Logo ng YouVersion
Hanapin ang Icon

Ioan 14

14
Iesu, y Ffordd at y Tad
1“Peidiwch â gadael i ddim gynhyrfu'ch calon. Credwch yn Nuw, a chredwch ynof finnau. 2Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau; pe na byddai felly, a fyddwn i wedi dweud wrthych fy mod yn mynd i baratoi lle i chwi?#14:2 Yn ôl darlleniad arall, felly, byddwn wedi dweud wrthych. Oherwydd yr wyf yn mynd i baratoi lle i chwi. 3Ac os af a pharatoi lle i chwi, fe ddof yn ôl, a'ch cymryd chwi ataf fy hun, er mwyn i chwithau fod lle'r wyf fi. 4Fe wyddoch y ffordd i'r lle'r wyf fi'n mynd.#14:4 Yn ôl darlleniad arall, Fe wyddoch lle'r wyf fi'n mynd, ac fe wyddoch y ffordd yno.5Meddai Thomas wrtho, “Arglwydd, ni wyddom i ble'r wyt yn mynd. Sut y gallwn wybod y ffordd?” 6Dywedodd Iesu wrtho, “Myfi yw'r ffordd a'r gwirionedd a'r bywyd. Nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof fi. 7Os ydych wedi f'adnabod i, byddwch#14:7 Yn ôl darlleniad arall, Pe byddech yn f'adnabod i, byddech. yn adnabod y Tad hefyd. Yn wir, yr ydych bellach yn ei adnabod ef ac wedi ei weld ef.” 8Meddai Philip wrtho, “Arglwydd, dangos i ni y Tad, a bydd hynny'n ddigon inni.” 9Atebodd Iesu ef, “A wyf wedi bod gyda chwi cyhyd heb i ti fy adnabod, Philip? Y mae'r sawl sydd wedi fy ngweld i wedi gweld y Tad. Sut y medri di ddweud, ‘Dangos i ni y Tad’? 10Onid wyt yn credu fy mod i yn y Tad, a'r Tad ynof fi? Y geiriau yr wyf fi'n eu dweud wrthych, nid ohonof fy hun yr wyf yn eu llefaru; y Tad sy'n aros ynof fi sydd yn gwneud ei weithredoedd ei hun. 11Credwch fi pan ddywedaf fy mod i yn y Tad, a'r Tad ynof fi; neu ynteu credwch ar sail y gweithredoedd eu hunain. 12Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, bydd pwy bynnag sy'n credu ynof fi hefyd yn gwneud y gweithredoedd yr wyf fi'n eu gwneud; yn wir, bydd yn gwneud rhai mwy na'r rheini, oherwydd fy mod i'n mynd at y Tad. 13Beth bynnag a ofynnwch yn fy enw i, fe'i gwnaf, er mwyn i'r Tad gael ei ogoneddu yn y Mab. 14Os gofynnwch unrhyw beth i mi#14:14 Yn ôl darlleniad arall gadewir allan i mi. yn fy enw i, fe'i gwnaf.
Addo'r Ysbryd
15“Os ydych yn fy ngharu i, fe gadwch fy ngorchmynion i. 16Ac fe ofynnaf finnau i'm Tad, ac fe rydd ef i chwi Eiriolwr#14:16 Neu, Gyfnerthwr; neu, Ddiddanydd. Felly hefyd yn 14:26; 15:26; a 16:7. arall i fod gyda chwi am byth, 17Ysbryd y Gwirionedd. Ni all y byd ei dderbyn ef, am nad yw'r byd yn ei weld nac yn ei adnabod ef; yr ydych chwi yn ei adnabod, oherwydd gyda chwi y mae'n aros ac ynoch chwi y bydd. 18Ni adawaf chwi'n amddifad; fe ddof yn ôl atoch chwi. 19Ymhen ychydig amser, ni bydd y byd yn fy ngweld i ddim mwy, ond byddwch chwi'n fy ngweld, fy mod yn fyw; a byw fyddwch chwithau hefyd. 20Yn y dydd hwnnw byddwch chwi'n gwybod fy mod i yn fy Nhad, a'ch bod chwi ynof fi, a minnau ynoch chwithau. 21Pwy bynnag y mae fy ngorchmynion i ganddo, ac sy'n eu cadw hwy, yw'r un sy'n fy ngharu i. A'r un sy'n fy ngharu i, fe'i cerir gan fy Nhad, a byddaf finnau yn ei garu, ac yn f'amlygu fy hun iddo.” 22Meddai Jwdas wrtho (nid Jwdas Iscariot), “Arglwydd, beth sydd wedi digwydd i beri dy fod yn mynd i'th amlygu dy hun i ni, ac nid i'r byd?” 23Atebodd Iesu ef: “Os yw rhywun yn fy ngharu, bydd yn cadw fy ngair i, a bydd fy Nhad yn ei garu, ac fe ddown ato a gwneud ein trigfa gydag ef. 24Nid yw'r sawl nad yw'n fy ngharu i yn cadw fy ngeiriau i. A'r gair hwn yr ydych chwi yn ei glywed, nid fy ngair i ydyw, ond gair y Tad a'm hanfonodd i.
25“Yr wyf wedi dweud hyn wrthych tra wyf yn aros gyda chwi. 26Ond bydd yr Eiriolwr, yr Ysbryd Glân, a anfona'r Tad yn fy enw i, yn dysgu popeth ichwi, ac yn dwyn ar gof ichwi y cwbl a ddywedais i wrthych. 27Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; yr wyf yn rhoi i chwi fy nhangnefedd i fy hun. Nid fel y mae'r byd yn rhoi yr wyf fi'n rhoi i chwi. Peidiwch â gadael i ddim gynhyrfu'ch calon, a pheidiwch ag ofni. 28Clywsoch beth a ddywedais i wrthych, ‘Yr wyf fi yn ymadael â chwi, ac fe ddof atoch chwi.’ Pe baech yn fy ngharu i, byddech yn llawenhau fy mod yn mynd at y Tad, oherwydd y mae'r Tad yn fwy na mi. 29Yr wyf fi wedi dweud wrthych yn awr, cyn i'r peth ddigwydd, er mwyn ichwi gredu pan ddigwydd. 30Ni byddaf yn siarad llawer gyda chwi eto, oherwydd y mae tywysog y byd hwn yn dod. Nid oes ganddo ddim gafael arnaf fi, 31ond rhaid i'r byd wybod fy mod i'n caru'r Tad ac yn gwneud yn union fel y mae'r Tad wedi gorchymyn imi. Codwch, ac awn oddi yma.

Kasalukuyang Napili:

Ioan 14: BCND

Haylayt

Ibahagi

Kopyahin

None

Gusto mo bang ma-save ang iyong mga hinaylayt sa lahat ng iyong device? Mag-sign up o mag-sign in