1
Genesis 11:6-7
beibl.net 2015, 2024
bnet
Ac meddai, “Maen nhw wedi dechrau gwneud hyn am eu bod nhw’n un bobl sy’n siarad yr un iaith. Does dim byd yn eu rhwystro nhw rhag gwneud beth bynnag maen nhw eisiau. Dewch, gadewch i ni fynd i lawr a chymysgu eu hiaith nhw, fel na fyddan nhw’n deall ei gilydd yn siarad.”
Порівняти
Дослідити Genesis 11:6-7
2
Genesis 11:4
“Dewch,” medden nhw, “gadewch i ni adeiladu dinas fawr i ni’n hunain, gyda thŵr uchel yn estyn i fyny i’r nefoedd. Byddwn ni’n enwog, a fydd dim rhaid i ni gael ein gwasgaru drwy’r byd i gyd.”
Дослідити Genesis 11:4
3
Genesis 11:9
Roedd y ddinas yn cael ei galw yn Babel am mai dyna ble wnaeth yr ARGLWYDD gymysgu ieithoedd pobl, a’u gwasgaru drwy’r byd.
Дослідити Genesis 11:9
4
Genesis 11:1
Ar un adeg, un iaith oedd drwy’r byd i gyd. Roedd pawb yn defnyddio’r un geiriau.
Дослідити Genesis 11:1
5
Genesis 11:5
A dyma’r ARGLWYDD yn dod i lawr i edrych ar y ddinas a’r tŵr roedd y bobl yn eu hadeiladu.
Дослідити Genesis 11:5
6
Genesis 11:8
Felly dyma’r ARGLWYDD yn eu gwasgaru nhw drwy’r byd i gyd, a dyma nhw’n stopio adeiladu’r ddinas.
Дослідити Genesis 11:8
Головна
Біблія
Плани
Відео