Iago EPISTOL IAGO.
EPISTOL IAGO.
Nid Iago, brawd Ioan, ond Iago mab Cleopas, oedd ysgrifenydd yr epistol hwn. Ei fam oedd Mair, cyfnither Mair y Forwyn, fel y mae yn debygol, gan y gelwid ef yn frawd i’n Harglwydd, Gal. 1:19; o herwydd arferir brawd yn aml yn yr Ysgrythyr am berthynas agos.
Bu ammheuaeth gan rai yn yr oesoedd cyntaf ynghylch yr Epistol hwn, pa un ai Iago a’i hysgrifenodd, neu rywun arall tan ei enw; ond barn gyffredin yn bresennol yw mai efe oedd ei awdwr. Un prawf neillduol o hyn ydyw, ddarfod i’r Epistol hwn ymddangos fel rhan o’r Ysgrythyr yn y Cyfieithiad Syriaeg, y cyntaf a wnaed, sef ynghylch dechreuad yr ail ganrif.
Yr achos o ysgrifenu yr Epistol yn amlwg oedd, y camddefnydd a wnaed o athrawiaeth gwir rad. Nodir yr un gwyrdröad gan Paul yn Rhuf. 6, a manau eraill. Rhad, llwyr annhaeddiannol, a digonol i’r penaf o bechaduriaid, a ddirmygir ac a wrthodir gan rai; a chan eraill troir ef i benrhyddid. Yn erbyn y diweddaf yr ysgrifenodd Iago.
Yn ol hanes eglwysig, cafodd Iago ei roi i farwolaeth yn y flwyddyn 62, gan y werin benboeth yn Jerusalem a gynhyrfid gan yr offeiriaid Iuddewig.
EPISTOL IAGO
موجودہ انتخاب:
Iago EPISTOL IAGO.: CJO
سرخی
شئیر
کاپی

کیا آپ جاہتے ہیں کہ آپ کی سرکیاں آپ کی devices پر محفوظ ہوں؟ Sign up or sign in
Proffwydi ac Epistolau gan John Owen. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.