Actau 1
1
Anerchiad, 1–5
1Y Traethawd#1:1 Logos, gair, ymadrodd, traethiad, hanes, llyfr (Xen. Anab 2:1). cyntaf#1:1 neu, blaenorol, sef, Efengyl Luc. a wnaethum, O Theophilus#1:1 Person o safle uchel, (‘O Ardderchocaf’) ond am yr hwn nid oes genym hanes. Ystyr y gair, Hoffwr Duw, neu, Hoff gan Dduw., am bob peth a ddechreuodd#1:1 Ni wnaeth Iesu ond dechreu ei waith ar y ddaear, y mae yr Actau yn rhoddi hanes y parhâd o hono yn ac o'r Nef. yr Iesu eu gwneuthur a'u dysgu#1:1 Gweithredoedd i flaenori lleferydd, ‘Galluog mewn gweithred a gair,’ (Luc 24:19)., 2hyd y dydd y cymerwyd Ef i fyny, wedi iddo roddi gorchymyn#1:2 Llyth: wedi iddo orchymyn [having charged]. trwy yr Yspryd Glân#1:2 Gwnaeth Crist bob peth trwy yr Yspryd; felly hefyd ei ganlynwyr. Dengys yr Actau Weithredoedd yr Ysbryd. i'r Apostolion, y rhai a etholasai Efe#1:2 Yn y llais canolog, Y rhai a ddewisodd Efe allan [o'r byd] iddo ei hun.: 3i'r rhai hefyd y dangosodd#1:3 Llyth: gosod yn ymyl, yna cyflwyno, rhoddi, profi, &c. ei hun yn fyw ar ol ei Ddyoddefaint#1:3 Yn benaf, ei farwolaeth. trwy lawer o arwyddion#1:3 Neu brofion, golyga tekmêrion, brawf trwy arwyddion diymwad. sicr, gan ymddangos#1:3 Awgryma y gair, mewn ffordd oruwch‐naturiol neu wyrthiol, gan ymddangos yn sydyn. iddynt ar hyd#1:3 Llyth: trwy. Ymddangosodd iddynt yn awr ac yn y man am yspaid deugain niwrnod. deugain niwrnod#1:3 Saif Deugain Niwrnod am yspaid o brawf. Gweler hanes y Diluw (Gen 7:4); Moses yn y Mynydd (Ex 24:18); Yr Yspiwyr yn Nghanaan (Num 13:25); Elias yn y Diffaethwch (1 Bren 19:8); Prawf Ninife (Jon 3:4). Ar ol Deugain Niwrnod cyflwynwyd y bachgen Iesu yn y Deml; ar ol prawf o Ddeugain Niwrnod dychwelodd o'r Anialwch; ar ol Deugain Niwrnod esgynodd i Ogoniant. Deugain mlynedd ar ol hyn dinystriwyd Jerusalem., a dywedyd y pethau am Deyrnas Dduw#1:3 Teyrnas Dduw. Dyma y frawddeg a ddefnyddir 33 o weithiau yn Luc, a 15 yn Marc. ‘Teyrnas Nefoedd’ a ddefnyddir gan Matthew., 4a chan ymgynull#1:4 Sunalizö [o sun, ynghyd, a hales, mewn twrf] casglu ynghyd. Eraill, bwyta ynghyd [sun, ynghyd; hals, halen], bwyta halen gyda gyda hwynt, gorchymynodd#1:4 Paraggellô, llyth: anfon trosodd, trosglwyddo; enw milwrol, fel cadben yn rhoddi ei orchymyn yr hwn a drosglwyddid ar hyd y rhengoedd. iddynt nad ymadawent o Jerusalem, eithr disgwyl o honynt am Addewid#1:4 Yr Yspryd Glân, yr hwn a addawyd trwy y Prophwydi, ac yn benaf gan Grist. Golyga Epaggelia, addewid rydd a diamodol, heb geisio am dani. y Tad, yr hon, eb efe, a glywsoch genyf fi: 5canys Ioan yn wir a fedyddiodd â dwfr; ond chwi a fedyddir yn#1:5 Dylid gwahaniaethu rhwng y ddwy ffurf yn y ddwy frawddeg. Dynoda y Cyflwr Rhoddiadol yr elfen a ddefnyddid; dynoda en, yn yr ail, yr Yspryd Glân fel yr elfen fendigedig a'u hamgylchai, ac yn yr hwn yr hollol fedyddid hwy. Dygwydda en dros 3,500 yn y T. N., a gwell ei gyfieithu yn wastad, gydag ychydig eithriadau, yn. yr Yspryd Glân, nid ar ol llawer o'r dyddiau hyn.
