Matthew 2
2
Ymweliad y Magiaid.
1Ac wedi geni yr Iesu yn Bethlehem Judea, yn nyddiau Herod frenin,#2:1 Sef Herod Fawr, mab Antipater, yr Idumëad, yr hwn a dderbyniodd y teitl o Frenin oddiwrth y Senedd Rufeinig drwy ddylanwad Anthony. Gelwid ef cyn hyny yn Detrarch. Bu yn frenin am 36 o flynyddau. wele, Magiaid#2:1 Groeg, Magoi, Magiaid. “Yn mhlith y Persiaid, gelwir y Doethion, Magiaid; yn mhlith yr Aifftiaid, Offeiriaid; yn mhlith yr Indiaid, Brahminiaid; ac yn mhlith y Celtiaid, Derwyddon.” — Dionysius. Yr oedd y Magiaid, yn ol Herodotus, yn cyfansoddi un o'r chwech llwyth yn mhlith y Persiaid a'r Mediaid. Hwy oeddynt offeiriaid y bobl, a chydnabyddid hwy fel yn ddysgedig mewn ser‐ddewiniaeth, meddyginiaeth, a dirgelion natur. Yr oedd y fath urdd hefyd yn mhlith y Babiloniaid, Jer 39:3. Gwnawd Daniel yn llywydd arnynt, Dan 2:48. Ar ol hyn, daeth y term magos yn enw mwy cyffredinol; felly, Simon Magus, Act 8:9; gweler hefyd Act 13:6, 8 o'r Dwyrain a ddaethant i Jerusalem, 2gan ddywedyd, Pa le y mae Brenin yr Iuddewon, yr hwn a anwyd? Canys gwelsom ei Seren ef yn y Dwyrain,#2:2 Neu, yn ei chyfodiad. Fel rheol, defnyddir y gair yn y rhif lluosog am y Dwyrain, Gen 2:8; Esec 11:1 a daethom i'w addoli ef. 3A phan glybu Herod frenin, efe a gythryblwyd, a holl Jerusalem#2:3 Sef yn benaf, arweinwyr y bobl, neu gyfeillion Herod, y rhai oeddynt yn dal swyddi, ac mewn perygl o'u colli. Hefyd, ofnai y bobl gyffroadau newyddion, neu y mabwysiadai Herod fesurau mwy creulon fyth tuag atynt. gydag ef. 4A chan ddwyn yn nghyd yr holl Archoffeiriaid ac Ysgrifenyddion y bobl, efe a ymofynodd â hwynt pa le y genid y Crist. 5A hwy a ddywedasant wrtho, Yn Bethlehem Judea, canys felly yr ysgrifenwyd trwy y proffwyd, 6“A thithau, Bethlehem, tir Judah, nid wyt o gwbl y lleiaf yn mhlith tywysogion#2:6 Neu, “Nid wyt y lleiaf yn mhlith prif ddinasoedd Judah.” Judah, canys allan o honot ti y daw Arweinydd, yr hwn a fugeilia fy mhobl Israel.”#Micah 5:2 7Yna Herod a alwodd y Magiaid yn ddirgel, a mynodd wybod#2:7 Akriboun, dysgu i'r manylwch pellach, neu cael gwybod i'r pwynt eithaf. yn fanwl ganddynt amser#2:7 Llythyrenol, “Amser y seren a ymddengys.” Gofyniad Herod oedd, nid “Pa bryd yr ymddangosodd?” ond “Pa bryd yr ymddengys, nos ar ol nos?” neu “Pa hyd yr ymddengys y seren o'i chyfodiad?” y seren a ymddangosodd. 8A chan eu danfon i Bethlehem, efe a ddywedodd, Ewch ac ymofynwch yn fanwl am y mab bychan, a phan gaffoch ef, mynegwch i mi, fel y delwyf finau hefyd a'i addoli ef. 9A hwythau, wedi clywed y brenin, a aethant i'w ffordd; ac wele y Seren, yr hon a welsant yn y Dwyrain, a aeth o'u blaen hwy, hyd oni ddaeth a sefyll goruwch y lle yr oedd y mab bychan. 10A phan welsant y Seren, llawenychasant â llawenydd mawr dros ben. 11Ac wedi dyfod i'r tŷ, hwy a welsant y mab bychan gyda Mair ei fam, a chan syrthio i lawr, hwy a'i haddolasant ef, a chan agor eu trysorau, hwy a offrymasant iddo aur, a thus, a myrr. 12Ac wedi derbyn cyfarwyddyd#2:12 Chrematizesthai, derbyn ateb oddiwrth yr oraclau, cael gorchymyn, rhybudd, neu gyfarwyddyd gan Dduw. Wicliff, “An answer taken in sleep.” Awgryma hyn fod y Magiaid wedi gofyn am arweiniad. mewn breuddwyd na ddychwelent at Herod, ar hyd ffordd arall hwy a ymadawsant#2:12 Aanachorein, dychwelyd, cilio (yn fynych trwy ofn, &c.), gweler 12:15; 14:13; 15:21; 27:5; &c. i'w gwlad.
