Luc 23
23
1A chodasant yn un dyrfa, a dygasant ef gerbron Pilat. 2A dechreuasant ei gyhuddo, gan ddywedyd, “Hwn a gawsom yn gŵyrdroi ein cenedl, ac yn gwahardd talu trethi i Gesar, ac yn dywedyd mai ef ei hun yw Crist frenin.” 3Gofynnodd Pilat iddo, “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” Ebe yntau, yn ateb iddo, “Yr wyt ti’n dywedyd.” 4A dywedodd Pilat wrth yr archoffeiriaid a’r tyrfaoedd, “Nid wyf yn cael dim achos yn y dyn hwn.” 5Ond taeru a wnaent hwythau, gan ddywedyd, “Y mae’n cynhyrfu’r bobl wrth eu dysgu trwy holl Iwdea, ar ôl dechrau yn Galilea, hyd at yma.” 6Pan glybu Pilat, gofynodd ai Galilead oedd y dyn, 7ac wedi deall mai o dan awdurdod Herod yr ydoedd, trosglwyddodd ef at Herod, a oedd yntau yng Nghaersalem y dyddiau hynny.
8Bu dda dros ben gan Herod weled yr Iesu; canys yr oedd yn dymuno ers cryn amser ei weled am iddo glywed amdano, a gobeithiai weled gwneuthur rhyw arwydd ganddo. 9A bu’n ei holi mewn hir ymddiddan; ond nid atebodd ef ddim iddo. 10A safai’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a’i gyhuddo â’u holl egni. 11A’i ddiystyru a wnaeth Herod a’i osgorddion, ac wedi ei watwar a rhoi gwisg wych amdano, anfonodd ef yn ôl at Bilat. 12Ac aeth Herod a Philat yn gyfeillion y diwrnod hwnnw; gynt buasai cas rhyngddynt.
13A galwodd Pilat yr archoffeiriaid a’r penaethiaid a’r bobl ynghyd, 14a dywedodd wrthynt, “Dygasoch ataf y dyn hwn am ei fod yn gŵyrdroi’r bobl, a dyma fi wedi ei brofi yn eich gŵydd chwi, ac ni chefais yn y dyn hwn ddim achos i’r cyhuddiadau a ddygwch yn ei erbyn. 15Na, na Herod chwaith, canys anfonodd ef yn ôl atom ni. Wele, nid oes dim sy’n haeddu marwolaeth wedi ei wneuthur ganddo ef; 16felly cosbaf ef, a’i ollwng ymaith.” 18Ond gweiddi a wnaent gyda’i gilydd oll, “Ymaith â hwn, gollwng Barabbas i ni.” 19(Yr oedd hwnnw wedi ei fwrw i’r carchar oherwydd rhyw derfysg a fu yn y ddinas, a llofruddiaeth.) 20Drachefn anerchodd Pilat hwynt, gan ddymuno gollwng yr Iesu. 21Ond llefent llwythau arno, gan ddywedyd, “Croeshoelia, croeshoelia ef.” 22Dywedodd yntau wrthynt y drydedd waith, “Pa ddrwg, ynteu, a wnaeth ef? Ni chefais ddim achos marwolaeth ynddo; felly cosbaf ef, a’i ollwng ymaith.” 23Ond pwysent hwythau arno â llefau uchel, gan ddeisyf am ei groeshoelio; a’u llefau a orfu. 24A dyfarnodd Pilat iddynt gael eu deisyfiad; 25gollyngodd yr un a fwriesid i garchar am derfysg a llofruddiaeth, yr un y gofynnent amdano, ond yr Iesu a draddododd i’w hewyllys hwy.
26A phan ddygasant ef ymaith, daliasant ryw Simon o Gyrene ar ei ffordd o’r wlad, a dodasant y groes arno, i’w dwyn ar ôl yr Iesu. 27Ac yn ei ddilyn yr oedd lliaws mawr o’r bobl, ac o wragedd a oedd yn ymguro ac yn galaru amdano. 28Troes Iesu atynt, a dywedodd, “Ferched Caersalem, peidiwch ag wylo amdanaf fi; eithr wylwch amdanoch eich hunain ac am eich plant. 29Canys wele, daw dyddiau pryd y dywedant, ‘Gwyn eu byd yr amhlantadwy a’r crothau nid esgorasant a bronnau ni roesant sugn.’ 30Yna dechreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd, ‘Syrthiwch arnom,’ ac wrth y bryniau, ‘Cuddiwch ni.’ 31Canys os gwnânt y pethau hyn yn y pren ir, pa beth a wneir yn y pren crin?”
