Matthew 26

26
Pen. xxvj.
Bwriad yr Offeiriait yn erbyn Christ. Ef yn escuso Mair Magdalen. Ordinat Swper yr Arglwydd. Gwendit y discipulon. Brad Iuddas. Y cleddyf. Can i Chirst y ’alw y un yn vap Dew, y barnwyt ef yn deilwng o angae. Petr yn ymwady, ac yn edifarhay.
Yr Euangel y Sul nesaf o vlayn y Pasc.
1AC e ðarvu, gwedy i’r Iesu ’orphen y gairie hyn oll, ef a ddyvot wrth ei ddiscipulon, 2Chwi wydddoch, mae o #26:2 * ar olvewn y ðauddydd y mae ’r Pasc a’ Map y dyn a roddir #26:2 ddodi ar y groesy’w groci. 3Yno ydd ymgynnullawdd yr Archoffeiriait a’r Scrivennyddion, a’ #26:3 * HenafgwyrHenyddion y popul i nauað yr Archoffeiriat, a elwit Caiaphas 4ac a ymgyggoresont py vodd y dalient yr Iesu trwy #26:4 ddichellvrad, a’ ei ladd. 5Eithyr wynt a ddywetsōt, Nyd ar yr ’wyl, rac bod cynnwrf ym‐plith y #26:5 * werinpopul. 6Ac val yð oedd yr Iesu ym‐Bethania yn-tuy Simon ’ohanglaf, 7e ddaeth ataw wreic, ac gyd a hi #26:7 llestrait, golwrchvlwch o irait gwerthvawr, ac ei tywalldawdd ar ei benn, ac ef yn eistedd #26:7 * ar y bwrðwrth y vort. 8A’ phan weles ei ddiscipulon, wy a #26:8 ddigiesontsorasont, gan ddywedyt, Pa rait #26:8 * yr afrat hyny gollet hon? 9can ys ef al’esit gwerthy er irait hwn er l’awer, a’i roddi ef ir tlotion. 10A’r Iesu a wybu, ac a ddyvot wrthwynt, Paam ydd ych yn #26:10 ymliasu armolesty yr wreic? can ys hi a weithiawdd weithret ða arnaf. 11Can ys y tlodion a gewch yn #26:11 * bob amserwastat yn eich plith, a’ myvy ny’s cewch yn oystat gyd a chwi. 12Can ys lle y tywalltawdd hi yr irait hwn ar vyg‐corph, er mwyn #26:12 * v’angladdvy‐claðedigaeth hi gwnaeth. 13Yn wir ydywedaf wrthych, Pa le bynac y precether yr Euangel hon yn yr oll vyt, hyn yma hevyt a wnaeth hi, a venegir er coffa am denei, 14Yno yr aeth vn o’r dauddec, yr hwn a elwit Iudas Iscariot, at yr Archoffeiriait, 15ac a ddyvot vvrthynt, Pabeth a rowch i mi, a’ mi y #26:15 vradychafrroddaf ef y‐chwy? Ac wy a’ osodesont iddaw #26:15 * popvn oeð yn cylch pedair a’dimae o’n cyfri ni.ddec arugain o ariant. 16Ac o hynny allā, y caisiawdd ef amser‐cyfaddas yw vradychy ef. 17Ac ar y dydd cyntaf o wyl y bara‐#26:17 cri, craicroew, y discipulon a ðaethant at yr Iesu gan ddywedyt wrthaw, P’le y myny i ni paratoi iti y vwyta ’r Pasc? 18Ac yntef a ddyuot, Ewch ir dinas #26:18 * ar gyfrywat ryw vn, a dywedwch wrthaw, Yr athro a ddywait, Vy amser ys ydd agos, cyd a thi y cynhaliaf, y Pasc mi am discipulon. 19A’r discipulon a wnaethant mal y gorchmynesei ’r Iesu yddwynt, ac a paratoesont y Pasc. 20Ac gwedy ei mynet hi yn #26:20 echwydd, gosperhwyr, ef a eisteddawdd i lawr gyd a’r dauddec. 