Luc 16

16
1Ac meddai hefyd wrth ei ddisgyblion, “Yr oedd rhyw ddyn cyfoethog, a chanddo oruchwyliwr; a chyhuddwyd hwn wrtho ei fod yn gwastraffu ei eiddo. 2Ac fe’i galwodd a dywedodd wrtho, ‘Beth yw hyn a glywaf amdanat ti? Dyro gyfrif o’th orchwyliaeth, canys ni elli fod yn oruchwyliwr mwyach.’ 3A dywedodd y goruchwyliwr ynddo’i hun, ‘Beth a wnaf, gan fod fy arglwydd yn dwyn yr oruchwyliaeth oddi arnaf? Cloddio nis gallaf, ac mae arnaf gywilydd cardota. 4Mi wn beth a wnaf, fel, pan ddiswyddir fi o’r orchwyliaeth, y’m derbyniont i’w tai.’ 5A galwodd ato bob un o ddyledwyr ei arglwydd, ac meddai wrth y cyntaf, ‘Pa faint sydd arnat i’m harglwydd?’ 6Dywedodd yntau, ‘Can barilaid o olew.’ Dywedodd wrtho, ‘Cymer dy ymrwymiad, ac eistedd ac ysgrifenna ar unwaith hanner cant.’ 7Yna dywedodd wrth un arall, ‘A thithau, pa faint sydd arnat?’ Dywedodd yntau, ‘Can pegaid o ŷd.’ Dywedodd wrtho, ‘Cymer dy ymrwymiad, ac ysgrifenna bedwar ugain.’ 8A chanmolodd yr arglwydd y goruchwyliwr anghyfiawn, am iddo wneuthur yn gall; canys y mae plant yr oes hon yn gallach na phlant y goleuni tuag at eu cenhedlaeth, eu hunain. 9Ac yr wyf innau’n dywedyd i chwi, Gwnewch i chwi eich hunain gyfeillion trwy’r mamon anghyfiawn, fel pan ballo y’ch derbynier#16:9 Yn llythrennol, derbyniont chwi i’r tragwyddol bebyll. 10Yr hwn sydd ffyddlon mewn ychydig, ffyddlon ydyw hefyd mewn llawer, a’r hwn sydd anghyfiawn mewn ychydig, anghyfiawn ydyw hefyd mewn llawer. 11Felly, oni buoch ffyddlon gyda’r mamon anghyfiawn, pwy a ymddiried y gwir olud i chwi? 12Ac oni buoch ffyddlon gydag eiddo arall, pwy a rydd i chwi yr eiddom ni?#16:12 Yn ôl darlleniad arall, yr eiddoch chwi 13Ni ddichon gwas wasanaethu dau arglwydd; canys un ai casâ’r naill a châr y llall, neu fe lŷn wrth y naill a dirmyga’r llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a Mamon.”
14Yr oedd y Phariseaid, dynion ariangar, yn clywed yr holl bethau hyn, a gwawdient ef. 15A dywedodd wrthynt, “Chwychwi yw’r rhai sydd yn eich cyfiawnhau eich hunain gerbron dynion, ond gŵyr Duw eich calonnau; canys yr hyn sydd mewn bri ymhlith dynion, ffieiddbeth yw gerbron Duw. 16Y gyfraith a’r proffwydi, hyd Ioan yr oeddent; oddi ar hynny teyrnas Dduw a bregethir, ac y mae pawb yn ymwthio i mewn iddi. 17Eithr haws yw i’r nef a’r ddaear fyned heibio nag i un fachell#16:17 Gr. corn bychan neu bigyn fel rhan o lythyren o’r gyfraith syrthio. 18Pob un a ysgaro’i wraig ac a briodo un arall, y mae yn godinebu, a’r hwn a briodo wraig a ysgarwyd oddi wrth ŵr, y mae yn godinebu.
19Yr oedd rhyw ddyn yn gyfoethog, a gwisgai amdano borffor a lliain main, gan fwynhau byd da yn helaethwych beunydd. 20A rhyw dlotyn, a’i enw Lasarus, oedd yn gorwedd wrth ei borth, yn gornwydlyd, 21ac yn chwennych ymborthi ar yr hyn a syrthiai oddi ar fwrdd y dyn cyfoethog. A’r cŵn hwythau a ddeuai i lyfu ei gornwydydd. 22A digwyddodd i’r tlotyn farw, a’i ddwyn ymaith gan yr angylion i fynwes Abraham; bu farw’r cyfoethog yntau, a chladdwyd ef. 23A phan gododd ei lygaid yn Annwn, ac yntau mewn arteithiau, fe wêl Abraham o bell, a Lasarus yn ei fynwes. 24A llefodd, ‘Dad Abraham, trugarha wrthyf, a danfon Lasarus i wlychu blaen ei fys mewn dŵr, ac oeri fy nhafod, canys fe’m dirboenir yn y fflam hon.’ 25A dywedodd Abraham, ‘Fy mhlentyn, cofia i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd, a Lasarus yr un modd ei adfyd; ond yn awr fe’i diddenir ef yma, a’th ddirboeni dithau: 26Ac ar ben hyn oll, y mae bwlch mawr wedi ei osod rhyngom ni a chwithau, fel na alle’r rhai a’i mynnai fynd trwodd oddi yma atoch chwi, na chroesi chwaith oddi yna atom ni.’ 27Dywedodd yntau, ‘Gan hynny gofynnaf iti, dad, a anfoni di ef i dŷ fy nhad 28— y mae gennyf bump o frodyr — fel y tystiolaetho iddynt, rhag iddynt hwythau ddyfod i’r arteithfa hon.’ 29Medd Abraham, ‘Mae ganddynt Foses a’r proffwydi; gwrandawant arnynt hwy.’ 30Dywedodd yntau, ‘Nag e, dad Abraham, ond os â rhywun atynt oddi wrth y meirw, edifarhânt.’ 31A dywedodd wrtho, ‘Oni wrandawant ar Foses a’r proffwydi, nis perswedir, hyd yn oed os cyfyd un oddi wrth y meirw’.”

Айни замон обунашуда:

Luc 16: CUG

Лаҳзаҳои махсус

Паҳн кунед

Нусха

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in