Переклади Біблії

Y Beibl Cyssegr-lan 1588 (William Morgan) - Argraffiad gwreiddiol

Welsh, Galés

William Morgan

Cafodd William Morgan ei eni tua 1545, yn Nhŷ Mawr, Wybrnant, plwyf Penmachno, ger Betws-y-Coed yng Ngogledd Cymru (sydd bellach yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol).

Astudiodd yng Nghaergrawnt a graddiodd gyda B.A. yn 1568 ac M.A. yn 1571, B.D. yn 1578 a D.D. yn 1583. Yr oedd yn hyddysg yn yr ieithoedd Beiblaidd, hanes yr Eglwys a diwinyddiaeth.

Ordeiniwyd Morgan yn glerigwr Anglicanaidd yn 1568. Yn 1572 aeth i weinidogaethu gyntaf ym mhlwyf Llanbadarn Fawr, yng Ngheredigion. Yn 1575 symudodd i'r Trallwng, sir Drefaldwyn. Yn 1578 daeth yn ficer Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Yna yn 1595 daeth yn Esgob Llandaf, ac wedi hynny yn 1601 yn esgob Llanelwy. Bu farw yn 1604.

Gwaith cyfieithu

Ym 1563 pasiodd y Senedd Ddeddf yn gorchymyn bod y Beibl a'r Llyfr Gweddi i'w cyfieithu i'r iaith Frytanaidd (h.y. y Gymraeg) erbyn Dydd Gŵyl Dewi (1af Mawrth) 1567. Cafodd Cyfieithiadau o'r Testament Newydd, a'r Llyfr Gweddi Anglicanaidd, a oedd yn cynnwys y Salmau, eu cyhoeddi yn 1567. Gwaith William Salesbury oedd y rhain yn bennaf.

Tua 1578, tra oedd yn ficer Llanrhaeadr-ym-Mochnant, dechreuodd William Morgan ar y gwaith o gwblhau'r gwaith o gyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg. Adolygodd gyfieithiad 1567 o'r Salmau a'r Testament Newydd . Yna aeth ymlaen i gyfieithu'r gweddill o'r Hen Destament o'r Hebraeg, a'r Apocrypha o'r Roeg a'r Lladin.

Cyhoeddi

Ym 1588 cyhoeddwyd y Beibl llawn cyntaf yn y Gymraeg, gan gynnwys yr Apocryffa, yn Llundain. Argraffwyd mewn llythrennau Gothig du. Y bwriad oedd ei ddefnyddio yn yr eglwysi yn hytrach na chartrefi.

Roedd yr argraffiad hwn o'r Beibl yn cynnwys Cysegriad i’r Frenhines Elisabeth I, wedi'i ysgrifennu gan William Morgan yn Lladin. Argraffwyd ef gan Ddirprwyon Christopher Barker, argraffydd i'r Frenhines Elisabeth I. Y teitl gwreiddiol arno oedd Y Beibl Cyssegr-Lan ond bellach mae'n cael ei adnabod ar lafar fel Beibl William Morgan. 

Y fersiwn o Feibl William Morgan a ddefnyddiwyd gydol y rhan fwyaf o hanes Cymru oedd diwygiad 1620 o \it Feibl William Morgan\it* John Davies Mallwyd. Argraffwyd hwn yn aml gyda Salmau Cân Edmwnd Prys.

Argraffiad 1955 yw’r argraffiad o \it Feibl William Morgan\it* a ddefnyddir fel arfer heddiw, sef testun diwygiad 1620 wedi'i ddiweddaru gan Gymdeithas y Beibl i ddilyn confensiynau sillafu cyfoes.

