Matthew Lefi 24:3-6
Matthew Lefi 24:3-6 CJW
Fel yr oedd efe yn eistedd àr Fynydd yr Oleẅwydd, ei ddysgyblion á’i cyfarchasant ef o’r neilldu, gàn ddywedyd, Dywed i ni pa bryd y dygwydd hyn; a pha beth fydd arwydd dy ddyfodiad, a dybeniad y cyflwr hwn? Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, Gochelwch rhag i neb eich hudo chwi; canys llawer á gymerant arnynt fy nodwedd i, gàn ddywedyd, Myfi yw y Messia, ac á hudant lawer. Na, chwi, á gewch glywed am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd; ond gwelwch na chyffröer chwi: oblegid rhaid i’r pethau hyn oll ddygwydd; ond nid yw y diwedd eto.