Habacuc 3

3
PEN. III.—
1Cân#gweddi Ambaeoum. LXX. Alex. gweddi Ambacoum y proffwyd gyda chân. LXX. Vat. Habacuc y Proffwyd:
Ar wedd Galarnad.#dros anwybodaethau. Vulg.
2Arglwydd, clywais son#dy enw. Syr. am danat,
Ofnais, Arglwydd;
Dy waith,
Yn nghanol#wrth nesau o’r blyn. LXX. yn nghanol blynyddoedd einioes. Syr. blynyddoedd cadw ef yn fyw;
Yn nghanol blynyddoedd y peri wybod:#y’th adwaenir. LXX., Syr.
Mewn llid y cofi drugaredd.#dy drug. Syr.
3Duw a ddeuai o Teman;#Thaiman. LXX. deheu. Vulg.
A SANTAIDD o fynydd Paran,#fynydd cysgodol garw Pharan. LXX. Selah,
Ei ogoniant a dodd#towyd y—gan. Syr. wybrenau,
A’i fawl a lanwodd y ddaear.
4A byddai dysglaerdeb fel goleuni;
Pelydr iddo a ddeuent oddiwrtho:
Ac yno yr oedd cuddfa ei gryfdwr.#a gosododd gariad cryf ei nerth. LXX.
5O’i flaen y cerddai haint:#gair. LXX. angeu. Syr., Vulg.
Ac elai pla#i’r maesydd. LXX. aderyn. diafol. Vulg. allan wrth ei draed.
6Safodd a mesurodd#ysgwydwyd y ddaear. LXX. Syr. wlad,
Edrychodd a dychrynodd genedloedd;
A drylliwyd mynyddoedd tragywyddol;#trwy drais. LXX.
A chrynodd bryniau#gostyngwyd. Syr. crymwyd bryniau y byd. Vulg. oesol:
Llwybrau oesol sydd iddo.
7Dan gystudd#am drafferthion. LXX. dan ochain. Syr. am anwiredd Vulg. y gwelais bebyll#crwyn. Vulg. Cusan:
Crynodd#yn gogwyddo. Syr. lleni gwlad Midian.
8Ai wrth yr afonydd y sorodd#soraist, Argl. LXX. Vulg. yr Arglwydd?
Ai wrth yr afonydd y bu dy ddig?
Ai wrth y môr y bu dy ŵg?#dy ruthr. Syr. LXX.
Gan y marchogit#marchogaist ar dy farch ac ar dy gerbyd. Syr. ar dy feirch;
Dy gerbydau#dy farchlu oedd iachawd. LXX. iachawdwriaeth.
9Gan noethi y noethit#gan dynu y tynaist dy—yn herwydd teyrnwieil, medd yr Arglwydd. LXX. gan ddeffro y deffroir dy. Syr. y deffroi. Vulg. dy fwa;
Gan lefaru llwon i lwythau,#a digonir arfau trwy dy air gogoneddus. Syr. llwon i—y rhai a lefaraist. Vulg. Selah:
Yn afonydd yr holltit#rhwygir. LXX. Syr. wlad.
10Mynyddoedd a’th welsant,#pobloedd a’th welant ac a ym-ofidiant. LXX.
Crynent;#ac ymofidiasant. Vulg.
Cefnllif dyfroedd a aeth ymaith:
Dyfnder a roddes ei lef;
Cododd ei dònau yn uchel.#uchder ei ymddangosiadau. LXX.
11Haul,#cododd yr. LXX. lloer a safodd yn eu#ei lle LXX. preswylfa:
Mewn goleuni y cerddai dy saethau;
Dy waewffon wrth lewyrch mellt.
12Mewn llid#bygwth. LXX. y tramwyit#y bychenu. LXX. sengu. Syr. sethru. Vulg. wlad:
Mewn digter y dyrnit#y drylli. LXX. y sengu. Vulg. genedloedd.
13Aethost allan er iachawdwriaeth dy bobl;
Er iachawdwriaeth dy eneiniog:
Toraist benog allan o dŷ anwiriad;#tefli angeu ar benau anwiriaid. LXX.
Gan ddynoethi sylfaen hyd wddf,#a dynoethaist. Syr. Vulg. codaist rwymau. LXX. Selah.#hyd bythoedd. Syr.
14Trywanaist â’i ffyn ef ben ei dywysogion;#toraist mewn syndod benau rhai galluog. LXX. agoraist. Syr. melldithiaist ei deyrnwieil ef, pen ei ryfelwyr. Vulg.
Ymgynddeiriogent i’m gwasgaru,#hyderasant yn eu creulondeb y bwytaent y. Syr.
Ymlawenasant fel wrth ddifa tlawd mewn ymguddfa.
15Rhodiaist dy feirch trwy y môr:#aethost ar dy—i’r. LXX. gwnaethost ffordd i’th. Vulg. ar dy feirch y sengaist yn y.
Pentwr#yn llaid. Vulg. gan derfysgu dwfr lawer. LXX., Syr. o ddyfroedd mawrion.
16Clywais,#gwyliais. LXX. a chyffrodd fy mòl,
Wrth y swn#gan y llais. Vulg. dychrynwyd fy mol rhag llais gweddi fy ngwefusau. LXX. crynodd fy ngwefusau;
Deuai#deued—a bydded helaeth fel y gorphwyswn yn nydd. Vulg. pydredd i’m hesgyrn,
A chrynwn tanaf:#terfysgwyd fy ngwedd. LXX. a’m gliniau a grynodd. Syr.
O herwydd fe’m dygir i ddydd trallod;#am y dangosodd i mi ac y mynegodd i mi ddydd trallod yn dyfod ar y bobl. Syr.
I fyned i fynu at bobl y rhai a’n llethant.#at ein pobl wregysedig ni. Vulg.
17Canys ffigysbren ni flodeua,
Ac ni bydd cynyrch ar y gwinwydd;
Palla gwaith olewydden;
A maesydd#a’r lloriau. crugiau ni wnaethant ŷd. Syr. ni roddant fwyd:
Torwyd dafad#methodd defaid oddiwrth fwyd LXX. o gorlan;
Ac ni bydd eidion#ac heb fod eidion yn mysg ychain. Syr. wrth bresebau.
18Ond myfi a lawenychaf yn yr Arglwydd;
Gorfoleddaf yn#am, ar, yn herwydd. LXX. Nuw fy iachawdwriaeth.#iachawdwr. LXX. Syr, fy Iesu. Vulg.
19Yr Arglwydd lôr yw fy nerth;
Ac efe a esyd fy nhraed fel traed ewigod;#hyd y diwedd. LXX. fel carw. Syr. ceirw. Vulg.
Ac efe a wna i mi rodio ar fy uchel diroedd;
I’r prif gantawr#i orchfygu, ragori yn y gân iddo LXX. a gorchfygwr a’m dwg i’m huchel-leoedd yn cânu salmau. Vulg. fel y canwyf mewn hymnau iddo. Syr. ar fy offer tanau.

ప్రస్తుతం ఎంపిక చేయబడింది:

Habacuc 3: PBJD

హైలైట్

షేర్ చేయి

కాపీ

None

మీ పరికరాలన్నింటి వ్యాప్తంగా మీ హైలైట్స్ సేవ్ చేయబడాలనుకుంటున్నారా? సైన్ అప్ చేయండి లేదా సైన్ ఇన్ చేయండి