Yr Esgyniad — 6–11
6Gan hyny, hwy, wedi dyfod ynghyd, a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, a wyt ti yn yr amser hwn yn adferu#1:6 Adferu yn gyflawn, llawn sefydlu fel peth dyledus yn ol addewid Duw. y Deyrnas i Israel? 7Dywedodd wrthynt, Ni pherthyn i chwi wybod yr amseroedd neu'r prydiau#1:7 ‘Yr amser cyn ei sefydliad, a'r pryd y sefydlir hi.’, y rhai a osododd y Tad o fewn#1:7 Llyth: Yn ei awdurdod, &c. Eraill a ddarllenant, ‘y rhai a ordeiniodd y Tâd trwy ei awdurdod ei hun.’ cylch ei awdurdod ei hun. 8Eithr chwi a dderbyniwch allu#1:8 Neu, ‘a dderbyniwch allu yr Yspryd Glân, pan ddelo,’ &c., pan ddelo yr Yspryd Glân arnoch, a chwi a fyddwch fy#1:8 fy (mou) A B א C D Brnd.; i mi (moí) E. nhystion i yn Jerusalem, ac yn holl Judea a Samaria#1:8 Gorchymynwyd iddynt o'r blaen nad elent i Samaria (Mat 10:5)., ac hyd eithaf y ddaear. 9Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, a hwynt‐hwy yn edrych, efe a gymerwyd#1:9 Marc 16:19 ‘Efe a dderbyniwyd i fyny’ at y Tâd, ‘a gymerwyd i fyny’ gan angelion, a ‘aeth i fyny’ (ad 10; 1 Petr 3:22) yn ngrym bywyd ei Adgyfodiad. Y mae ei Esgyniad yn ‘Fynediad i fyny, (anabasis) yn ogystal a ‘Derbyniad i fyny’ (analêpsis). i fyny, a chwmwl#1:9 Ni ddiflanodd o'u golwg fel o'r blaen, ond yr oedd ei ddynoliaeth yn yr amlwg hyd nes y cuddiodd y cwmwl ef, yr hwn a ddaeth odditanodd (hupelaben). a'i derbyniodd ef allan o'u golwg#1:9 Llyth: oddiwrth eu llygaid.. 10Ac fel yr oeddent yn edrych yn ddyfal#1:10 atenizô, craffu yn ddiysgog, syllu yn fanwl, hir‐dremio. i'r Nef, ac efe yn myned, wele, dau wr#1:10 Dau wr, angelion. Y mae Luc yn hoff o'r gair (Luc 24:4, 23). Y mae yr Adgyfodiad a'r Esgyniad yn cyfartalu y Nefoedd a'r ddaear. Defnyddir yr un enw ar ddynion dirmygedig Galilea ac o angelion glan y Nef. Mwyach yr ydym ‘yn gyd‐stad a'r angelion’ (Luc 20:36). Nid yw Gabriel ond ‘gwr Duw.’ oedd yn sefyll yn eu hymyl mewn gwisgoedd#1:10 Gwisgoedd gwynion א A B C Brnd.: gwisg wen D E. gwynion, 11y rhai hefyd a ddywedasant, Chwi wyr#1:11 Dau wr, angelion. Y mae Luc yn hoff o'r gair (Luc 24:4, 23). Y mae yr Adgyfodiad a'r Esgyniad yn cyfartalu y Nefoedd a'r ddaear. Defnyddir yr un enw ar ddynion dirmygedig Galilea ac o angelion glan y Nef. Mwyach yr ydym ‘yn gyd‐stad a'r angelion’ (Luc 20:36). Nid yw Gabriel ond ‘gwr Duw.’ o Galilea, paham yr ydych yn sefyll yn edrych i'r Nef? Yr Iesu#1:11 Iesu, yr hen enw anwyl, yn dangos mai yr un yw efe yn y Nefoedd ac ar y ddaear. Nid yw y ddynoliaeth wedi ei cholli neu ei llyncu i fyny yn y Duwdod, ond y mae yn aros yn berffaith ac yn gyfan er mewn undeb anwahanadwy a'r natur Ddwyfol. Dywedodd yr angel cyn ei eni, ‘Ti a elwi ei enw ef Iesu’: dywedodd yr angelion wedi iddo esgyn, ‘Yr Iesu hwn.’ hwn, yr hwn a dderbyniwyd i fyny oddiwrthych i'r Nef, a ddaw felly yn y modd#1:11 (1) Yn sydyn, (2) yn ogoneddus, gyda chymylau o angelion, (3) yn ei berson Dwyfol‐ddynol. y gwelsoch ef yn myned i'r Nef.
