Logo YouVersion
Ikona Hľadať

Galarnad Ieremia 2

2
PENNOD II.
1Podd y gwnaeth Iehofa yn ei ddigofaint
Gymylu ar ferch Sïon!
Taflodd o’r nefoedd i’r ddaear
Brydferthwch Israel;
Ac ni chofiodd leithig ei draed
Yn nydd ei ddigofaint.
2Diddymodd Iehofa, heb arbed,#2:2 “Diddymodd,” ystyr gyntaf y gair yw “llyncodd,” ond arferir ef i ddynodi hollol ddiddymiad, gan fod yr hyn a lyncir yn myned yn hollol o’r golwg.
Holl anneddau Iacob;
Difrododd yn ei ddigllonedd
Gaerau merch Iowda;
Tarawodd hwynt i’r ddaear,
Dymchwelodd y deyrnas a’i thywysogion.
3Torodd, yn mhoethder digofaint,
Holl gryfder Israel;#2:3 Yn llythyrenol, “holl gorn Israel,” ond yr hyn a arwydda corn yw nerth, cryfder, neu ogoniant. “Corn iachawdwriaeth” a ddynoda iachawdwriaeth nerthol, neu ogoneddus.
Trodd yn ol ei ddeheulaw
Oddiger wyneb y gelyn;
A llosgodd yn Iacob megys tân,
Y fflam a ddifäodd o amgylch.
4Annelodd ei fwa fel gelyn,
Safodd â’i ddeheulaw fel gorthrymydd;#2:4 Neu, “Safodd i fyny ei ddeheulaw fel eiddo gorthrymydd;” ymddangosai ei ddeheulaw megys deheulaw gorthrymydd. Deheulaw Duw a fu yn amddiffyniad i Israel (Ps. 74:11). Tynodd hi yn ol o fod rhyngddynt hwy a’u gelynion (adn. 3); ac estynai hi allan fel gorthrymydd iddynt.
A lladdodd bob dim hyfryd i’r llygad
Yn mhabell merch Sïon;
Tywalltodd fel tân ei ddigllonedd.
5Bu Iehofa megys gelyn,
Diddymodd Israel;
Diddymodd ei holl balasau,
Dinystrodd ei gaerau;
A lliosogodd yn merch Iowda
Gwynfan a galar:
6Ië, bwriodd i lawr ei argae fel argae gardd,#2:6 “Argae” oedd y mur a amgylchai gynteddau y deml. Taflasai hon i lawr fel pe na buasai o ddim mwy gwerth nag argae neu glawdd gardd.
Dinystriodd ei gynnullfan;#2:6 Sef cynteddau y deml, lle yr ymgynnullai y bobl i aberthu ac i addoli.
Anghofiodd Iehofa yn Sïon
Yr uchel-wyl a’r Sabboth;
A dirmygodd, yn angherdd ei ddigofaint,
Y brenin a’r offeiriad.
7Taflodd Iehofa ymaith ei allor,
Gwrthododd ei sancteiddfan;
Rhoddodd yn llaw y gelyn
Fur ei phalasau;
Bloedd a roddasant yn nhŷ Iehofa,#2:7 Hyn a wnaethai y Caldeaid wedi iddynt gael y fuddugoliaeth.
Megys ar ddydd yr uchel-wyl.
8Bwriadodd Iehofa ddinystrio
Mur merch Sïon;
Estynodd linyn,#2:8 Llinyn dystryw ydoedd er nodi yr hyn oedd i gael ei ddifrodi. Gwel Is. 34:11.
Ni throdd ei law rhag diddymu;
Ac anghyfanneddwyd yr amgaer a’r mur,
Ynghyd yr adfeiliasant.#2:8 Y gair am “anghyfanneddwyd,” pan ei cymhwysir at ddynion, a gyfieithir “galaru,” ac “adfeiliasant” a arwydda “bod yn llesg.” Ond eu hystyr, pan eu cymhwysir at bethau difywyd, yw bod yn anghyfannedd, ac yn adfeiliedig.
9Soddodd i’r ddaear ei phyrth,
Dyfethodd a drylliodd ei barau;
Ei brenin a’i thywysogion,
Ymysg y cenedloedd y maent;
Nid oes gyfraith;#2:9 Dinystrid y llechau yr argraffid hi arnynt pan y llosgwyd y deml; ac nid oedd neb y pryd hyn yn ei dysgu. ïe, ei prophwydi,
Ni chant weledigaeth oddiwrth Iehofa.
10Eistedd ar y ddaear, yn ddystaw y mae
Henuriaid merch Sïon;
Codasant lwch ar eu penau,
Gwregysasant sachlen;
Gostyngodd i’r ddaear eu penau,
Wyryfon Ierusalem.
11Treuliodd gan ddagrau fy llygaid,#2:11 Dywed yma, nid fel y teimlai y pryd hwn, ond fel y teimlasai pan oedd Ierusalem tan warchae.
Cynhyrfodd fy ymysgaroedd;
Tywalltwyd ar y ddaear fy afu,
O herwydd dryllio merch fy mhobl,
Pan lewygodd plant a’r rhai yn sugno,
Yn heolydd y ddinas.
12Wrth eu mamau y dywedent,
“Ple mae ŷd a gwin?”
Pan lewygent fel un archolledig,
Yn heolydd y ddinas;#2:12 Y “plant” a lewygent, a’r rhai “yn sugno”, a drengont yn mynwes eu mamau. Enwa hwynt ill deuoedd yn yr adnod flaenorol.
