Psalmae 9
9
Psal. 9.
1CLōdforaf yr Arglwydd Iōn
a’m holl galon ddiau:
(A’m bŷw ddŷdd dy fōli wnāf)
mynegaf d’oll ryfeddau.
2Ynot Arglwydd llawenhāf
a gorfoleddaf (iown-dŵ:)
A beunydd dduw goruchaf
i canaf ith lān enw.
3Tra ddychwelid (gau-ddynion)
fyng-elynion iw gwrth-ōl:
Llithrant, difeir hwynt (lle’r āen)
oth flaen fyng-wir-dduw grasol.
4Cans gwnaethost yn ddā fy marn,
a’m matter iown-farn iniawn:
’Steddaist ar orsedd-fainck fūdd,
ō Arglwydd farnudd cyfiawn.
5Ceryddaist Genhedloedd ffōl,
yr annuwiol destruwiaist:
Ei henw hwynt ōll ar ōl
byth bythol a ddi-leaist.
6Hā elyn, darfu ddinistr ddŷdd
yn dragywydd weithiau:
Diwreiddiaist ddinasoedd wlād,
hwynt ai coffād darfuan.
7Ef a erys yr Arglwydd
yn dragywydd wastad:
Ef a baratōdd ei fainck
orsedd-fainck i wir-farniad.
8Cans ef a farn y bŷd derr
mewn cyfiawnder wir-deb:
efe a farn y bobloedd
(ai gweithoedd) mewn iniondeb.
9Hefyd e fŷdd yr Arglwydd
amddiffin rhŵydd i’r truan:
A phrīf-nawddfa fŷdd mewn prŷd
sef, mewn cyfyng-fŷd gwynfan.
10A’r rhai adwaenant D-’enw
ynōt nhw 'mddiriedant:
Cans ni ’dewaist ō Arglwydd
y rhai ath hylwydd-geisiant.
Yr Ail Rhan.
11MÔlwch yr Arglwydd (dann gō)
hwn fy ’n presswylio Sion:
A mynegwch i’r bobloedd
ei weithredoedd tirion.
12Cans pann ofyn ef am waed
ddaed y cofia ’m danynt
Ag ef nid anghofia waedd
y tlodion (maedd) lle ’r ydynt.
13Trugarhā wrthif Arglwydd
fy-nerchafudd o angau:
Gwê fy mlinder (arwa dōn)
gann fy ’nghaseion innau.
14Fel mynegwyf d’ōll foliant
ym-mhyrth dy sant Merch Sion:
Ag y llawenychwyf (ffraeth)
yn d’iechydwriaeth rhadlon.
15Soddair cenhedloedd vn-nōs
yn y ffōs a wnaethant:
Ei troed ei hūn a ddaliwyd
yn y rhwyd a guddiasant.
16Adweinir Arglwydd iown-farn,
cans ef a wnaeth farn ero:
Yr an-nuwiol a faglwyd
yn rhwyd-weithred ei ddwylo.
17Y rhai oll drygionus (gern)
i vffern a ymchwelant:
Sef, yr holl Genhedloedd rŷw
y gwir-dduw a anghofiant.
18Nid anghofir y tlawd bŷth
(yn nuw sy ’n sŷth ymddiriaid)
Diau bŷth ni chollir chwaith
gobaith y trueniaid.
19Cyfod Arglwydd gogoned,
na orfydded dŷn-fāb:
Y Cenhedloedd (caeth) barner
hwynt ger dy fronn duw arab.
20Gosod Arglwydd arnynt ofn,
(dōd ddwyf-ofn fel dychrynnynt:)
Gwybydded caeth-genhedloedd
mai dynnion priddoedd ydynt.
Айни замон обунашуда:
Psalmae 9: SC1603
Лаҳзаҳои махсус
Паҳн кунед
Нусха
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Cymdeithas y Beibl
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2019, fel rhan o Brosiect Digideiddio Ysgrythurau Cymraeg.