Y Dychweliad i Jerusalem: llanw y swydd wag, 12–26
12Yna y dychwelasant i Jerusalem o Fynydd a elwir yr Olew‐wydd#1:12 Elaiôn, coedfa olew‐wydd; Lladin, Olivetum., yr hwn sydd yn agos i Jerusalem, taith#1:12 Sef tua thri‐chwarter milltir, sef y pellder rhwng y gwersyll a'r tabernacl yn yr anialwch (Jos 3:4). Dyma yr unig fan yr enwir ‘taith diwrnod Sabbath’ yn y T. N. Y mae yn awgrymiadol. Taith diwrnod Sabbath oedd bywyd iddynt mwyach. Dychwelasant i Jerusalem gyda llawenydd, a thangnefedd gorphwysfa Crist yn eu mynwes. Nid yw goruwch‐ystafell gweddi yn mhell o fynydd Esgyniad. Gwelir yr olaf trwy ffenestr y blaenaf. diwrnod Sabbath. 13A phan ddaethant i mewn, hwy a aethant i fyny i'r Oruwch‐ystafell#1:13 To huperôon (yn Luc yn unig). Yn debygol yr un â'r ystafell lle y sefydlodd ein Harglwydd ei Swper, a lle y cyfarfyddodd y dysgyblion a'r drysau yn gauad (Luc 24:15; Ioan 20:19). Nid rhan o'r Deml., lle yr oeddent yn aros; Petr ac Ioan#1:13 Ioan ac Iago א A B C D Brnd.: Iago ac Ioan E C3 ac Iago ac Andreas, Philip a Thomas, Bartholomeus a Matthew, Iago mab Alpheus, a Simon y Zelotiad, a Judas mab#1:13 Neu, brawd Iago, gwel Iago 1:1 Iago#1:13 Am gyfres yr Apostolion, gwel Cyfrol I. 264. 14Y rhai hyn oll oedd yn dyfal‐barhau#1:14 proskartereô, parhau yn gyndyn, glynu yn ddi‐ildio, dyfal‐barhau (Rhuf 12:12). yn unfryd#1:14 homothumadon (11 o weithiau yn yr Actau a Rhuf 15:6) o homos un, yr un’ a thumos, meddwl, teimlad, bryd. mewn#1:14 mewn gweddi א A B C D E Brnd.: mewn gweddi a deisyfiad C3 gweddi, gyda rhai gwragedd#1:14 Megys Mair Magdalen, Joanna, Susanna, Salome, &c., a Mair#1:14 Dyma'r llen yn disgyn ar hanes Mair, ac y mae yn ei gadael ar ei gliniau, yn mhlith y dysgyblion yn ei lle priodol a phrydferth. Y mae Rhufain wedi gwneyd duwies anghenfilaidd o'r hon a adwaenir yn y T. N. fel dynes dda, syml, a gostyngedig., mam yr Iesu, a chyda'i frodyr ef#1:14 Y rhai yn awr a gredant yn ‘eu brawd henaf.’ Tebygol mai meibion Mair oeddynt..
15Ac yn y dyddiau hyny Petr a gyfododd i fyny yn nghanol y brodyr#1:15 Nid oes yma ronyn o oruchafiaeth, ‘brodyr’ oeddynt, a Phetr ‘yn eu canol.’#1:15 brodyr א A B C Brnd.; dysgyblion D E. [Y mae y dysgyblion yn awr yn ymgolli yn y ‘brodyr.’ Y mae yr Eglwys yn dyfod i'r amlwg]., ac a ddywedodd, (ac yr oedd lliaws o bersonau#1:15 llyth; enwau, yn gyfystyr a phersonau (Dad 3:4; 11:13), gan gynwys gwragedd. Nid oedd gair Groeg cyfaddas am wyr a gwragedd. Efallai hefyd fod cyfres o enwau wedi ei pharotoi. yn yr un lle#1:15 llyth: ar yr un (lle a phryd)., ynghylch cant ac ugain), 16O Frodyr#1:16 llyth: Gwyr Frodyr, gan gyfleu parch a difrifoldeb., yr oedd yn rhaid cyflawni yr ysgrythyr a#1:16 hon D E; gad. א A B C Brnd. rag-ddywedodd yr Yspryd Glân trwy enau Dafydd am Judas, yr hwn a aeth yn arweinydd i'r rhai a ddaliasant yr Iesu. 17Canys cyfrifwyd ef yn ein plith#1:17 Yn ein plith [en] א A B C D E Brnd.; gyd a [sun] St. ni, a derbyniodd#1:17 llyth: a derbyniodd trwy goel‐bren, &c. Y mae cyfeiriad at Salm 41:9, neu Salm 109:2–5 ei ran#1:17 kleron (1) coel‐bren; (2) yr hyn a feddienir trwy goel‐bren; (3) rhan, cyfran. Daw clerig, clerigwr, o'r gair. o'r weinidogaeth hon. 18(Hwn yn wir ddaeth i feddiant#1:18 Trwy daflu yr arian i'r Cysegr neu i'r Drysorfa, galluogwyd yr offeiriaid i brynu y maes ar ol marwolaeth Judas. o faes trwy#1:18 llyth: allan o, cynyrch. wobr ei anwiredd#1:18 Neu anghyfiawnder.; ac wedi syrthio yn wysg ei ben#1:18 llyth: wedi myned (neu syrthio) ar ei wyneb, a'i wyneb yn isaf, syrthio yn bendramwnwgl o uchder i ddyfnder. Ymgrogodd Judas uwchben dibyn dros yr hwn wedi ymgrogi y syrthiodd., a ymholltodd#1:18 laskô, hollti, torri gyda swn, ymgracio. yn ei ganol, a'i holl ymysgaroedd ef a dywalltwyd allan. 