21Ac mal ydd oeðēt yn bwyta, y dywedawð, Yn wir y doedaf wrthych, y bradycha vn o hanawch vyuy. 22Yno yr aethant yn #26:22 * trist, drycverthathrist dros ben, ac a ddechraesont bop‐vn ddywedyt wrthaw. Ac myvi Arglwydd? 23Ac ef a atepawdd ac a ddyvot, Yr hwn a #26:23 vlychdrocha ei law gyd a mi yn y ðescil, hwn a’m bradycha. 24#26:24 * yn sicrDiau Map y dyn a gerdda, mal y mae yn ercrivenedic o hanaw, anid gwae ’r dyn hwnaw, trwy ’r hwn y bradycher Map y dyn: ys da vesei ir dyn hwnaw, pe na’s genesit erioet. 25Yno Iudas yr hwn y bradychawdd ef, a atepawdd ac a ddyvot, Ai myvi yw ef, #26:25 * RabbiAthro? Ef a ddyvot wrthaw, Ty ei dywedaist. 26Ac val yr oeddynt yn bwyta, e gymerth yr Iesu ’r bara: a’ gwedy iddaw #26:26 vendigo, ddiolchvendithiaw, ef ei torawdd, ac ei roddes ir discipulon, ac a ddyvot, Cymerwch, bwytewch: hwnn yw vy‐corph. 27Ac ef a gymerth y #26:27 * phiolcwpan, a’ gwedy iddo ddiolch, ef ei rhoddes yddynt, can ddywedyt, Yfwch #26:27 bawpoll o hwn. 28Can ys hwn yw vy‐gwaet #26:28 * ys ef gwaedo’r testament Newydd, yr hwn a #26:28 ddineir, ellyngir, ffrydijrdywelltir tros lawer, er maddauant pechotae. 29Mi ddywedaf wrthych, nad yfwyf o hynn allan o’r ffrwyth hwn #26:29 * iry wynwydden yd y dydd hwnw, pan ydd yfwyf ef yn newydd gyd a chwi yn‐teyrnas vy‐Tad. 30A’ gwedy yddwynt #26:30 ddywedyd gras ne emyncanu psalm, ydd aethant allan i vonyth Olivar. 31Yno y dyvot yr Iesu yr wrthynt, Chwychwi oll a #26:31 * dramgwyddir gwympirrwystrir heno o’m pleit i: canys escrivenedic yw, Trawaf y bugail, a’ deveit y #26:31 gorlan, cadwvagat a ’oyscerir. 32Eithyr gwedy ’r adgyvodwyf, ir af och blaen ir Galilea. 33Ac Petr atepawdd, ac a ddyvot wrthaw, Pe #26:33 * rhonrhan i bawp ac ymrwystro oth pleit ti, eto ni ’im #26:33 tramgwyddirrhwystrir i byth. 34Yr Iesu a ðyvot wrthaw, Yn wir y dywedaf wrthyt, mae yr nos hon, cyn #26:34 * cathlycanu yr ceilioc, i’m gwedy deirgwaith. 35Petr a ðyvot wrthaw, Pe gorvyddei i mi varw gyd a thi, eto ny’th wadaf. Ar vn modd hefyt y dyvot yr oll ddiscipulon. 36Yno ydd aeth yr Iesu gyd ac wynt i van a elwit Gethsemane, ac a ddyvor wrth y discipulon. Eisteddwch yma, #26:36 yd yn ydtra elwyf a gweddiaw accw. 37Ac ef a gymerth Petr, a’ dau‐vap Zebedeus ac a ðechreawð #26:37 * ddrycverthytristau, ac ymovidiaw yn tost. 38Yno y dyvot yr Iesu wrthynt, Trist iawn yw vy enait ys yd angae, Aroswch yma, a’ gwiliwch gyd a mi. 39Ac ef aeth ychydic pellach, ac a gwympodd ar ei wynep, ac y weddyawdd, can ddywedyt, #26:39 * VynhadVy‐Tad, a’s gellir, aed y #26:39 phiolcwpan hwn ywrthyf: na vyddet hagen, yn ol vy ewyllys i, anid yn ol dy ewyllys