Matthew Lefi 12
12
1-8Y pryd hwnw, fel yr oedd Iesu, àr y Seibiaeth, yn myned drwy yr ŷd, ei ddysgyblion, ag arnynt eisieu bwyd, á ddechreuasant dỳnu y twyseni ŷd, a’u bwyta hwynt. Y Phariseaid, wedi canfod hyn, á ddywedasant wrtho, Wele! y mae dy ddysgyblion yn gwneuthur yr hyn nid yw gyfreithlawn ei wneuthur àr y Seibiaeth. Yntau á atebodd, Oni ddarllenasoch pa beth á wnaeth Dafydd, a’i weinyddion, pan oedd chwant bwyd arnynt; pa fodd yr aeth efe i fewn i babell Duw, ac y bwytäodd dorthau y cynnrychioldeb, y rhai nid oedd gyfreithlawn iddo ef na’i weinyddion eu bwyta, ond i’r offeiriaid yn unig? Neu oni ddysgasoch o’r gyfraith, bod yr offeiriaid yn y deml yn halogi y gorphwysdra iddei gadw àr Seibiaethau, a’u bod yn ddigerydd? Ond yr wyf fi yn dywedyd wrthych, bod yma rywbeth mwy na’r deml. Ond pe gwybuasech beth y mae hyn yn ei feddwl, “Trugaredd á ewyllysiwyf a nid aberth,” ni buasech yn collfarnu y rhai dieuog: canys meistr y Seibiaeth yw Mab y Dyn.
9-14Gwedi gadael y lle hwnw, efe á aeth iddeu cynnullfa hwynt, ac á ganfu yno ddyn â’i law gwedi gwywo. Hwy á ofynasant i Iesu, gyda bwriad iddei gyhuddo ef, Ai cyfreithlawn iachâu àr y Seibiaeth? Yntau á atebodd, Pa ddyn yn eich plith chwi, â chanddo un ddafad, os syrth hi i bydew àr y Seibiaeth, nid ymafla ynddi, a’i chodi hi allan? Ac onid yw dyn yn rhagori llawer àr ddafad? Cyfreithlawn, gàn hyny, yw gwneuthur da ár y Seibiaeth. Yna y dywedodd efe wrth y dyn, Estyn dy law. A fel yr oedd efe yn ei hestyn, hi á ddaeth yn iach fel y llall. Ond y Phariseaid á aethant allan, ac á gydymgynghorasant yn erbyn Iesu, iddei ddyfetha ef.
15-21Iesu gàn wybod hyn, á ymadawodd; a chàn gael ei ddylyn gàn dyrfa fawr, efe á iachâodd eu holl gleifion hwynt, gàn erchi iddynt beidio ei wneuthur ef yn adnabyddus. Fel hyn y gwireddwyd gair Isaia y proffwyd, “Wele fy ngwas, yr hwn á ddewisais, fy anwylyd, yn yr hwn yr ymhyfryda fy enaid; paraf i’m Hysbryd orphwys arno, ac efe á rydd gyfreithiau i’r cenedloedd; nid ymrysona, a ni waedda, a ni phâr glywed ei lef yn yr hëolydd. Corsen ysig ni thỳr, a chanwyll yn gwanlosgi ni ddiffydd, hyd oni wnelo ei gyfreithiau yn fuddygol. Cenedloedd hefyd á ymddiriedant yn ei enw.”
22-30Yna y dygwyd ato un cythreulig, mud, a dall, ac efe á’i hiachâodd ef, fel y siaredodd ac y gwelodd efe. A’r holl bobl á ddywedasant, gyda syndod, Ai hwn yw Mab Dafydd? Ond y Phariseaid, wedi eu clywed hwynt, á ddywedasant, Nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid ond yn unig drwy Beelzebwb, tywysog y cythreuliaid. Ond Iesu, yn gwybod eu meddyliau, á ddywedodd wrthynt, Drwy annghydfodau cartrefol gall unrhyw deyrnas gael ei hannghyfanneddu; a ni all yr un ddinas neu deulu, lle y byddo y fath annghydfodau, sefyll. Ac os Satan á fwrw allan Satan, ei deyrnas á rwygir drwy annghydfodau cartrefol; pa fodd ynte y dichon iddi sefyll? Hefyd os ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid drwy Beelzebwb, drwy bwy y mae eich meibion chwi yn eu bwrw hwynt allan? Am hyny, hwy á gant fod yn farnwyr arnoch chwi. Ond os wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid drwy Ysbryd Duw, yna y mae Teyrnasiad Duw gwedi eich goddiweddyd chwi. Canys pa fodd y gall un fyned i fewn i dŷ y cadarn ac ysbeilio ei nwyddau ef, oddeithr iddo yn gyntaf orthrechu y cadarn? Yna, yn wir, efe á all ysbeilio ei dŷ ef. Y neb nid yw gyda mi yn fy erbyn y mae; a’r neb nid yw yn casglu gyda mi, sydd yn gwasgaru.
