Logotip YouVersion
Search Icon

Lyfr y Psalmau Rhagymadrodd.

Rhagymadrodd.
Y brif ystyriaeth a’m hannogodd i’r gorchwyl o gyfieithu a chyfansoddi ’r Psallwyr o’r newydd ar fesur cerdd, ydoedd y diffyg amrywiaeth mesurau sydd ynghyfansoddiad rhagorol yr Arch-dïacon Prys: teimlid fod y diffyg hwn yn rhwystr mawr i ganiadaeth Psalmau mewn cynnulleidfaoedd; a diben yr ail gyfansoddiad hwn ydyw dwyn Psalmau Dafydd i arferiad mwy cyffredinol ynghymmanfaoedd mynydd Sïon. Amcanwyd y gwaith, nid i gael ei arferyd yn lle ’r hen gyfieithiad, ond yn hytrach i fod yn gydymaith iddo.
Ymgedwais mor ofalus ag y gallwn at ystyr lythyrennol yr iaith wreiddiol; ac ni chynnygiais wneuthur dim o’r hyn a elwir ysprydoli neu efangyleiddio Psalmau Peraidd Ganiadydd Israel; oblegid y maent yn ddigon ysprydol, efangylaidd, a Christionogol fel y maent. Pe buaswn, trwy gyfansoddiad esponiadol, yn ceisio eu dwyn yn nes at iaith y Testament Newydd, yr oeddwn yn ofni y buaswn yn cyfyngu yn ormodol ehangder eu hystyr hwy. A chan na roddwyd i ni lyfr o Psalmau yn y Testament Newydd, iawn yw barnu ddarfod bwriadu Psalmau Dafydd i gael eu harferyd yn gystal yn yr Eglwys Gristionogol ag yn yr Eglwys Iuddewig.
Dosperthais y Psalmau hwyaf yn amryw rannau, er mwyn hwylysdod i’r cantorion: a phan fyddo ansawdd y testun neu’r matter yn newid yn yr un Psalm, gwnaed yn achlysurol gyfnewidiad yn y mesur hefyd. Gofalwyd na ddefnyddid ond y mesurau hynny yn unig ag sy’n fwyaf syml a chyffredin.
Parodd Esgobion Cymru i’r cyfieithiad hwn gael ei chwilio a’i brofi gan wŷr dysgedig, cymmwys i’r gorchwyl, yn eu gwahanol Esgobaethau; ac ar hynny hwy a ddatganasant eu caniattâd ar iddo gael ei arferyd yn y cyfryw gynnulleidfaoedd ag a ddewisent ei ddefnyddio.
Ac yn awr nid oes gennyf ond cyflwyno’r gwaith i genedl y Cymry, yr hyn yr wyf yn ei wneuthur gyd â gostyngeiddrwydd a gwylder; gan weddïo ar iddo fod, dan fendith y nef, yn adeiladaeth i’w ffydd, ac yn gymmorth i’w defosiwn.
Amlwch, Mai 1, 1850.

Označeno

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in