Logo ng YouVersion
Hanapin ang Icon

Genesis 1

1
DOSBARTH I
Hanes y Cread, a Sefydliad y Sabbath
1Yn y dechreuad y gwnaeth Duw y nefoedd a’r ddaiar. 2Ond y ddaiar oedd anweledig ac annhrefnus; a thywyllwch oedd ar y dyfnder; ac Ysbryd Duw yn ymsymmud ar y dwfr. 3A Duw a ddywedodd, “Bydded goleuni;” a goleuni a fu. 4A Duw a welodd y goleuni, mai da oedd; a Duw a wahanodd rhwng y goleuni a’r tywyllwch. 5A Duw a alwodd y goleuni yn “Ddydd,” a’r tywyllwch a alwodd Efe yn “Nos.” A’r hwyr a fu, a’r boreu a fu, un dydd.
6Duw hefyd a ddywedodd, “Bydded ffurfafen yng nghanol y dwfr; a bydded hi yn gwahanu rhwng dwfr a dwfr;” ac felly yn bu: 7canys Duw a wnaeth y ffurfafen; Duw hefyd a wahanodd rhwng y dwfr ag oedd oddi tan y ffurfafen, a’r dwfr ag oedd oddi ar y ffurfafen 8A’r ffurfafen a alwodd Duw yn “Nefoedd;” a Duw a welodd mai da oedd. A’r hwyr a fu, a’r boreu a fu, yr ail ddydd.
9Duw hefyd a ddywedodd, “Casgler y dwfr oddi tan y nefoedd i’r un gronfa; ac ymddangosed y sychdir;” ac felly y bu; canys ymgasglodd y dwfr oddi tan y nefoedd, i’w gronfëydd; ac ymddangosodd y sychdir. 10A’r sychdir a alwodd Duw yn “Ddaiar;” ac ymgasgliadau y dyfroedd a alwodd Efe yn “Foroedd:” a Duw a welodd mai da oedd. 11A Duw a ddywedodd, “Egined y ddaiar egin llysiau, llysiau yn hadu had wrth eu rhywogaeth, ac wrth eu llun; a’r pren ffrwythlawn yn dwyn ffrwyth, yr hwn y mae ei had ynddo, wrth ei rywogaeth ar y ddaiar;” ac felly y bu: 12canys y ddaiar a ddug egin llysiau, llysiau yn hadu had wrth eu rhywogaeth, ac wrth eu llun; a’r pren ffrwythlawn yn dwyn ffrwyth, yr hwn y mae ei had ynddo, wrth ei rywogaeth ar y ddaiar: a Duw a welodd mai da oedd. 13A’r hwyr a fu, a’r boreu a fu, y trydydd dydd.
14Duw hefyd a ddywedodd, “Bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i oleuo ar y ddaiar, ac i wahanu rhwng y dydd a’r nos: byddant hefyd yn arwyddion, ac yn dymmorau, ac yn ddyddiau, ac yn flynyddoedd. 15(A byddant yn oleuni yn ffurfafen y nefoedd, i oleuo ar y ddaiar;)” ac felly y bu: 16canys Duw a wnaeth ddau oleuad mawrion; y goleuad mwyaf i lywodraethu y dydd, a’r goleuad lleiaf i lywodraethu y nos: y ser hefyd a wnaeth Efe 17Ac yn ffurfafen y nefoedd y rhoddes Duw hwynt, i oleuo ar y ddaiar, 18ac i lywodraethu y dydd a’r nos, ac i wahanu rhwng y goleuni a’r tywyllwch: a Duw a welodd mai da oedd. 19A’r hwyr a fu, a’r boreu a fu, y pedwerydd dydd.
20Duw hefyd a ddywedodd, “Heigied y dyfroedd ymlusgiaid byw; a bydded ehediaid yn ehedeg uwch y ddaiar, yn ffurfafen y nefoedd;” ac felly y bu: 21canys Duw a wnaeth y morfeirch mawion, a phob ymlusgiad byw, y rhai a heigiodd y dyfroedd wrth eu rhywogaeth; a phob ehediad asgellog yn ei rywogaeth: a gwelodd Duw mai da oeddynt. 22A Duw a’u bendigodd hwynt, gan ddywedyd, “Lluosogwch, ac amlhëwch, a llenwch y dyfroedd yn y moroedd a lluosoged yr ehediaid ar y ddaiar.” 23A’r hwyr a fu, a’r boreu a fu, y pummed dydd.
24Duw hefyd a ddywedodd, “Dyged y ddaiar bob peth byw wrth ei rywogaeth, yn bedwar-carnolion, ac yn ymlusgiaid, a bwystfilod y ddaiar wrth eu rhywogaeth;” ac felly y bu: 25canys Duw a wnaeth fwystfilod y ddaiar wrth eu rhywogaeth, ar anifeiliaid wrth eu rhywogaeth, a holl ymlusgiaid y ddaiar wrth eu rhywogaeth: a gwelodd Duw mai da oeddynt.
26Duw hefyd a ddywedodd, “Gwnawn ddyn ar Ein delw, ac wrth Ein llun Ein Hunian; ac arglwyddiaethant ar bysg y môr, ac ar ehediaid y nefoedd, ac ar yr anifeiliaid, ac ar yr holl ddaiar, ac ar yr holl ymlusgiaid a ymlusgont ar y ddaiar.” 27Felly Duw a wnaeth y dyn; ar ddelw Duw y gwnaeth Efe ef; yn wryw ac yn fanyw y gwnaeth Efe hwynt. 28Duw hefyd a’u bendigodd hwynt, gan ddywedyd, “Lluosogwch, ac amlhëwch, a llenwch y ddaiar, a darostyngwch hi ac arglwyddiaethwch ar bysg y môr, ac ar ehediaid y nefoedd, ac ar yr holl anifeiliaid, ac ar yr holl ddaiar, ac ar yr holl ymlusgiaid a ymlusgont ar y ddaiar.” 29A Duw a ddywedodd, “Wele, rhoddais i chwi bob llysieuyn heuawl, yn hadu had, yr hwn sydd ar yr holl ddaiar; a phob pren, yr hwn y mae ynddo ffrwyth had heuawl, i chwi y bydd yn fwyd. 30Hefyd i holl fwystfilod y ddaiar, ac i holl ehediaid y nefoedd, ac i bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaiar, yr hwn y mae einioes ynddo, y rhoddais bob llysienyn gwyrdd yn fwyd:” ac felly y bu. 31A gwelodd Duw yr hyn oll a wnaethai; ac wele, da iawn ydoedd. Felly yr hwyr a fu, a’r boreu a fu, y chweched dydd.

Kasalukuyang Napili:

Genesis 1: YSEPT

Haylayt

Ibahagi

Kopyahin

None

Gusto mo bang ma-save ang iyong mga hinaylayt sa lahat ng iyong device? Mag-sign up o mag-sign in