Y ffoedigaeth i'r Aifft.
13Ac wedi iddynt ymado, wele angel yr Arglwydd yn ymddangos i Joseph mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Cyfod, cymmer y mab bychan a'i fam, a ffo i'r Aifft, a bydd yno hyd oni ddywedwyf i ti, canys Herod sydd ar geisio y mab bychan i'w ddyfetha ef. 14Ac efe a gyfododd ac a gymmerodd y mab bychan a'i fam o hyd nos, ac a giliodd i'r Aifft, 15ac a fu yno hyd farwolaeth#2:15 Llyth., ddiwedd. Herod, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd drwy y proffwyd, gan ddywedyd,
“O'r Aifft y gelwais fy mab”.#Hos 11:1
Llofruddio babanod Bethlehem.
16Yna Herod, pan welodd ei dwyllo#2:16 Empaizo: llyth.: chwareu plant; cellwair, gwatwor, siomi, twyllo. gan y Magiaid, a fu ddigllawn iawn, ac a ddanfonodd ac a laddodd#2:16 Aneilen; llyth.: a gymmerodd ymaith. yr holl fechgyn oeddynt yn Bethlehem ac yn ei holl gyffiniau, o ddwyflwydd oed a than hyny, wrth yr amser y dysgasai yn gywir oddiwrth y Magiaid. 17Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd drwy Jeremiah y proffwyd, gan ddywedwyd,
18“Llef a glybuwyd yn Ramah,
Wylofain#2:18 wylofain, א B., Brnd. Galar ac wylofain, &c., C D L. ac ochain mawr,
Rahel yn wylo am ei phlant,
Ac ni fynai ei chysuro, am nad ydynt.”#Jer 31:15
Y Dychweliad i Nazareth.
19Ond wedi marw Herod, wele Angel yr Arglwydd yn ymddangos mewn breuddwyd i Joseph yn yr Aifft, gan ddywedyd, 20Cyfod, a chymmer y mab bychan a'i fam, a dos i dir Israel, canys y mae y rhai a geisient fywyd y mab bychan wedi marw. 21Ac efe a gyfododd ac a gymmerodd y mab bychan a'i fam, ac a ddaeth i dir Israel. 22Ond pan glybu fod Archelaus yn teyrnasu ar Judea yn lle ei dad Herod, efe a ofnodd fyned yno; ac wedi ei gyfarwyddo mewn breuddwyd, 23efe a giliodd i barthau Galilea, ac a ddaeth ac a drigodd mewn dinas a elwir Nazareth, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid drwy y proffwydi,
“Efe a elwir yn Nazaread#2:23 Heb.: Nezer, blaguryn, un gwan, dinod, fel “gwreiddyn o dir sych,” Es 53:2, 3, 4; i gael ei ddiystyru fel y lle y trigai, Ioan 1:46; 7:52. Yn ol ereill, un didoledig a chyssegredig, fel y Nazareaid, Num 6:1–20; Barn 13:5–7.”.#Zech 6:12, 13; Es 11:1
Nu markerat:
Matthew 2: CTE
Märk
Dela
Kopiera
Vill du ha dina höjdpunkter sparade på alla dina enheter? Registrera dig eller logga in
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.