31-37Am hyny, yr wyf yn dywedyd i chwi, èr bod pob pechod arall a chabledd mewn dynion yn faddeuadwy, eu cabledd yn erbyn yr Ysbryd Glan sydd anfaddeuadwy: canys pwybynag á ogano Fab y Dyn, á all gael maddeuant; ond pwybynag á ddywedo yn erbyn yr Ysbryd Glan, ni faddeuir iddo byth, nac yn y cyflwr presennol, nac yn y dyfodol. Naill ai galẅwch y pren yn dda, a’i ffrwyth yn dda, ai galẅwch y pren yn ddrwg, a’i ffrwyth yn ddrwg: canys yr ydym yn adnabod y pren wrth y ffrwyth. Essill gwiberod! pa fodd y gallwch chwi, a chwi yn ddrwg, lefaru pethau da, gàn mai o gyflawnder y galon y llefara y genau? Y dyn da, o’i drysor da, á ddwg allan bethau da; y dyn drwg, o’i drysor drwg, á ddwg allan bethau drwg. Bydded sicr i chwi, pa fodd bynag, mai am bob gair niweidiol à ddywedo dynion, y rhoddant gyfrif yn nydd y farn. Canys wrth dy eiriau yth ryddêir, ac wrth dy eiriau yth gollfarnir.
38-42Yna rhai o’r Ysgrifenyddion a’r Phariseaid á gyfryngasant, gàn ddywedyd, Rabbi, ni á chwennychem weled arwydd genyt. Yntau gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, Cenedlaeth ddrwg à godinebus sydd yn ceisio arwydd; ond ni roddir arwydd iddi, ond arwydd y Proffwyd Iona. Canys fel y bu Iona dridiau a theirnos yn nghylla y pysgodyn mawr, felly y bydd Mab y Dyn dridiau a theirnos yn mynwes y ddaiar. Y Ninifëaid á safant i fyny yn y farn yn erbyn y genedlaeth hon, ac á berant iddi gael ei chollfarnu, am iddynt ddiwygio pan rybyddiwyd hwynt gán Iona; ac wele yma rywbeth mwy na Iona. Brenines y Dëau á gyfyd yn y farn yn erbyn y genedlaeth hon, ac á bera iddi gael ei chollfarnu; o herwydd hi á ddaeth o eithafon y ddaiar i wrandaw doethebion Solomon; ac wele yma rywbeth mwy na Solomon.
43-45Ysbryd aflan, pan êl allan o ddyn, á grwydra àr hyd diffeithfëydd crasboeth i chwilio am orphwysfa. A phan nad yw yn cael un, efe á ddywed, Mi á ddychwelaf i’m tŷ o’r lle y daethym; a gwedi iddo ddyfod, y mae yn ei gael yn wag, wedi ei ysgubo, a’i drwsio. Yna efe á â, ac á ddwg gydag ef saith ysbryd arall gwaeth nag ef ei hun; a gwedi myned i fewn, hwy á gyfanneddant yno; a bydd cyflwr diweddaf y dyn hwnw yn waeth na’r cyntaf: felly y bydd gyda’r genedlaeth ddrwg hon.
46-50Tra yr oedd efe yn ymadroddi wrth y bobl, ei fam ef a’i frodyr oeddynt allan yn dymuno cael ymddyddan ag ef. A dywedodd un wrtho, Y mae dy fam a dy frodyr allan, yn dymuno cael ymddyddan â thi. Yntau, gàn ateb, á ddywedodd wrth yr hwn à fynegasai iddo, Pwy yw fy mam? a phwy ynt fy mrodyr? Yna, gàn estyn ei law tuagat ei ddysgyblion, efe à ddywedodd, Wele fy mam a fy mrodyr. Canys pwybynag á wna ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd, efe yw fy mrawd, a’m chwaer, a’m mam.
Currently Selected:
Matthew Lefi 12: CJW
Označeno
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.