di. 40Yno y daeth at y discipulon, ac ei cafas wy yn cyscu, ac a ddyvot wrth Petr, Paam? a ny allech’ wiliaw vn awr gyd a mi? 41Gwiliwch, a’ gweðiwch rac eich myned #26:41 * mewnym‐provedigaeth: #26:41 dilysdiau vot yr yspryt yn parat, eithyr y cnawt ys ydd ’wan. 42Ef aeth trachefn yr ailwaith ac a weddiawð, can ddywedyt #26:42 * VynhadVy‐Tat, any’s gall y cwpan hwn vynet y wrthyf, eb orvod i mi ei yvet, byddet dy ewyllys. 43Ac ef a ddeuth, ac y cavas wy yn cyscu trachefyn: can ys ei llygait wy oedd drymion, 44Ac ef ei gadawodd wy ac aech ymaith drachefyn, ac a weddiawdd y trydeð waith, can ddywedyt yr vn gairiae. 45Yno y daeth ef at ei discipulon, ac a ddyvot wrthynt, Cuscwch bellach a’ gorphwyswch: #26:45 welenycha, mae’r awr wedy nesay, a’ Map y dyn a roddir yn‐dwylaw pechaturieit. 46Cyvodwch, awn: nycha, y mae geyr llaw yr hwn a’m bradycha. 47Ac ef eto yn dywedyt hyn, #26:47 * synna, yti.nycha, Iudas, vn or dauddec #26:47 a ddaethyn dyvot a’ thorf vawr cyd a’ ef a chleddyvae a’ #26:47 * chlwpaeffynn, ywrth yr Archoffeiriait a’ henurieit y popul. 48A’ hwn aei bradychawdd ef, a royðesei arwydd yddynt, can ddywedyt, Pwy’n bynac a gysanwyf, hwnw ytyw, deliwch ef. 49Ac yn ebrwydd e ddaeth at yr Iesu, ac a ddyvot, #26:49 * Nos daytHenpych‐well #26:49 RabbiAthro, ac ei cusanawð. 50A’r Iesu a ddyvot wrthaw, Y #26:50 * cydymaith, cyvaillcar y ba beth y daethost? Yno y deuthant ac y roesont ddwylo ar yr Iesu, ac ei daliesant. 51A’ #26:51 * welenycha, vn or ei oedd gyd a’r Iesu, a estennawdd ei law, ac a dynnawdd ei gleddyf, ac a drawawdd was yr Archoffeiriat, ac a dorawdd ei glust ymaith. 52Yno y dyvot yr Iesu wrthaw, Dod dy gleddyf yn ei #26:52 wainle: can ys pawp a’r a gymerant gleddyf, a chleddyf eu collir. 53Ai wyti yn tybiet, na’s gallaf yr awrhon #26:53 * erchyweddiaw ar vy‐Tad, ac ef rydd i mi vwy na dauddec #26:53 rhifedi mawrlleng o Angelion? 54Can hyny pa vodd y cyflawnir yr Scrythurae y ddyvvedant, y gorvydd #26:54 * gwnethurbot velly? 55Yn yr awr hono y dyvot yr Iesu wrth y durfa, Chwi a ddeuthoch allan megis #26:55 yn erbynat leitr a chleddyfae ac #26:55 * chlwpaea’ ffynn im dal i: ydd oeddwn baunyð yn eistedd ac yn #26:55 dangosdyscy’r popul yn y Templ yn eich plith ac ni’m daliesoch. 56A’ hyn oll awnaethpwyt, er cyflawny’r Scrythure ’r Prophwyti. Yno yr oll ddiscipulon ei gadasant, ac a #26:56 * ffoesontgiliesant. 57Ac wynt a ðaliesant yr Iesu, ac aethant ac ef at Caiaphas yr Archoffeiriat, lle ydd edd yr #26:57 * Gwyr llenScrivenyddion ar #26:57 Henyðiō, HenaifHenuriait wedy’r ymgascly yn‐cyt. 58Ac Petr y cynlynawdd ef o hirbell yd yn #26:58 * nauaddllys yr Archoffeiriat, ac aeth y mewn, ac a eisteddawdd gyd a’r gweision i weled y #26:58 diwedddiben. 