Matthew Lefi 22:15-22
Matthew Lefi 22:15-22 CJW
Yna y Phariseaid á giliasant, a gwedi ymgynghori pa fodd y dalient ef yn ei eiriau, á ddanfonasant ato rai o’u dysgyblion, a rhai Herodiaid, y rhai, gwedi eu hyfforddi ganddynt, á ddywedasant, Rabbi, nyni á wyddom dy fod yn gywir, ac yn dysgu ffordd Duw yn ffyddlawn, ac anmhleidiol, oblegid nid wyt yn derbyn wynebau dynion. Dywed i ni, gàn hyny, dy farn, Ai cyfreithlawn rhoddi teyrnged i Gaisar, ai nid yw? Iesu, yn canfod eu dichell, á ddywedodd, Ragrithwyr, paham y mỳnech fy rhwydo i? Dangoswch i mi arian y deyrnged. A hwy á estynasant iddo geiniog. Yntau á ofynodd iddynt, Delw ac argraff pwy yw hwn? Hwy á atebasant, eiddo Caisar. Yntau á atebodd, Rhoddwch, gán hyny, i Gaisar yr hyn sydd eiddo Caisar, ac i Dduw yr hyn sydd eiddo Duw. A thàn ryfeddu wrth ei atebiad, hwy á’i gadawsant ef, ac á aethant ymaith.