32Dygid hefyd droseddwyr eraill, ddau ohonynt, gydag ef i’w dienyddio. 33A phan ddaethant at y lle a elwir Penglog, yno croeshoeliasant ef a’r troseddwyr, y naill o’r tu dehau a’r llall o’r tu aswy. 34Ac meddai’r Iesu, “Dad, maddau iddynt; canys ni wyddant beth a wnânt.” A chan rannu ei ddillad, bwriasant goelbrennau. 35A safai’r bobl yn edrych. A gwawdiai’r penaethiaid hefyd, gan, ddywedyd, “Eraill a achubodd; achubed ef ei hun, os ef yw Crist Duw, yr etholedig.” 36A gwatwarodd y milwyr ef hefyd gan nesau a chynnig surwin iddo, 37a dywedyd, “Os Brenin yr Iddewon wyt ti, achub dy hun.” 38Yr oedd ysgrifen hefyd uwch ei ben —
HWN YW BRENIN YR IDDEWON.
39Ac un o’r troseddwyr, a grogasid a’i cablai, “Onid ti yw’r Crist? Achub dy hun a ninnau.” 40Ond atebodd y llall, a’i geryddu; “Onid wyt ti,” eb ef, “yn ofni Duw, gan dy fod dithau dan yr un farnedigaeth? 41A ninnau’n gyfiawn felly, canys ein haeddiant a dderbyniwn am a wnaethom; Ond hwn ni wnaeth ddim allan o’i le.” 42Ac meddai, “Iesu, cofia fi pan ddelych i’th deyrnas.” 43Dywedodd yntau wrtho, “Yn wir meddaf i ti, heddiw byddi gyda mi ym Mharadwys.”
44Ac yr oedd erbyn hyn tua’r chweched awr; a bu tywyllwch dros yr holl ddaear hyd y nawfed awr, 45a’r haul wedi diffygio; a rhwygwyd llen y deml yn ei chanol. 46A llefodd yr Iesu â llef uchel a dywedodd, “Dad, i’th ddwylo di yr wyf yn ymddiried fy ysbryd.” Ac wedi dywedyd hynny, bu farw. 47A phan welodd y canwriad y peth a fu, dechreuodd ogoneddu Duw, gan ddywedyd, “Yn wir, yr oedd y dyn hwn yn gyfiawn.” 48A’r holl dyrfaoedd a ddaethai ynghyd i’r olygfa hon, wedi edrych ar y pethau a fu, a droesant yn eu hôl dan guro dwyfron. 49Ond yr oedd ei gydnabod oll, a’r gwragedd a’i canlynasai ef o Galilea, yn sefyll o bell, ac yn gweled y pethau hyn.
50A dyma ŵr a’i enw Ioseff, a oedd yn gynghorwr, gŵr da a chyfiawn, — 51nid oedd hwn wedi cydsynio â’u cyngor ac â’u gweithred hwynt, — o Arimathea, dinas yr Iddewon, un oedd yn disgwyl teyrnas Dduw. 52Daeth hwn at Bilat, a gofynnodd am gorff yr Iesu; 53ac wedi iddo’i dynnu i lawr fe droes lenlliain amdano, a dododd ef mewn bedd naddedig o’r graig, lle nid oedd neb erioed wedi ei gladdu. 54A dydd y Darpar oedd, a’r Sabbath oedd yn nesáu. 55A chanlynodd y gwragedd, a ddaethai gydag ef o Galilea, ac edrych ar y bedd a’r modd y dodwyd ei gorff; 56a dychwelasant, a pharatoi peraroglau ac eneiniau. A’r Sabbath gorffwysasant yn ôl y gorchymyn,
Айни замон обунашуда:
Luc 23: CUG
Лаҳзаҳои махсус
Паҳн кунед
Нусха
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945