Iöb 31
31
XXXI.
1 # 31:1-4 Rhesymmau a’i rhwystrent ef rhag pechu o honaw. # 31:1 sef na thrachwantent Ammod a wneuthum i â’m llygaid,
Gan hynny pa #Mat. 5:28.ystyriant a roddaswn i ar wyryf?
2A pha beth (yw) ’r rhan (oddi wrth) Dduw oddi uchod,
A’r etifeddiaeth (oddi wrth) yr Hollalluog o’r uchelderau?
3— Onid dinystr i’r drygionus,
Ac aflwydd i wneuthurwŷr annuwioldeb?
4Onid Efe oedd yn gweled fy ffyrdd,
Ac yn cyfrif fy holl gamrau?
5Os rhodiais mewn oferedd,
A phrysuro o’m troed i dwyll,
6Pwysed Efe fi mewn cloriannau cyfiawnder,
A gwybydded Duw fy niniweidrwydd.
7 # 31:7 sef ffordd duwioldeb. Os gŵyrodd fy ngherddediad allan o’r ffordd,
# 31:7 chwant Ac ar ol fy llygaid yr aeth fy nghalon,
Ac wrth fy nwylaw y glynodd mefl,
8Bydded i mi hâu ac arall fwytta,
Ac i’m hiliogaeth gael eu dadwreiddio:
9Os trawsddenwyd fy nghalon o achos gwraig,
# 31:9 nes iddo fyned allan Ac wrth ddrws fy nghymmydog y cynllwynais,
10 # 31:10 aed hi yn gaeth ac yn ordderch-wraig. Maled fy ngwraig i (wr) arall,
A throsti penlinied ereill,
11Canys #31:11 sef pe buasai iddo wneuthur godinebhynny (sydd) anfadrwydd,
A hynny yn bechod (i’w gospi gan) y barnwŷr,
12Ië tân (yw) hynny, hyd ddistryw yr ysa,
A’m holl eiddo a ddadwreiddiai efe:
13Os dïystyrais iawn achos fy ngwas
A’m llaw-forwyn, pan ymrysonent â mi,
14Yna pa beth a wnawn i pan gyfodai Duw,
A phan ymwelai Efe, pa beth a attebwn i Iddo?
15— Onid yn y groth yr Hwn a’m gwnaeth i a’i gwnaeth yntau,
Ac Un a’n lluniodd ni yn y bru? —
16Os naccëais chwennychiad yr anghenogion,
Ac i lygaid y weddw y perais #31:16 gan ddïystyru chraffolygiad wrth gardotta.nychdod,
17Ac y bwyttëais fy nhammaid yn unig,
Ac na fwyttâodd yr amddifad o hono,
18— Yn hytrach, o’m hieuengctid y mawrhâodd efe fi fel tad,
Ac o groth fy mam yr hyfforddais #31:18 y weddwhithau;
19Os gwelais un ar drengi heb ddillad,
A diffyg gorchudd gan yr anghenog,
20Os na fendithiodd ei lwynau Ef fi,
A chan gnu fy ŵyn nad ymgynhesodd efe;
21Os ysgydwais fy llaw yn erbyn yr amddifad,
Am i mi weled fy #31:21 sef, y gwnai ’r barnwyr bleidio gydag ef.nghymmorth yn y porth,
22Bydded i’m hysgwydd syrthio oddi wrth ei chrafell,
Ac i’m hiselin ei chwilfriwio oddi wrth y fraich,
23— #31:23 yr achos na orthrym-masai efe.O herwydd mai arswyd i mi (oedd) dinystr Duw,
A rhag Ei ardderchowgrwydd Ef na allwn ddim; —
24Os gwneuthum aur yn hyder i mi,
Ac wrth yr aur coeth y dywedais “Fy ymddiried (wyt):”
25Os llawenychais am mai mawr (oedd) fy nghyfoeth,
Ac am mai helaethrwydd a ennillodd fy llaw:
26 # 31:26 sef i’w haddoli Os edrychais at y gannaid pan dywynnai,
Ac at y lleuad yn cerdded yn ddisglaer,
27Ac y trawshudwyd fy nghalon yn y dirgel,
A’m llaw a #31:27 math o addoliad (adoratio) 1 Bren. 19:18.gusanodd fy ngenau,
28Hefyd hyn (fuasai) bechod i’r barnwŷr (ei gospi)
Am wadu o honof Dduw oddi uchod:
29Os llawenychais yn nhrychineb fy nghasâwr,
Ac #31:29 sef â llawenyddymgyffrôi o honof am i ddrwg gael hŷd iddo,
30— (Naddo,) ond ni channiattêais i daflod fy ngenau bechu
I ofyn ei einioes ef trwy regiad: —
31 # 31:31 llettygarwch Iöb. Os na ddywedodd dynion fy #31:31 gwel sylwad ar 1:3.mhabell,
“Pwy a ddengys (y dyn) na orddigonwyd o’i gig ef?”
32— Yn yr heol ni lettyai ’r dieithr ddyn,
# 31:32 pan droseddasai yn erbyn rhyw un nid oedd ganddo ofn i gyfaddef hynny i’r hwn y pechasai efe yn ei erbyn Fy nrysau i’r ymdeithydd a agorwn i: —
33Os celais, fel (y gwna) dyn, fy nghamweddau,
Gan guddio fy nhrosedd yn fy mynwes,
34O herwydd i mi ofni y dyrfa liosog,
Ac i ddirmyg teuluoedd fy nychrynu,
Fel y tâwn (ac) nad awn allan o’m drws —
35O na bai i mi y neb a’m gwrandawai!
Wele fy #31:35 =ei groes i dystiolaethu i’r hyn a ddywedasai efe.arwyddnod. Bydded i’r Hollalluog fy atteb!
Ac (o na bai) gennyf y gyhuddgwyn a ’sgrifenodd fy ymddadleuwr!
36 # 31:36 er mwyn ei dangos i bawb. Onid ar fy ysgwydd y dygwn i hi,
Ac y’i rhwymwn hi yn goron i mi?
37 # 31:37 ei fuchedd oll Rhifedi fy nghamrau a fynegwn i Iddo,
Fel #31:37 heb ofntywysog y nesâwn atto Ef:
38Os yn fy erbyn y mae fy nhir yn llefain,
Ac hefyd ei gwysau ŷnt yn wylo,
39Os ei gryfdwr a fwyttêais #31:39 heb dalu am dano.heb arian,
Ac enaid ei berchennogion a chwŷthais ar wasgar,
40Yn lle gwenith deued allan (o hono) ddrain,
Ac yn lle haidd chwỳn niweidiol!
Diweddwyd geiriau Iöb.
Seçili Olanlar:
Iöb 31: CTB
Vurgu
Paylaş
Kopyala

Önemli anlarınızın tüm cihazlarınıza kaydedilmesini mi istiyorsunuz? Kayıt olun ya da giriş yapın
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.