Y Salmau 29
29
SALM XXIX
Afferte Domino.
Erchi i gedyrn gydnabod a’r Arglwydd ei fod yn hollalluog: a dwyn y tarannau a’i nerthoedd eraill, i arwyddo hynny.
1Rhowch i’r Arglwydd, a rhowch yn chwyrn,
chwi blant y cedyrn, foliant:
Cydnabyddwch ei barch, a’i nerth,
mor brydferth, a’i ogoniant.
2Rhowch i enw yr Arglwydd glod,
heb orfod mwy mo’ch cymmell,
Addolwch Arglwydd yr holl fyd:
mor hyfryd yw ei Babell!
3Llais yr Arglwydd sydd uwch dyfroedd,
Duw cryf pair floedd y daran.
Uwch dyfroedd lawer mae ei drwn,
nid yw ei swn ef fychan.
4Llais yr Arglwydd, pan fytho llym,
a ddengys rym a chyffro:
A llais yr Arglwydd a fydd dwys,
fel y bo cymwys gantho.
5Llais yr Arglwydd a dyr yn fân
y Cedrwydd hirlân union,
Yr Arglwydd a dyr, yn uswydd,
y Cedrwydd o Libânon.
6Fel llwdn unicorn neu lo llon
fe wna’i Libanon lammu,
7A Sirion oll: llais ein Ior glân
a wna’i fflam dân wasgaru.
8Llais yr Arglwydd, drwy ddyrys lyn,
a godai ddychryn eres:
Yr Arglwydd a wna ddychryn fflwch
drwy holl anialwch Cades.
9Llais yr Arglwydd y piau’r glod,
pair i’r ewigod lydnu:
Dinoetha goed: iw deml iawn yw
i bob rhyw ei foliannu.
10Yr Arglwydd gynt yn bennaeth oedd,
ar y llif-ddyfroedd cethrin:
Yr Arglwydd fu, ef etto sydd,
ac byth a fydd yn frenin.
11Yr Arglwydd a rydd iw bobl nerth,
drwy brydferth gyfanneddwch.
Yr Arglwydd a rydd ei bobl ymhlith
ei fendith, a hir heddwch.
Seçili Olanlar:
Y Salmau 29: SC
Vurgu
Paylaş
Kopyala
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Ftr.png&w=128&q=75)
Önemli anlarınızın tüm cihazlarınıza kaydedilmesini mi istiyorsunuz? Kayıt olun ya da giriş yapın
© Cymdeithas y Beibl 2017
© British and Foreign Bible Society 2017