Nodiadau ar y testun

Defnyddiai argraffiad 1588 linell dros lafariad olaf gair i ddynodi'r llythyren derfynol. Er enghraifft mae ī neu ō ar ddiwedd gair yn dynodi mai m neu n yw'r llythyren olaf. Mae'r rhain wedi'u cadw i adlewyrchu'r gwreiddiol. Yn rhifyn 1588 roedd rhai nodiadau ymyl i nodi dechrau (☞) a diwedd (☜) darlleniadau litwrgaidd o'r geiriadur Anglicanaidd. Mae'r rhain wedi'u trosi'n droednodiadau. Roedd y Beibl hefyd yn cynnwys llawer o groes-gyfeiriadau, ac mae'r rhain wedi eu cadw yn yr argraffiad hwn. Maent yn cael eu marcio yn y testun gan seren (*).

Fersiwn Digidol

Cafodd yr argraffiad hwn o gyfieithiad gwreiddiol William Morgan (1588) ei ddigido yn 2022, a’i wirio yn ochr yn ochr â ffacsimile o'r gwreiddiol sydd i'w weld ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru https://www. llyfrgell. cymru/darganfod/oriel-ddigidol/deunydd-print/beibl-cymraeg-1588.

English:

William Morgan

William Morgan was born about 1545, at Tŷ Mawr, Wybrnant, in the parish of Penmachno, near Betws-y-Coed in North Wales (now a National Trust property).

He studied at Cambridge and graduated with B.A. in 1568 and M.A. in 1571, B.D. in 1578 and D.D. in 1583. He was proficient in biblical languages, Church history and theology.

Morgan was ordained as an Anglican clergyman in 1568. In 1572 his first appointment was to the parish of Llanbadarn Fawr, in Ceredigion. In 1575 he moved to Welshpool (Y Trallwng), in Montgomeryshire. In 1578 he became vicar of Llanrhaeadr-ym-Mochnant. In 1595 he became Bishop of Llandaff, and then in 1601 bishop of St Asaph (Llanelwy). He died in 1604.

Translation work

In 1563 Parliament passed an Act ordering that the Bible and Prayer Book be translated into the British (i. e. Welsh) language by Saint David’s Day (1st March) 1567. Translations of the New Testament, and the Anglican Prayer Book which included the Psalms, were both published in 1567. These were mainly the work of William Salesbury.

About 1578, whilst vicar of Llanrhaeadr-ym-Mochnant, William Morgan started work on completing the Welsh Bible. He revised the existing 1567 Psalms and New Testament. He translated the rest of the Old Testament from Hebrew, and the Apocrypha from Greek and Latin.

Publication

In 1588 the first full Bible in Welsh, which included the Apocrypha, was published in London. It was printed in black letter Gothic characters. It was intended for church rather than home use. The Bible included a Dedication to Queen Elizabeth I, which William Morgan wrote in Latin. It was printed by the Deputies of Christopher Barker, printer to Queen Elizabeth I. It was originally called Y Beibl Cyssegr-Lan, but it is popularly known as Beibl William Morgan.

The version of Beibl William Morgan which was used through most of Welsh history was the 1620 revision of William Morgan's translation by John Davies of Mallwyd. This was often printed with Edmwnd Prys’s Metrical Psalms.

The edition of the Beibl William Morgan usually used today is the 1955 edition, which is the text from 1620 revision, which was adapted for modern spelling conventions by the Bible Society.

Notes on the text

The 1588 edition used a line over a final vowel to indicate a final letter. For example ī or ō at the end of the word indicate a final m or n. These have been retained to reflect the original.

In the 1588 edition there were some margin notes to mark the start (☞) and end (☜) of liturgical readings from the Anglican lectionary. These have been converted into footnotes.

The Bible included many cross-references, which have been kept in this edition. These are marked in the text by an asterisk (*).

Digital Edition

This original 1588 edition of the Welsh Bible was digitised in 2022, and checked against an original scanned copy, which can be seen on the National Library of Wales website https: //www. llyfrgell. cymru/darganfod/oriel-ddigidol/deunydd-print/beibl-cymraeg-1588 


British & Foreign Bible Society

BWMG1588 ВИДАВЕЦЬ

Дізнатися більше

Інші видання від British & Foreign Bible Society