Salmau 20

20
Salm XX.
Pencerdd: cerdd o eiddo Dafydd.
1Ateb di Iehova yn nydd cyfyngder;
Uchelha#20:1 Uchelha, — gosoda di ar uchelfa, derchafa di. Cyfiethir ef uchelfa, pan fyddo yn sylweddair. Codi un i uchelfa a arwydda oruwchafiaeth ar elynion. di enw#20:1 enw, &c. sef Duw ei hun, fel ag y mae yn ddatguddiedig yn ei air. Dywedir i Dduw gyhoeddi ei enw i Moses. Exod. 34:3, &c. Beth bynag a ddywed am dano ei hun, dyna ei enw. Ef allai fod cyfeiriad yma at yr YDWYF YR HWN YDWYF, yr enw a roddodd arno ei hun pan gyfenwodd ei hun yn “Dduw Abraham, yn Dduw Isaac, ac yn Dduw Jacob.” Exod. 3:13-16. Duw Iacob:
2Anfona dy gymhorth o’r santeiddfa;
Ac o Seion y cynnalia di:
3Cofia dy holl offrymau;
A’th aberthau a gymmeradwya#20:3 gymmeradwya. Ystyr y gair yw brasâu, ac felly y cyfieitha Calfin y gair, a’r un modd y gwna y LXX. Brasâu yr aberth oedd ei wneud yn addas i losgi: a thrwy losgi yr aberth yr amlygai Duw ei dderbyniad o hono. Gwel 1 Bren. 18:38. “Troi yn llwch,” yw cyfieithiad Jun. a Threm. : Selah.
4Rhydd i ti yn ol dy galon#20:4 yn ol dy galon. Dyma fraint fawr. Mae calon y duwiol ar ddelw Duw: ni ewyllysia. ond yr hyn a fynno Duw, a chaiff hyny. ;
A’th holl gyngor#20:4 gyngor, sef bwriad a wnelai wedi ymgynghori â Duw a dynion duwiol. Nid oes un bwriad neu amcan da, heb ymgynghori, yn enwedig â Duw. Bwriad o’r fath hyn a gyflawnir gan ein huchel Drefnydd. a gyflawna.
5Gorfoleddwn am dy waredigaeth,
Ac yn enw ein Duw y buddugoliaethwn#20:5 buddugoliaethwntrophaeum erigamus — cyfodwn gofnod buddugol. Calfin. — μεγαλυνθησομεθα, LXX. Nid yw yn unol â’r rhan flaenorol o’r adnod, i olygu “baner” rhyfel; ond arwyddnod goruwchafiaeth yn ddiau a feddylir.;
Cyflawna Iehova dy holl erfynion.
6Yn awr gwn, mai Iehova a waredodd ei eneiniog:
Ateb ef o nefoedd ei santeiddfa;
Trwy rymusderau#20:6 Trwy rymusderau, &c. neu yn rymus. Trwy gamsyniaeth ynghylch y gair gwared, camgymmerir gan gyfieithwyr yn gyffredin y llinell hon. Gwel 1 Sam. 23:5 a 2 Sam. 8:6. Rhoddir yma gyfieithiad llythyrenol. y gwared ei ddeheulaw.
7Rhai am gerbydau, a rhai am feirch;
Ond ni, am enw Iehova ein Duw, a goffawn.#20:7 Coffaai rhai am gerbydau a meirch fel pethau a roddasent iddynt lwyddiant; ond coffaai y duwiol am enw Duw fel yr achos penaf.
8Hwy a grymasant ac a syrthiasant;
Ond ni a godasom, ac a union safwn.
9 Iehova a waredodd y Brenin;
Ateb ni yn y dydd y galwom.#20:9 Felly y cyfieitha Horsley yr adnod. Cydnabyddir Duw fel gwaredydd; ac iaith ffydd yw, yr ateb weddi ei bobl.
NODAU.
Bernir gyfansoddi y Salm hon gan Ddafydd i’w harfer gan ei bobl, naill ai er mawl i Dduw am ei waredu, neu fel gweddi am ei lwyddiant. Mwy cysson yw trwyddi, os golygwn hi yn gerdd o fawl i Dduw. Traethir yr hyn a wnai Duw iddo. Yr un yw ei rhediad a’r Salm ganlynol.

Айни замон обунашуда:

Salmau 20: TEGID

Лаҳзаҳои махсус

Паҳн кунед

Нусха

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in