigysbren ddiffrwyth ni chaiff sefyll. 11 Crist yn iacháu y wraig oedd wedi crymu: 18 yn ddangos galluog weithrediad y gair yng nghalonnau ei etholedigion, trwy ddameg y gronyn mwstard, a’r surdoes: 24 yn annog i fyned i mewn trwy y porth cyfyng: 31 ac yn argyhoeddi Herod, a Jerwsalem.
1Ac yr oedd yn bresennol y cyfamser hwnnw rai yn mynegi iddo am y Galileaid, y rhai, y cymysgasai Peilat eu gwaed ynghyd â’u haberthau. 2A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrthynt, Ydych chwi yn tybied fod y Galileaid hyn yn bechaduriaid mwy na’r holl Galileaid, am iddynt ddioddef y cyfryw bethau? 3Nac oeddynt, meddaf i chwi: eithr, onid edifarhewch, chwi a ddifethir oll yn yr un modd. 4Neu’r deunaw hynny ar y rhai y syrthiodd y tŵr yn Siloam, ac a’u lladdodd hwynt: a ydych chwi yn tybied eu bod hwy yn #13:4 ddyledwyr.bechaduriaid mwy na’r holl ddynion oedd yn cyfanheddu yn Jerwsalem? 5Nac oeddynt, meddaf i chwi: eithr, onid edifarhewch, chwi a ddifethir oll yn yr un modd.
6Ac efe a ddywedodd y ddameg hon: #Esa 5:2; Mat 21:19Yr oedd gan un ffigysbren wedi ei blannu yn ei winllan; ac efe a ddaeth i geisio ffrwyth arno, ac nis cafodd. 7Yna efe a ddywedodd wrth y gwinllannydd, Wele, tair blynedd yr ydwyf yn dyfod, gan geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn; ac nid ydwyf yn cael dim: tor ef i lawr; paham y mae efe yn diffrwytho’r tir? 8Ond efe gan ateb a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gad ef y flwyddyn hon hefyd, hyd oni ddarffo i mi gloddio o’i amgylch, a bwrw tail: 9Ac os dwg efe ffrwyth, da: onid e, gwedi hynny tor ef i lawr. 10Ac yr oedd efe yn dysgu yn un o’r synagogau ar y Saboth.
11Ac wele, yr oedd gwraig ac ynddi ysbryd gwendid ddeunaw mlynedd, ac oedd wedi cydgrymu, ac ni allai hi mewn modd yn y byd #13:11 Neu, ymddatgrymu.ymunioni. 12Pan welodd yr Iesu hon, efe a’i galwodd hi ato, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, rhyddhawyd di oddi wrth dy wendid. 13Ac efe a roddes ei ddwylo arni: ac yn ebrwydd hi a unionwyd, ac a ogoneddodd Dduw. 14A’r archsynagogydd a atebodd yn ddicllon, am i’r Iesu iacháu ar y Saboth, ac a ddywedodd wrth y bobl, #Exod 20:9Chwe diwrnod sydd, yn y rhai y dylid gweithio: ar y rhai hyn gan hynny deuwch, a iachaer chwi: ac #Mat 12:10; Marc 3:2; Pen 6:7; 14:3nid ar y dydd Saboth. 15Am hynny yr Arglwydd a’i hatebodd ef, ac a ddywedodd, O ragrithiwr, #Pen 14:5oni ollwng pob un ohonoch ar y Saboth ei ych neu ei asyn o’r preseb, a’i arwain i’r dwfr? 16Ac oni ddylai hon, #Pen 19:9a hi yn ferch i Abraham, yr hon a rwymodd Satan, wele, ddeunaw mlynedd, gael ei rhyddhau o’r rhwym hwn ar y dydd Saboth? 17Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn, ei holl wrthwynebwyr ef a gywilyddiasant: a’r holl bobl a lawenychasant am yr holl bethau gogoneddus a wneid ganddo.
