Y Salmau 17
17
SALM XVII
Exaudi Domine iuftitiam.
Achwyn rhag brenin Saul, a dangos ei deilyngdod yn yr achos.
1O clyw gyfiownder Arglwydd mâd,
ystyr fy nâd i’th grybwyll,
Clust ymwrando a’r weddi fau
sydd o wefusau didwyll.
2Disgwilia’ marn oddiwrthyt ti,
cans da y gweli’r union:
Profaist a gwyddost ganol nos
mor ddiddos ydyw ’nghalon.
3Ban chwiliaist fi (da yw dy gof)
ni chefaist ynof gamwedd,
Fy myfyr mâd na’m meddwl llaes,
na ddoed ymaes o’m dannedd.
4I ochel cydwaith dynion drwg,
drwy d’air a’th amlwg cyngor,
Fordd y dyn trawsgryf haerllyd llym,
fe ddysgwyd ym ei hepgor.
5Ond yn dy union lwybrau di,
Duw, cynal fi yn wastad,
Rhag llithro allan o’th iawn hwyl,
Duw disgwyl fy ngherddediad.
6Galw yr wyf arnad, am dy fod
yn Dduw parod i wrando,
Gostwng dy glust, a chlyw yn rhodd
fy holl ymadrodd etto.
7Cyfranna dy ddaionus râd,
(ti rhwn wyt geidwad ffyddlon)
I’r rhai sy’n ymroi dan dy law,
rhag broch, a braw y trawsion.
8Cadw fi’n anwyl rhag eu twyll,
os anwyl canwyll llygad:
Ynghysgod dy adenydd di,
o cadw fi yn wastad.
9Rhag yr annuwiol a’i mawr bwys,
a rhag fy nghyfrwys elyn,
Y rhai a gais fy enaid i,
gan godi yn fy erbyn.
10Maent hwy mor dordyn ac mor frâs,
ac yn rhy gâs eu geiriau:
Ac yn rhoi allan ffrost ar lled,
gan falched eu parablau.
11Maent hwy yn amgylchu yn flin
y lle ym ni’n cyniwer,
Ac â’i golygon tua’r llawr
mewn gwg a thramawr hyder.
12Maent hwy fel llew, dan godi gwrych,
a fai’n chwennych ysglyfaeth:
Neu fel llew ifangc (er i les)
a geisiai loches hyfaeth.
13Cyfod Arglwydd, o’i flaen ef saf,
dy help a gaf i’m henaid,
A tharo’i lawr â’th gleddyf noeth
yr enwir fflamboeth tanbaid.
14Rhag gwyr dy law, rhag gwyr y byd,
sy’ ai rhan i gyd oddiymma,
Gan lenwi eu boliau, a rhoi iw plant
yn fawr eu chwant a’i traha.
15Minnau mewn myfyr, fel mewn hun,
a welaf lun d’wynebpryd,
A phan ddihunwyf o’r hun hon
y byddaf ddigon hyfryd.
Seçili Olanlar:
Y Salmau 17: SC
Vurgu
Paylaş
Kopyala
Önemli anlarınızın tüm cihazlarınıza kaydedilmesini mi istiyorsunuz? Kayıt olun ya da giriş yapın
© Cymdeithas y Beibl 2017
© British and Foreign Bible Society 2017