Ioan Marc 5

5
1Yna hwy á groesasant y môr, ac á ddaethant i wlad y Gadarëaid.
2-20Cygynted ag y glàniodd efe, cyfarfu ag ef ddyn yn dyfod o’r gwyddfeddi, âg ysbryd aflan ynddo, yr hwn oedd â’i drigfa yn y tomodion; a ni allai neb, hyd yn nod â chadwynau, ei rwymo ef. Oblegid mynych y rhwymesid ef â llyffetheiriau a chadwynau, ac y darniasai y cadwynau, a thòrasai y llyffetheiriau, fel na allai neb ei ddofi ef. Ac yr oedd efe yn barâus, ddydd a nos, yn y mynyddoedd, ac yn y tomodion, yn ubain, ac yn tòri ei hunan â #5:2 Flints.chelltèni. Ond pan welodd efe Iesu o hirbell, efe á redodd, a chàn ymgrymu o’i flaen ef, á waeddodd allan, Beth sydd à wnelych â mi, Iesu, Mab y Duw Goruchaf? Yr wyf yn dy dyngedu drwy Dduw na phoenych fi. (Canys dywedasai Iesu wrtho, Dyred allan o’r dyn, tydi ysbryd aflan.) Iesu á ofynodd iddo, Beth yw dy enw? Yntau á atebodd, Fy enw yw Lleng, oblegid llawer ydym. Ac efe á ddeisyfodd arno yn daer beidio a’u gỳru hwynt allan o’r wlad. Ac yr oedd yno genfäint fawr o foch yn pori àr y mynydd. A’r ellyllon á ddeisyfasant arno, gàn ddywedyd, Danfon ni i’r moch, fel yr elom i fewn iddynt. Iesu yn ebrwydd á ganiatâodd iddynt. Yna yr ysbrydion aflan wedi myned allan, á aethant i’r moch; a’r genfaint, yn nghylch dwy fil o rifedi, á ruthrodd dros y dibyn i’r môr, ac á fygwyd. A’r mychiaid á ffoisant, ac á fynegasant y peth yn y ddinas, ac yn y pentrefi. A’r bobl á ymdỳrasant allan i weled yr hyn à ddygwyddasai. Pan ddaethant at Iesu, a gweled yr hwn y buasai y lleng ynddo, yn eistedd, a gwedi ei ddilladu, ac yn ei iawn bwyll, hwy á ofnasant. A gwedi i’r sawl à welsent y cwbl, fynegi iddynt yr hyn á ddygwyddasai i’r cythreulig, ac i’r moch, hwy á ddeisyfasant arno ymadael o’u tiriogaethau. A fel yr oedd efe yn #5:2 Myned i long.llongi, y dyn y buasai y cythraul ynddo, á ofynodd gènad i fyned gydag ef. Eithr ni adawodd Iesu iddo, ond á ddywedodd, Dos adref at dy berthynasau, a dywed wrthynt pa bethau mawrion á wnaeth yr Arglwydd, mewn tosturi, erot. Yn ganlynol efe á ymadawodd, gàn gyhoeddi yn Necapolis, pa bethau mawrion á wnaethai Iesu iddo. A phawb á ryfeddasant,
21-24Gwedi i Iesu fyned drosodd yn y llong i’r làn arall, ymgasglodd tyrfa fawr o’i amgylch tra yr ydoedd efe àr y làn. Yna daeth un o lywyddion y gynnullfa, â’i enw Iairus, yr hwn pan welodd ef, á syrthiodd wrth ei draed ef, ac á ddeisyfodd arno yn daer, gàn ddywedyd, Y mae fy merch fechan mewn perygl dirfawr; dyred, atolwg, a gosod dy ddwylaw arni èr ei hiachâu, a hi á fydd iach. Ac Iesu á aeth gydag ef, yn cael ei ddylyn gàn dyrfa fawr, y rhai á’i gwasgent ef.
25-34A gwraig, yr hon á fuasai ddeg a dwy flynedd yn cael ei blino gàn ddyferlif gwaed, yr hon á ddyoddefasai lawer oddwrth amrai feddygon, ac á dreuliasai gymaint ag oedd àr ei helw heb gael dim lles, ond yn hytrach myned waethwaeth – wedi clywed am Iesu, á ddaeth yn y dorf o’r tu ol, ac á gyfhyrddodd â’i fantell ef; canys hi á ddywedasai, Os cyfhyrddaf ond â’i ddillad ef, iach fyddaf. Yn ebrwydd ffynonell ei hafiechyd á sychodd, a hi á deimlai yn ei chorff ddarfod ei gwaredu oddwrth y ffrewyll hòno. Iesu yn y fàn, yn ymwybodol o’r rhinwedd à aethai allan o hono, gwedi troi at y dorf, á ddywedodd, Pwy á gyfhyrddodd â’m dillad? Ei ddysgyblion á atebasant, Ti á weli fel y mae y dyrfa yn dy wasgu; ac á ddywedi di, Pwy á gyfhyrddodd â mi? Eithr efe á edrychodd o’i amgylch i weled yr hon à wnaethai hyn. Yna y wraig, yn gwybod y cyfnewidiad à weithiesid arni, á ddaeth dàn grynu o ofn, á syrthiodd gèr ei fron ef, ac á gyfaddefodd yr holl wirionedd. Yntau á ddywedodd wrthi, Ferch, dy ffydd á’th iachâodd; dos mewn heddwch, wedi dy ryddâu oddwrth y ffrewyll hon.
35-43Cyn iddo orphen llefaru, daeth cènadau o dŷ llywydd y gynnullfa, y rhai á ddywedasant, Y mae dy ferch wedi marw, paham yr aflonyddit yr athraw mwyach? Iesu yn clywed mynegi y gènadwri hon, á ddywedodd yn y fàn wrth y llywydd, Nac ofna; crêd yn unig. A ni adawai efe i neb ei ddylyn ef ond Pedr ac Iägo, ac Iöan brawd Iägo. Gwedi cyrhaedd tŷ y llywydd, a gweled y cynhwrf, a’r bobl yn wylo ac yn ochain yn annghymedrol, efe á ddywedodd wrthynt, fel yr oedd yn myned i fewn, Paham yr ydych yn wylo, ac yn gwneuthur ffwdan? ni bu farw y plentyn, ond cysgu y mae. A hwy á’i gwatwarasant ef. Ond wedi eu bwrw hwynt oll allan, efe á gymerodd gydag ef dad a mam y plentyn, a’r rhai à ddaethent gydag ef; ac efe á aeth i fewn i’r ystafell lle yr oedd hi; a gwedi ymaflyd yn ei llaw, á ddywedodd wrthi, Talitha cwmi, (yr hyn á arwydda, Ferch ieuanc, cyfod,) yr wyf yn gorchymyn i ti. Yn y fàn yr eneth á gyfododd ac á rodiodd, canys yr oedd hi yn ddeg a dwy flwydd oed; a hwy á sỳnasant yn ddirfawr. Eithr efe á orchymynodd iddynt yn gaeth, na chai neb wybod hyn, ac á berodd roddi iddi rywbeth iddei fwyta.

ప్రస్తుతం ఎంపిక చేయబడింది:

Ioan Marc 5: CJW

హైలైట్

షేర్ చేయి

కాపీ

None

మీ పరికరాలన్నింటి వ్యాప్తంగా మీ హైలైట్స్ సేవ్ చేయబడాలనుకుంటున్నారా? సైన్ అప్ చేయండి లేదా సైన్ ఇన్ చేయండి