18 #
Mat 13:31; Marc 4:30 Ac efe a ddywedodd, I ba beth y mae teyrnas Dduw yn debyg? ac i ba beth y cyffelybaf hi? 19Tebyg yw i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymerodd dyn, ac a’i heuodd yn ei ardd; ac efe a gynyddodd, ac a aeth yn bren mawr, ac adar yr awyr a nythasant yn ei ganghennau ef. 20A thrachefn y dywedodd, I ba beth y cyffelybaf deyrnas Dduw? 21Cyffelyb yw i surdoes, yr hwn a gymerodd gwraig, ac a’i cuddiodd mewn tri mesur o flawd, hyd oni surodd y cwbl oll. 22#Mat 9:35; Marc 6:6Ac efe a dramwyodd trwy ddinasoedd a threfi, gan athrawiaethu, ac ymdeithio tua Jerwsalem.
23A dywedodd un wrtho, Arglwydd, ai ychydig yw y rhai cadwedig? Ac efe a ddywedodd wrthynt, 24#Mat 7:13Ymdrechwch am fyned i mewn trwy’r porth cyfyng: canys #Edrych Ioan 7:34; 8:21; 13:33; Rhuf 9:31llawer, meddaf i chwi, a geisiant fyned i mewn, ac nis gallant. 25#Salm 32:6; Esa 55:6Gwedi cyfodi gŵr y tŷ, a #Mat 25:10chau’r drws, a dechrau ohonoch sefyll oddi allan, a churo’r drws, gan ddywedyd, #Pen 6:46Arglwydd, Arglwydd, agor i ni; ac iddo yntau ateb a dywedyd wrthych, #Mat 25:12Nid adwaen ddim ohonoch o ba le yr ydych: 26Yna y dechreuwch ddywedyd, Ni a fwytasom ac a yfasom yn dy ŵydd di, a thi a ddysgaist yn ein heolydd ni. 27#Mat 7:23; 25:41; Ad. 25Ac efe a ddywed, Yr wyf yn dywedyd i chwi, Nid adwaen chwi o ba le yr ydych: #Salm 6:8; Mat 25:41ewch ymaith oddi wrthyf, chwi holl weithredwyr anwiredd. 28#Mat 8:12; 13:42; 24:51Yno y bydd wylofain a rhincian dannedd, #Mat 8:11pan weloch Abraham, ac Isaac, a Jacob, a’r holl broffwydi, yn nheyrnas Dduw, a chwithau wedi eich bwrw allan. 29A daw rhai o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, ac o’r gogledd, ac o’r deau, ac a eisteddant yn nheyrnas Dduw. 30#Mat 19:30; 20:16; Marc 10:31Ac wele, olaf ydyw’r rhai a fyddant flaenaf, a blaenaf ydyw’r rhai a fyddant olaf.
31Y dwthwn hwnnw y daeth ato ryw Phariseaid, gan ddywedyd wrtho, Dos allan, a cherdda oddi yma: canys y mae Herod yn ewyllysio dy ladd di. 32Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, a dywedwch i’r cadno hwnnw, Wele, yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid, ac yn iacháu heddiw ac yfory, a’r trydydd dydd y’m perffeithir. 33Er hynny rhaid i mi ymdaith heddiw ac yfory, a thrennydd: canys ni all fod y derfydd am broffwyd allan o Jerwsalem. 34#Mat 23:37O Jerwsalem, Jerwsalem, yr hon wyt yn lladd y proffwydi, ac yn llabyddio’r rhai a anfonir atat: pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd, y modd y casgl yr iâr ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech! #13:34 nythaid. 35Wele, eich tŷ a adewir i chwi yn anghyfannedd. Ac yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, Ni welwch fi, hyd oni ddêl yr amser pan ddywedoch, #Salm 118:26Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd.
موجودہ انتخاب:
Luc 13: BWM1955C
سرخی
شئیر
کاپی
کیا آپ جاہتے ہیں کہ آپ کی سرکیاں آپ کی devices پر محفوظ ہوں؟ Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society