1 Tymothiws 4

4
yr epystyl kyntaf i bawl
Y iiij Kytpen
1Yr ysbryd sydd yn doyded yn olaû: ir ymedy rhai ar ffydd amser a ddaw: ai gwg ar ysbrydoedd hudoliaidd: ag addisc diawlaid 2hwynt rhai drwy ymgowrenio a ddoydant gelwydday: ag vddynt gydwybod gwedi eû markio a hayarn brwd: 3yn gwahardd priodi: yn gorchymyn gochel bwydydd: rhain a creawdd dûw [[yw mwynhaû]] trwy dalu diolch yw mwynhaû, ir ffyddloniaid, ag ir hai a edwyn y gwir. 4Canys holl creaduriaid duw da ydynt, ag ni does dim a ddylid i wrthod os kymerir [[hwynt]] ef trwy dalû diolch. 5Canys santaidd fydd trwy air Duw a thrwy weddi: 6os dygidi ar gof ir brodyr y pethaû hyn ysta wasnaythwr fyddi i (i)esu grist: tydy a fagwyd y fewn geiriaû (y) ffydd ag addysc ddaionûs: yr hwn a gylhynaist yn ystic: 7Eithyr gad heibio annûwiol a [[grw]] gwrachiaidd chwedlay: ymarfer di dyhûn a duwioliaeth 8Canys ymarfer corfforawl ychydig a broffidia: eithyr dywiolaeth proffidiol yw i bob peth: ag iddaw addewid y bowyd presennawl ag a ddaw rhag llaw: 9ymadrodd diammay yw hwn ag a ddylai fod yn gymradwy ymhob modd: 10Canys am hyn i ddydym i yn llafurio ag yn goddaû dirmygion: o herwydd fod kenym [[i]] obaith safadwy y fewn Dûw byw: rhwn yw keidwad yr holl ddynion: ag yn henwedig y ffyddloniaid: 11Gorchymyn vddynt y pethau hyn a dysc hwynt, 12na ddistyred neb dy iuiengtid taû: eithyr bydd i’r ffyddloniaid, siampl, mewn y madrodd mewn ymddygiad, mewn cariad mewn ysbryd, mewn ffydd, mewn glendid: 13hyd oni ddelwy fi bydd [[ddiwid]] (ddyfal) yn darllain, yn kynghori, yn dyscû: 14nag esceûlûsa y rhodd sydd ynott rhon a ddoded yt i broffwydo drwy roddi dwylo arnat trwy audurdod effeiriadaeth: 15myfyria yrhain ag ymddyro i hyn: mal i bo golaû eu bawb [y gwellaad taû] (dy fod yn gwellhaû ymhobpeth.) 16Gwilia (ystyria) ar nad tyhûn ag ar ddysc a bydd ystig yn hyny Canys os gwneidi hyn tydy ath kedwi dy hûn, arhai hefyd ath wrandawant.

Айни замон обунашуда:

1 Tymothiws 4: RDEB

Лаҳзаҳои махсус

Паҳн кунед

Нусха

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in