Nahum 2

2
PEN. II.—
1Aeth anrheithiwr#chwythwr. LXX. lywodraethwr. Syr. gwasgarwr. Vulg. i fyny i’th erbyn,#ger dy fron. Vulg.
Cadw amddiffynfa;#wyliadwriaeth. Syr. yr hwn a geidw warchae. Vulg. a waredwyd o drallod. LXX.
Gwylia ffordd, cryfha lwynau;
Cadarnha nerth yn fawr.
2Canys trodd yr Arglwydd heibio y traha ar Jacob;
Fel y traha fu ar Israel:#dychwelodd yr Argl. odidogrwydd Jacob. fel god. Isr. yr wyf fi. yn dychwelyd godidogrwydd. Syr.
Canys anrheithwyr#ysgydwyr a’u hysgwydasant. LXX. mathrwyr a’u mathrasant. Syr. a’u hanrheithiasant;
A’u cangenau a ddystrywiasant.
3Tarian ei wŷr grymus#arfau ei gallu sydd o ddynion. LXX. tarianau eu—gochion. Syr. sydd goch,
Gwŷr o nerth a wisgwyd âg ysgarlad;
Tanllyd#mewn tân. LXX. yw dur#awenau. LXX., Vulg. duroedd. Hebr. y cerbyd ar ddydd ei barotoad:#rhai parod. Syr.
A’r ffyn gwaew#a’r marchogion wedi synu. Syr. a marchogion a derfysgir yn y ffyrdd. LXX. a therfysgwyr a roed i gysgu. Vulg. a ysgydwir.
4Y cerbydau a gynddeiriogant yn yr heolydd;
Rhedant draw ac yma yn y prif ffyrdd:
Eu gwelediad sydd fel lampau;
Fel y mellt y rhuthrant.
5Efe a gofia#cofir eu. LXX. daliant eu llywyddion. Syr. ei wŷr gwychion;
Tripiant ar eu ffyrdd:
Prysurant at ei chaer#buan esgynant ei munau. Vulg. hi;
A pharatowyd#parotoant. LXX., Syr. parotoir. Vulg. y gysgodfa.
6Pyrth yr afonydd#y dinasoedd. LXX. Judah. Syr. a agorwyd;
A’r palas a lesgaodd.#lesmeiriodd, a’r llys a syrthiodd. LXX. a’r deml a ddrylliwyd i’r llawr Vulg. a derfysgwyd. Syr.
7Ac y mae wedi ei benderfynu,#cyffroes ei marchogion ac aeth i fyny. Syr.
Hi a gaethgludwyd,#a’r sail a ddatguddiwyd. LXX. milwr a ddygwyd ymaith yn gaeth. Vulg. gwnaed iddi fyned i fyny:
A’i morwynion yn cwyno fel llais colomenod;
Gan guro#yn cwyno yn eu. LXX. Syr., Vulg. ar eu calonau.
8A Ninefeh,
Fel llyn o ddyfroedd y bu ei dyfroedd#er ys dyddiau. er ei dyddiau hi. yn lle o ddyfroedd. hi.
Ac y maent hwy yn ffoi;
Sefwch, sefwch,#ni safasant. LXX.
Ac nid oes a edrycho#droai. Vulg. yn ol.
9Ysbeilwch#ysbeiliasant. LXX. arian, ysbeiliwch aur:
Ac nid oes diwedd i’r ystor;#ddarparfa, ei haddurn hi. LXX. Syr.
Gogoneddus#trymhawyd hwy gan ei. LXX. cyfoethogion ydynt. Syr. trymder, llwythog. ydyw gan yr holl nwyddau dymunol.
10Gwag#gwagter, llwyr wagter, anrhaith. ysgydwad, adysgydwad, berwfa. LXX. sathrfa, a dymchweliad, a drylliedigaeth. Syr. llwyr wag ac anrheithiedig yw hi:
A chalon yn toddi#yn doredig. Syr. a gliniau yn crynu,
A phoen yn yr holl lwynau;
Ac wynebau pawb o honynt a gasglasant#sydd fel llosgiad crochan. LXX. fel duwch crochan. Vulg., Syr. barddu.
11Pa le y mae trigfan llewod?
A bwydfa fu hi#efe. Hebr. i’r llewod ieuainc;
Yno lle y rhodiai llew, llewes,#llew mawr. cenaw llew,
Ac nid oedd a’u dychrynai.
12Llew yn ysglyfaethu digon i’w genawon;
Ac yn llindagu i’w lewesau:
Ac efe a lanwai ag ysglyfaeth ei ffauau;
A’i lochesau ag ysbail.
13Wele fi atat,#wrthyt, i’th erbyn. medd Arglwydd y lluoedd;
A mi a losgaf ei cherbyd#luaws. LXX. dyrfaoedd. Syr. hi mewn mwg;
A chleddyf a ddifa dy lewod ieuainc:
A thoraf ymaith o’r tir dy ysglyfaeth;
Ac ni chlywir mwyach lais dy genadau.#dy weithredoedd. LXX., Syr.

ప్రస్తుతం ఎంపిక చేయబడింది:

Nahum 2: PBJD

హైలైట్

షేర్ చేయి

కాపీ

None

మీ పరికరాలన్నింటి వ్యాప్తంగా మీ హైలైట్స్ సేవ్ చేయబడాలనుకుంటున్నారా? సైన్ అప్ చేయండి లేదా సైన్ ఇన్ చేయండి