Salmau 9

9
Salm IX.
I’r Pencerdd; ar y “dôn” marwolaeth#9:0 marwolaeth, etc. Tebyg yw mai tôn, neu fesur, neu gân yn dechreu gyd â’r geiriau hyn, a feddylir. Gwyddom fod enwau o’r fath yn cael eu rhoi yn ein hamser ni ar dônau a mesurau. Mae yn y Salm hon ddwy ran. Yn y gyntaf canmolir Duw am yr hyn a wnaethai o’r blaen er gwaredu y Salmydd; yn yr ail, gweddia’r Salmydd am waredigaeth chwanegol. Rhoddai glod i Dduw am ei ddaioni blaenorol; ac erfyn am gymmorth yn y blinder ag ydoedd yn awr ynddo. Cofiwn Dduw am yr hyn a wnaeth eisoes, yn enwedig pan byddom yn ceisio chwanegol ymwared. Laban, cerdd o eiddo Dafydd.
1CLODFORAF Iehova â’m holl galon,
Mynegaf#9:1 Mynegaf, — rhifaf, cyfrifaf; hyn yw ystyr wreiddiol y gair. Mai enwi rhyfeddodau Duw, yn ofynol, fel megys eu rhifo, yn beth addas yn y gwaith o’i foli. Rhyfeddodau ei ragluniaeth a feddylir yma yn fwyaf neillduol. dy holl ryfeddodau:
2Llawenychaf a gorfoleddaf ynot,
Canaf i’th enw, y Goruchaf.
3 # 9:3 Dywed am yr hyn a wnaethai Duw. Pan droesai#9:3 Pan droesai, etc. Gwedi eu gorfod unwaith, troent yn ol, yna cyflawn ddinystr a ddeuai iddynt. fy ngelynion yn ol,
Syrthient a darfyddent o’th flaen:
4Canys cynhaliaist#9:4 cynhaliaist— yn ei ystyr gyntaf, gwnaethost. Arferir hyn yn yr ystyr o lunio neu ddarparu. fy iawn a’m hachos;
Eisteddaist ar orsedd yn Farnwr#9:4 Farnwr— Iawnydd, un yn gwneuthur iawnder. cyfiawn:
5Ceryddaist y cenhedloedd, distrywiaist yr annuwiol;
Eu henw a ddileaist yn oes oesoedd.
6O elyn!#9:6 O elyn! &c. Cyfeiria at ryw un neillduol, fel penaeth ar eu gwrthwynebwyr. Yr oedd wedi ei ddinystrio, fel na wnai anrheithio mwy: ac nid oedd dim er coffáu ei Duw: y dinasoedd a ddifethasai, nid oeddent mwy, na chof am danynt. Pydru wna enw’r annuwiol. darfu “dy” anrheithiau dros byth!
A’r dinasoedd a ddiwreiddiaist —
Difethwyd eu coffadwriaeth hwynt!
7Ond Iehova dros byth a eistedd,
Darparodd i farn ei orsedd;
8Ac efe a farna’r byd mewn cyfiawnder,
A llywodraetha’r bobloedd mewn uniondeb#9:8 uniondeb— yn lythyrenol, unionderau. Nid cam, ond union, yw rheol gweithrediadau Duw. Rhydd i bob un ei iawn, heb dderbyn wyneb.:
9A bydd Iehova yn uchel-dwr#9:9 Uchel-dwr — uchelfa, lle cadarn caeredig, noddfa, lle diogel rhag ymgyrch gelynol. i’r cystuddiol#9:9 cystuddiolun wedi ei glwyfo a’i friwio gan elynion. Pa mor werthfawr i’r cyfryw yw diogelfa, neu uchel-dwr i fyned iddo.,
Yn uchel-dwr ar amserau#9:9 ar amserau, etc. neu, mewn pryd, mewn cyfyngder, sef y bydd Duw yn ddiogelfa mewn pryd, mewn amser cyfaddas, yn nydd cyfyngder. o gyfyngder:
10Ac ymddiried ynot y rhai a adwaenant dy enw;
Gan na adewir y rhai a’th geisiant di, Iehova.
11Cenwch i Iehova, preswylydd Sïon;#9:11 Bonllef yw’r adnod hon y’nghanol yr ymadrodd: nis gallasai lai na thori allan mewn moliant. Mae’r adnod nesaf mewn cyssylltiad â’r ddegfed. Hwynt yno ydynt y rhai sy’n ceisio Iehova.
Traethwch y’mysg y bobloedd ei weithrediadau#9:11 weithrediadau— sef y pethau a wna fel llywydd y byd, a threfnydd pob digwyddiad..
12Pan ymofyn am waed, hwynt a gofia,
Nid anghofia waedd y gorthrymedig.
13 # 9:13 Yma y dechreu gweddi’r Salmydd yn ei helbul presennol. Bydd rasol wrthyf, Iehova;
Gwel fy ngorthrymder gan fy nghaseion,
Fy nyrchafydd o byrth angeu:
14Fel y mynegwyf dy holl foliant y’mhyrth#9:14 y’mhyrth. Gwedi ei dderchafu o byrth angeu, gwnai foliannu Duw y’mhyrth merch Sïon. merch#9:14 mercha arwydda dref neu ddinas, megys merch Jerusalem, etc. Esa. 37:22. — Y pedair adnod a ganlyn a gynnwys yr hyn a draethai am ei waredigaeth: neu gellir ei ystyried yn cefnogi ei hun trwy ail-adrodd yr hyn a wnaethai Duw yn barod. Sïon,
“Ac” y gorfoleddwyf yn dy waredigaeth: —
15‘Soddodd y cenhedloedd yn y pwll a wnaethent,
Yn y rhwyd a guddiasent, y daliwyd eu traed:
16Adwaenir Iehova wrth y farn a wnaeth;
Yng ngwaith ei ddwylaw y maglwyd yr annuwiol.
(Myfyrdod#9:16 Myfyrdod— sef, teilwng o fyfyrdod neillduol yw’r hyn a draethir: a chwanegir nôd cynghanedd sef, Selah.. Selah.)
17Troir annuwiolion i uffern —
Yr holl genhedloedd sy’n anghofio Duw:
18Canys nid yn dragywydd yr anghofir yr anghenog;
A gobaith y gorthrymedig, ni dderfydd dros byth.’
19Cyfod, Iehova, na orfydded adyn#9:19-20 adyn...dynionach. — Yr un yw’r gair gwreiddiol, a’r un ag yn y Salm ddiweddaf, adn. 4. Dynoda greadur gwael, clafychus, a darfodedig.;
Barner y cenhedloedd ger dy fron.
20Gosod, Iehova, ofn arnynt;
Gwybydded y cenhedloedd mai dynionach ydynt. Selah.

ที่ได้เลือกล่าสุด:

Salmau 9: TEGID

เน้นข้อความ

แบ่งปัน

คัดลอก

None

ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้