19Ac aeth hyn yn hyspys i bawb oedd yn preswylio yn Jerusalem; yn gymaint ag y gelwid y maes hwnw yn eu hiaith#1:19 iaith א B D; WH. Diw.; iaith briodol A C E Ti. [Tr.] [Al]. eu hunain, Acheldamach#1:19 Yn yr Aramaeg, iaith Palestina ar y pryd. (1) Prynwyd ef a gwerth gwaed gwirion, (2) taenellwyd ef a gwaed yr euog. Yr oedd yn agos i Fynydd Seion, i'r deheu, yn ymyl Dyffryn Hinnom. Ei hen enw oedd Maes y Crochenydd (Mat.)#1:19 Acheldamach A א B; Akeldama C., hyny yw, Maes y Gwaed.) 20Canys y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y Salmau,
Aed ei drigfan#1:20 epaulis, pabell, lle i dreulio'r nos, trigfan am dro, caban bugail. yn anghyfanedd,
Ac na fydded a breswylio ynddi#1:20 [dim nodyn.];#Salm 69:25
Ac hefyd,
Cymered arall#1:20 heteros, un gwahanol. ei oruchwyliaeth#1:20 episkopê. Defnyddir y gair am Dduw yn gwylio dynion ac yn ymweled a hwy i'w cospi neu eu gwobrwyo; ymweliad; mewn perthynas i ddyn, arolygiaeth, goruchwyliaeth, galwedigaeth, swydd arolygydd, esgobaeth (yn yr ystyr wreiddiol o arolygiaeth, ac nid yn yr ystyr cyfyngedig diweddarach). Judas oedd yr unig un o'r Apostolion a gafodd olynydd.#Salm 109:8
21O'r gwyr gan hyny a fu yn cydymdaith â ni drwy yr holl amser yr aeth yr Arglwydd Iesu i mewn ac allan o'n blaen#1:21 Llyth: trosom, fel ein Pen a'n Harweinydd., 22gan ddechreu o Fedydd Ioan hyd y dydd y derbyniwyd ef i fyny oddiwrthym — y mae yn rhaid i un o'r rhai hyn i fod gyda ni yn dyst o'i Adgyfodiad#1:22 Ffaith sylfaenol Cristionogaeth.. 23A hwy a osodasant ddau ger bron, Joseph yr hwn a elwid Barsabbas#1:23 Barsabbas, Mab Sabbas, fel Bar‐Jona, Bar‐Iesu. Ni wyddis dim am y ddau.#1:23 Barsabbas A א B E Brnd.: Barsabas C., yr hwn a gyfenwid Justus, a Matthias#1:23 Matthias, ffurf fèr am Mattathias.. 24A chan weddïo hwy a ddywedasant, Tydi, Arglwydd, adnabyddwr#1:24 Kardiognôsta [Yma yn unig yn y T. N.] ‘O galon — adnebydd!’ calonau pawb, dangos o'r ddau hyn yr hwn a ddewisaist 25i gymeryd y lle#1:25 lle A B C D Brnd.; rhan (klêron) א yn y weinidogaeth a'r Apostolaeth hon#1:25 Llyth: i gymeryd lle y weinidogaeth a'r Apostolaeth hon. Dengys y blaenaf ddyledswyddau y swydd ar olaf ei anrhydeddusrwydd., o'r hon y syrthiodd Judas ymaith i fyned i'w le ei hun#1:25 Nid yr ystyr yw (1) fel yr elo yr Apostol newydd i le Judas, nac (2) fod Judas wedi syrthio o'i le fel Apostol, ac wedi troi yn fradychwr, ond (3) fod Judas wedi myned i'w le ei hun, yn mhlith y meirw dan wg Duw.. 26A hwy a fwriasant goelbrenau drostynt, a syrthiodd y coelbren ar Matthias, ac efe a gyfrifwyd#1:26 A bleidleisiwyd i fewn gyda, &c. gyda'r un Apostol ar ddeg.
Trenutno izabrano:
Actau 1: CTE
Istaknuto
Podeli
Kopiraj

Želiš li da tvoje istaknuto bude sačuvano na svim tvojim uređajima? Kreiraj nalog ili se prijavi
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.