1 Pedr 3
3
PEN. III.
1Yn yr un modd y gwragedd, ymostyngwch i’ch gwŷr priod, fel y byddo iddynt, od oes neb heb ufuddhâu i’r gair, gael eu hennill heb y gair trwy ymarweddiad y gwragedd, 2wrth ganfod eich hymarweddiad diwair#3:2 Dihalog, dianllad, glân, pur. ynghydag ofn: 3y rhai, bydded eu haddurn,#3:3 Neu, “tlysni,” harddwch, prydferthwch. nid yr un allanol, o blethu gwallt, ac o amgylchu âg aur, neu o wisgo dillad;#3:3 Sef, gwneyd gormod o hyn, gan roddi’r bryd arno. 4ond cuddiedig ddyn y galon, yn yr hyn sydd anllygredig, yr addurn o ysbryd addfwyn a dystaw,#3:4 Neu, “tawel,” yn wrthwyneb i ysbryd cynhenus, grwgnachlyd; fel y mae “addfwyn” yn wrthwyneb i ysbryd nwydwyllt, uchelfryd, a digofus. Nid hollol y gwarafunir yr addurn allanol, ond mewn cymhariaeth, megys y gwarafunir “llafurio” yn Ioan 6:27 yr hwn sydd ger bron Duw yn dra gwerthfawr. 5Oblegid felly gynt hefyd yr addurnai eu hunain y gwragedd diwair a obeithient yn Nuw, gan fod yn ostyngedig i’w gwŷr priod; 6megys Sara, yr hon a ufuddhäodd i Abraham, gan ei alw yn Arglwydd: yr hon, ei merched ydych, tra y gwneloch yr hyn sydd dda, ac nac ofnwch unrhyw fraw.#3:6 Oddiwrth eu gwŷr digred, pan fygythient hwy o ran eu ffydd. Yr oeddent i roddi ofn parch (adn. 2) ac i ymgadw rhag ofn dychryn.
7Y gwŷr yn yr un modd, cydgyfanneddwch â hwynt yn ol gwybodaeth,#3:7 O sefyllfa a gofynion y berthynas rhyngddynt, trwy roddi anrhydedd iddynt megys i’r llestr gwanaf, ac hefyd megys i’r rhai ydynt gydetifeddion o’r bywyd rhad, o’r bywyd a rad roddir. Rhuf 6:23. gan roddi anrhydedd i’r gwragedd megys i’r llestr gwanaf, ac megys i’r rhai a gydetifeddant rad y bywyd, fel na rwystrer eich gweddïau.
8Yn ddiweddaf, byddwch oll o gyffelyb feddwl,#3:8 Nid o un ond o gyffelyb feddwl. — Tynergalon, neu yn dosturiol, yn hytrach nag yn drugarog. — Cyfeillgar, yn caru fel cyfaill. yn cydymdeimlo, yn frawdgar, yn dynergalon, yn gyfeillgar; 9nid yn talu drwg am ddrwg, neu sen am sen; ond yn y gwrthwyneb, yn bendithio; gan wybod y galwyd chwi i hyn, sef fel yr etifeddoch fendith. 10“Oblegid y neb a fyno garu bywyd a gweled dyddiau da, cadwed ei dafod oddiwrth ddrwg a’i wefusau rhag llefaru twyll; 11gocheled ddrwg a gwnaed dda, ceisied heddwch a dilyned ef. 12O herwydd llygaid yr Arglwydd ydynt ar y cyfiawn, a’i glustiau tuag at eu gweddi; ond wyneb yr Arglwydd sydd yn erbyn y rhai a wnant ddrwg.”#3:12 Salm 34:12-16. Gwna’r apostol ychydig gyfnewidiad: arfera’r trydydd dynsawd yn lle yr ail; cadwed, yn lle cadw.
13A phwy a’ch dryga os gwnewch ddilyn yr hyn sydd dda? 14Ond os y dyoddefwch hefyd o herwydd cyfiawnder, dedwydd ydych; a rhag eu hofn nac ofnwch, ac na chynhyrfer chwi; 15ond sancteiddiwch yr Arglwydd Dduw yn eich calonau;#3:15 Neu anrhydeddwch Dduw, trwy ei ofni Ef yn fwy na neb, a thrwy ei gyfrif yn alluog i’ch cynnal a’ch gwaredu tan bob amgylchiad. a byddwch barod bob amser i ateb pob un, a ofyno air#3:15 Llythyrenol yw hyn, a hollol ddealladwy yn y Gymraeg. ynghylch y gobaith sydd ynoch, gydag addfwynder ac ofn;#3:15 Sef o barch: “atebwch yn fwyn ac yn barchus.” 16gan gadw cydwybod dda,#3:16 Heb wneuthur yr hyn sydd groes i’r hyn a dybiom yn gywir. fel yn gymaint ag yr absenant chwi fel drwgweithredwyr, y cywilyddio y rhai a gamgyhuddant eich ymarweddiad da yn Nghrist.
17Canys gwell dyoddef, os myn ewyllys Duw, am wneuthur da, nag am wneuthur drwg: 18oblegid Crist hefyd unwaith a ddyoddefodd dros bechodau, y cyfiawn dros yr anghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw, gan gael ei farwolaethu yn y cnawd, ond ei fywhâu gan yr Ysbryd: 19yr hwn hefyd yr aethai trwyddo,#3:19 Cyffelyb i’r hyn a ddywed Paul am Grist gwedi ei esgyniad i’r nef, “Ac efe a ddaeth ac a bregethodd,” &c. Eph. 2:17 ac y pregethasai i’r ysbrydion yn awr yn ngharchar,#3:19 Attodiad T. Bu llawer o ysgrifenu ynghylch yr adnod hon; ond yr ystyr a gymeradwyir yn gyffredin yw’r un a ddynodir yma. Cyfrifir fod yn awr yn ofynedig gan gynt yn yr adnod a ganlyn. Dyma olygiad Beza, Doddridge, Macknight, a Scott. 20gynt yn anufudd, pan yr arosodd wrthynt hiramynedd Duw yn nyddiau Noa, tra darparid yr arch, yr hon yr achubwyd ynddi ychydig o eneidiau, sef wyth, trwy ddwfr; 21yr hwn y gwna arwydd gyferbyniol iddo, sef bedydd, ein hachub ni (nid bwrw ymaith fudreddi y cnawd, ond amodiad#3:21 Nid ymateb yw ystyr y gair; arwydda ammodi neu gyfammodi, yr hyn a wneir gan y bedyddiedig. Cydwybod dda, sef onest, ddiragrith. cydwybod dda tuag at Dduw) trwy adgyfodiad Iesu Grist; 22yr hwn sydd ar ddeheulaw Duw, wedi myned i’r nefoedd, angelion a goruchafiaethau a galluoedd yn ddarostyngedig iddo.
موجودہ انتخاب:
1 Pedr 3: CJO
سرخی
شئیر
کاپی

کیا آپ جاہتے ہیں کہ آپ کی سرکیاں آپ کی devices پر محفوظ ہوں؟ Sign up or sign in
Proffwydi ac Epistolau gan John Owen. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.