Matthew Lefi 24:7-14
Matthew Lefi 24:7-14 CJW
Canys cenedl á gyfyd yn erbyn cenedl; a theyrnas yn erbyn teyrnas; a bydd newynau a heintiau, a daiargrynfëydd mewn amrai fànau. Eto nid yw y pethau hyn ond dechreuad gofidiau. Canys hwy á’ch traddodant i arteithiau, ac i angeu, a chwi á gasêir gàn bob cenedl o’m hachos i. Yna y meglir llawer, ac y bradychant eu gilydd, ac y casâant eu gilydd. A geubroffwydi lawer á gyfodant, ac á hudant lawer. Ac erwydd yr amlâa drygioni, cariad y rhan fwyaf á oera. Ond y neb á barâo hyd y diwedd, a fydd cadwedig. A’r efengyl hon am y Teyrnasiad á gyhoeddir drwy yr holl fyd, èr hysbysrwydd i bob cenedl. Ac yna y daw y diwedd.