Mathew 2
2
1-2Pan gâth Iesu 'i eni im pentre Bethlem in shir Jiwdea, Herod we brenin i wlad. A dâth sgolors mowr o bant i Jerwsalem a gofyn “Ble ma Brenin ir Iddewon sy newy gâl 'i eni? Achos welon ni i seren e pan gododd i a ŷn ni wedi dwâd i ddangos parch iddo fe.”
3-5Pan gliwo Brenin Herod hyn wedd e'n becso, a we pobol Jeriwsalem in becso 'dag e. Dâth e â'r ffeiradon mowr a'r rhei we'n disgu'r Gifreth at i gily a gofyn iddon nhwy weu 'tho ble we'r Meseia i fod gâl 'i eni.
Wedon nw wrtho fe, “Fe geith e 'i eni in Bethlehem in Jiwdea; achos 'na beth reitodd i proffwd,
6'Wyt ti, Bethlehem in shir Jiwdea,
in dre bwysig in Jiwda;
achos mas o'no ti deith arweinydd
i fod in fugel i arwen Isrel, in bobol i'”
7-12Wedyn galwodd Herod i sgolors mowr o bant ato fe, a heb bo neb arall in gwbod 'ny fe dreiodd e 'u câl nhw i weu 'tho pryd in gowir we'r seren wedi dwâd i'r golwg. Halodd e nw i Bethlehem a gweu 'thon nhwy, “Cerwch a holwch obitu'r crwt; pan ffeindiwch chi e halwch wbod i fi, fel galla' i ddod a dangos parch 'ddo fe 'fyd.” Gronodon nw ar beth wedo'r brenin a mynd ar 'u wâc; a âth i seren wen nhwy wedi gweld pan gododd i o'u blân nhw, a stopo dros i lle lle we'r crwt. Pan welon nwy'r seren wen nw wrth 'u bodde. Ethon nw miwn i'r tŷ a gweld i crwt 'da'i fam, Mair. Cwmpon nw i'r llawr ar 'u penlinie o'i flân e, a dangos parch iddo fe, a wedi iddyn nw agor 'u trisore fe roion nw our, thus a myrr iddo fe. Gêthon nw freuddwd in gweu'thyn nw beido mynd nôl at Herod, ond in lle 'ny mynd gatre i'w gwlad u hunen wrth iwso hewl arall.
13Wedi'r sgolors mowr fynd, dâth angel ir Arglwi at Joseff miwn breuddwd arall, a gweu 'tho fe, “Coda, cer â'r crwt a'i fam, a jengwch i'r Aifft; aroswch fan'ny wedyn hys nes bo fi'n gweu 'thoch chi, achos ma Herod in golgu 'drych am i crwt fel gall e 'i ladd e”. 14-15Cododd Joseff, a cwmrodd e'r plentyn a'i fam am ganol nos a jenigd i'r Aifft, a aroson nw fan'ny hys bo Herod in marw, fel bo beth wedo'r Arglwi trw'r proffwd in digwydd, “Galwes ar in grwt mas o'r Aifft.”
16Pan ffeindodd Herod mas bo'r sgolors mowr o bant wedi'i dwyllo, wedd e'n tampan, a halodd e orodrs bo bob crwt in Jeriwsalem we'n ddwy flwydd wêd neu'n ifancach i gâl 'u lladd. Deseidodd e neud 'yn achos beth we'r sgolors mowr wedi gweu 'tho fe. 17Wedyn nâth beth gâth i weud trw'r proffwd Jeremeia ddigwydd,
18“Cliwon nhwy sŵn in Rama,
llefen a boichen mowr,
Rahel in llefen dros 'i phlant,
ac in pallu câl 'i chisuro,
achos 'u bo nhw wedi marw.”
19-23Pan farwo Herod, dâth angel ir Arglwi at Joseff in ir Aifft miwn breuddwd a gweud, “Coda, cer â'r crwt a'i fam nôl i wlad Isrel, achos ma'r rhai we ishe 'i ladd e wedi marw.” Cododd e, cwmrid i crwt a'i fam, a mynd i wlad Israel. Pan gliwodd e bo Archealus crwt Herod in frenin dros shir Jiwda we ofon arno fe fynd nôl fan'ny, so wedi câl rhibudd mewn breuddwd âth e i shir Galilea. Âth i fyw miwn lle o'r enw Nasareth, fel bo beth gâth i weud trw'r poffwydi in digwydd: “Fe geith e 'i alw in Nasaread.”
ప్రస్తుతం ఎంపిక చేయబడింది:
Mathew 2: DAFIS
హైలైట్
షేర్ చేయి
కాపీ
మీ పరికరాలన్నింటి వ్యాప్తంగా మీ హైలైట్స్ సేవ్ చేయబడాలనుకుంటున్నారా? సైన్ అప్ చేయండి లేదా సైన్ ఇన్ చేయండి
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies