Hosea 1

1
1Gair Iafe, a ddaeth at Hosea fab Bëeri, yn amser Wsïa, Iotham, Ahas, Hesecïa, brenhinoedd Iwda, ac yn amser Ieroboam fab Ioas, brenin Israel.
2Dechreu llefaru o Iafe drwy Hosea.
Dywedodd Iafe wrth Hosea,
“Dos, cymer iti wraig buteinllyd, a phlant puteindra,
Canys puteinia’r wlad yn dost oddiar ol Iafe.”
3Aeth yntau a chymerth Gomer ferch Diblaim; beichiogodd hithau ac esgorodd ar fab iddo. 4A dywedodd Iafe wrtho,
“Galw ei enw Iesrëel, canys ar fyrder
Gofwyaf Dŷ Iehw am waed Iesrëel,
5A distrywiaf frenhiniaeth Tŷ Israel;
A’r dydd hwnnw drylliaf fwa Israel yn Nyffryn Iesrëel.”
6A beichiogodd drachefn, ac esgorodd ar ferch. A dywedodd [Iafe] wrtho,
“Galw ei henw Lo-rwhama,#1:6 H.y. Yr hon ni thosturiwyd wrthi
Canys ni chwanegaf eto dosturio wrth Dŷ Israel,
Fel y maddeuwyf iddynt o gwbl.
7Eithr tosturiaf wrth Dŷ Iwda,
A chadwaf hwynt drwy Iafe eu Duw;
Ond ni chadwaf hwynt â bwa ac â chleddyf
Ac â rhyfel, â meirch ac â marchogion.”
8A diddyfnodd hi Lo-rwhama,#1:8 Gweler adn. 6. a beichiogodd a dug fab. 9A dywedodd [Iafe],
“Galw ei enw Lo-ammi,#1:9 H.y. Nid fy mhobl
Canys nid fy mhobl ydych,
Ac ni byddaf innau eiddoch chwi.”
10A bydd nifer Meibion Israel fel tywod y môr,
Nas mesurir ac nas rhifir;
Ac yn lle dywedyd amdanynt, “Nid fy mhobl ydych,”
Fe ddywedir amdanynt, “Meibion y Duw byw.”
11Ac ymgynnull Meibion Iwda a Meibion Israel ynghyd,
A gosodant arnynt un pen;
Ac ânt i fyny o’r wlad,
Canys mawr yw dydd Iesrëel.

Айни замон обунашуда:

Hosea 1: CUG

Лаҳзаҳои махсус

Паҳн кунед

Нусха

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in