Matthew Lefi 24:37-41

Matthew Lefi 24:37-41 CJW

A’r hyn á fu yn amser Nöa, á fydd hefyd yn nyfodiad Mab y Dyn. Canys fel yn y dyddiau o flaen y dylif, ïe hyd y dydd yr aeth Nöa i fewn i’r arch, yr oeddynt yn bwyta, ac yn yfed, ac yn priodi, a nid oeddynt yn drygdybio dim, nes y daeth y dylif a’u hysgubo hwynt oll ymaith: felly y bydd yn nyfodiad Mab y Dyn. Dau fyddant yn y maes; un á gymerir, a’r llall á adewir. Dwy fyddant yn malu mewn melin; un á gymerir, a’r llall á adewir.