Pan dywalltent eu henaid
Yn mynwes eu mamau.
13Beth a dystiaf i ti, beth a gystadlaf â thi,
O ferch Ierusalem?
Beth a debygaf i ti, fel y’th ddyddanwyf,
O forwyn, merch Sïon?
Canys mawr fel y môr dy ddrylliad,
Pwy a rydd feddyginiaeth i ti?
14Dy brophwydi, gwelsant erddot
Wagedd a ffolineb;#2:14 Pan gymhwysir y gair at fwyd, “diflas” yw ei ystyr, ond pan at athrawiaeth, dynoda yr hyn sydd annoeth, disynwyr. Gwelsai y gau brophwydi bethau gwag, ofer, diles, ac hefyd bethau ffol, anaddas, direswm.
Ac ni ddynoethasant dy anwiredd
Er troi ymaith dy gaethiwed;
A gwelsant erddot
Feichiau gwagedd a lledrithion.#2:14 Gelwid prophwydoliaethau yn “feichiau,” a hyn a feddylir yma. Prophwydent bethau gwag, neu gelwyddog, fel y dynoda y gair weithiau; a gwelent “ledrithion,” neu hudolion, pethau ffugiol, disylwedd. Yn ol y cyfieithiad Syriaeg, yr iawn air yw un a arwydda wynt. Pethau anwadal a disylwedd fel gwynt a welent, yr hyn a ffugient er twyllo’r bobl.
15Curasant o’th herwydd ddwylaw
Holl dramwywyr y ffordd;
Chwibanasant ac ysgydwasant eu pen,
O herwydd merch Ierusalem, —
“Ai hon y ddinas a alwent yn gwbledd harddwch,#2:15 Neu, “yn gyfander harddwch,” neu, “yn gyflawnder harddwch,” Nid “gorfoledd” oedd i’r holl ddaear, ond i’r holl wlad, sef holl wlad Canaan.
Yn orfoledd i’r holl wlad!”
16Lledodd arnat eu genau,
Dy holl elynion;
Chwibanasant ac esgyrnygasant ddannedd,
Dywedasant, “Diddymasom hi;
Diau, hwn y dydd a ddysgwyliasom,
Cawsom, gwelsom ef.”
17Gwnaeth Iehofa yr hyn a benderfynodd,
Llwyr gyflawnodd ei air,
Yr hwn a orchymynodd er y dyddiau gynt;
Difrododd ac nid arbedodd;
A pharodd i’r gelyn lawenychu o’th herwydd,
Dyrchafodd gorn dy orthrymwyr.#2:17 Gwel adn. 3.
18Gwaeddodd eu calon ar Iehofa,
“O fur merch Sion!”#2:18 Hyn a waeddent yn eu cyni a’u tristwch. Yna canlyn yr hyn a gynghorasai y prophwyd i ferch Sïon wneuthur.
Dwg i lawr fel afon
Ddagrau ddydd a nos;
Na rydd orphwysfa i ti dy hun,
Na pheidied dylif dy lygad.#2:18 Yn llythyrenol, “merch dy lygad:” nid canwyll y llygad a feddylir, ond yr hyn a ddeuai o’r llygad, sof y dylif o ddagrau.
19Cyfod, bloeddia ar hyd y nos;
Ar ddechreu y gwyliadwriaethau,
Tywallt fel dwfr dy galon ger bron Iehofa;
Dyrcha ato dy ddwylaw
Am einioes dy blant, a lewygant
Gan newyn ar ben pob heol.
20Gwel, Iehofa, ac ystyria,
I bwy y gwnaethost fel hyn;
A ddylasai eu gwragedd fwyta eu ffrwyth,#2:20 Gelwir plant yn ffrwyth eu rhïeni.
Plant eu meithriniad!#2:20 Yr un gair a gyfieithir “meithrinais” yn yr adnod ddiweddaf. Mae “eu” o flaen ffrwyth yn cyfeirio at y tadau, gan ei fod yn y rhyw wrywaidd, megys “eu culni” yn adnod 18.
A ddylasid lladd yn sancteiddfan Iehofa
Yr offeiriad a’r prophwyd!#2:20 Iaith isel achwyniad yw hon, am beth a ymddangosai yn dra thruenus ac anghymhwys.
21Gorweddodd ar lawr yr heolydd
Yr ieuanc a’r hen;
Fy morwynion a’m meibion,
Syrthiasant trwy’r cleddyf;
Lleddaist, yn nydd dy ddigofaint,
Lleddaist hwynt, ac nid arbedaist.
22Gelwaist, fel ar ddydd yr uchel-wyl,
Fy nychryniadau o’m hamgylch;#2:22 Arferir “dychryniadau” yn lle dychrynwyr: gwahoddasai Duw i’r deml ddychrynwyr, fel yr arferid galw addolwyr iddi ar ddyddiau arbenig.
Ac nid oedd, yn nydd digofaint Iehofa,
Un diangol neu yn weddill:
Y rhai a feithrinais ac a fegais,
Fy ngelyn, dyfethodd hwynt.

Aktuálne označené:

Galarnad Ieremia 2: CJO

Zvýraznenie

Zdieľať

Kopírovať

None

Chceš mať svoje zvýraznenia uložené vo všetkých zariadeniach? Zaregistruj sa alebo sa prihlás