Iesu yn parâu i ymadroddi wrthynt mewn damegion, á ddywedodd, Y mae Gweinyddiaeth y Nefoedd yn debyg i ymddygiad brenin, yr hwn, wedi gwneuthur priodaswledd iddei fab, á ddanfonodd ei weision i alw y rhai à wahoddasid; ond ni fỳnent hwy ddyfod. Yna efe á ddanfonodd weision ereill, gàn ddywedyd, Dywedwch wrth y rhai à wahoddwyd, Mi á barotöais fy ngwledd; fy ychain a’m pasgedigion á laddwyd, a phob peth sy barod; deuwch i’r briodas. Ond hwy á droisant ymaith yn ddiystyrllyd, un iddei dyddyn, arall at ei fasgnach. A’r rhelyw á ddaliasant ei weision ef, á’u hanmharchasant, ac á’u lladdasant. Pan glybu y brenin hyn, wedi llidio, efe á ddanfonodd ei filwyr, á ddinystriodd y lleiddiaid hyny, ac á losgodd eu dinas hwynt. Yna efe á ddywedodd wrth ei weision, Y mae y west yn barod, ond y rhai à wahoddasid nid oeddynt deilwng; ewch, gàn hyny, i’r prif‐ffyrdd, a chynnifer ag á gaffoch, gwahoddwch i’r briodas. Yn ganlynol hwy á aethant i’r prif‐ffyrdd, ac á gynnullasant gynnifer ag á gawsant, da a drwg, fel y llanwyd y neuadd â gwesteion. Pan ddaeth y brenin i fewn i weled y gwesteion, efe á ganfu yno ddyn heb wisg priodas am dano, ac á ddywedodd wrtho, Gyfaill, pa fodd y daethost ti yma heb wisg priodas? Ac yntau á aeth yn fud. Yna y dywedodd y brenin wrth y gweinyddion, Rhwymwch ef draed a dwylaw, a theflwch ef i dywyllwch, lle y bydd wylofain a rhincian dannedd; canys llawer sy gwedi eu galw, ond ychydig wedi eu dewis.