59A’r Archoffeirieit a’r Henureit, a’r oll #26:59 * seneddgymmynva y geisiesōt gaudestiolyeth yn erbyn yr Iesu, yw #26:59 roddiddody ef i angae. 60Ac ny’s #26:60 cawsant neb, ac er dyvot yno lawer gaudystion, ny chawsont chwaith. Ac o’r dywedd y deuth dau gau dystion, 61ac a ddywedesont, Hwn yma a ddyvot, Mi allaf #26:61 * ddinistrio, ddysperiddestcyw Templ Dduw, a’ hei adaillat mewn tri‐dievvarnot. 62Yno y cyfodes yr Archoffeiriat ac a ddyvot wrthaw, A atepy di ddim? Pa peth yvv pan vo rei hyn yn testolaethy yn dy erbyn? 63A’r Iesu a dawodd. Yno ydd atepawdd yr Archoffeiriat, ac a ddyvot wrthaw, Mi ath #26:63 * orchymyaf can, obleitdyngaf trwy’r Duw byw, ddywedyt o hanot i ni, a’s ti ywr Christ Map Duw. 64Yr Iesu a ddyvot wrthaw, Tu ei dywedeist; eithyr mi a ddywedaf wrthych, ar ol hynn y gwelwch Vap y dyn, yn eistedd ar ddeheu gallu Duvv, ac yn dawot yn #26:64 cymylewybrenae’r nef. 65Yno y #26:65 * drylliawðrhwygawdd yr Archoffeiriat ei ddillat, can ddywedyt, Ef a gablawdd: pa reit i ni mwy wrth testion? nycha, clywsoch y gabl ef. 66Peth dybygwch chwi? Wy a atepesant, can ddywedyt, Mae ef yn #26:66 * dailwng oauawc i angae. 67Yno y poeresont wy yn ei wynep, ac ei #26:67 bonclustiesantcer nodiesont: ac eraill y trawsant ef a ei #26:67 * swiðwiailgwiail, 68gan ddywedyt, Prophwyta i ni, Christ, pwy yw hwn ath trawodd? 69Petr oedd yn eistedd #26:69 allanhwnt yn y#26:69 * llysnauadd, ac a ddaeth #26:69 bachsenesmorwynic attaw, ac a ddyvot, Ac ydd oeddyt ti y gyd ac Iesu o’r Galilea. 70Ac ef a watawdd geyr ei bron wy oll, ac a ddyvot, Ny’s gwnn beth ddywedy. 71A’ phan aeth ef allan ir porth, y gwelawdd morvvynic arall ef, ac a ddyvot wrth yr ei oedd ynow, Ydd oedd hwnn hefyt gyd ac Iesu o Nazaret. 72A’ thrachefyn ef a’ wadawdd #26:72 drwy lwgan dyngu, Nyd adwaen i’r dyn. 73Ac ychydic gwedy, y deuth attaw ’rei oeð yn sefyll geyr llaw, ac a ddywedesont wrth Petr, Yn wir ydd #26:73 * wyyw ti yn vn o hanwynt, can ys bot dy lediaith yn dy #26:73 gyhuddawgyhoeddy. 74Yno y drechreawdd ef #26:74 * ymdyngedyymregy, a’ thyngy, can ddyvvedyt, Nyd adwaen i’r dyn. Ac yn y man y canawdd y ceiliawc. 75Yno y cofiawdd Petr ’airie ’r Iesu yr hwn a ddywedesei wrthaw, Cyn canu yr ceilioc, tu a’m gwedy deirgwaith. Yno ydd aeth ef allan ac ydd wylawdd yn #26:75 * chwerwdost.

தற்சமயம் தேர்ந்தெடுக்கப்பட்டது:

Matthew 26: SBY1567

சிறப்புக்கூறு

பகிர்

நகல்

None

உங்கள் எல்லா சாதனங்களிலும் உங்கள் சிறப்பம்சங்கள் சேமிக்கப்பட வேண்டுமா? பதிவு செய்யவும் அல்லது உள்நுழையவும்