Logotip YouVersion
Search Icon

Matthew Lefi 12:31-37

Matthew Lefi 12:31-37 CJW

Am hyny, yr wyf yn dywedyd i chwi, èr bod pob pechod arall a chabledd mewn dynion yn faddeuadwy, eu cabledd yn erbyn yr Ysbryd Glan sydd anfaddeuadwy: canys pwybynag á ogano Fab y Dyn, á all gael maddeuant; ond pwybynag á ddywedo yn erbyn yr Ysbryd Glan, ni faddeuir iddo byth, nac yn y cyflwr presennol, nac yn y dyfodol. Naill ai galẅwch y pren yn dda, a’i ffrwyth yn dda, ai galẅwch y pren yn ddrwg, a’i ffrwyth yn ddrwg: canys yr ydym yn adnabod y pren wrth y ffrwyth. Essill gwiberod! pa fodd y gallwch chwi, a chwi yn ddrwg, lefaru pethau da, gàn mai o gyflawnder y galon y llefara y genau? Y dyn da, o’i drysor da, á ddwg allan bethau da; y dyn drwg, o’i drysor drwg, á ddwg allan bethau drwg. Bydded sicr i chwi, pa fodd bynag, mai am bob gair niweidiol à ddywedo dynion, y rhoddant gyfrif yn nydd y farn. Canys wrth dy eiriau yth ryddêir, ac wrth dy eiriau yth gollfarnir.