Hosea 12
12
1Y mae Effraim yn ymborthi ar wynt,
Ac yn ymlid dwyreinwynt ar hyd y dydd;
Amlhâ gelwydd a difrod,
Gwnant gyfamod hefyd ag Asyria,
A dygir olew i’r Aifft.
2Ac y mae ymrafael rhwng Iafe a Iwda,
A gofwya Iacob yn ol ei ffyrdd,
Tâl iddo yn ol ei weithredoedd.
3Yn y groth disodlodd ei frawd,
Ac yn ei gryfder ymdrechodd â Duw,
4Do, ymdrechodd ag angel a gorfu,
Wylodd a cheisiodd ei ffafr,
Cafodd ef ym Methel,
Ac yno llefarodd wrthym.
5A Iafe yw Duw’r lluoedd,
Iafe ydyw ei goffadwriaeth.
6Tro dithau drwy dy Dduw,
Cadw garedigrwydd a barn,
A disgwyl wrth dy Dduw yn wastadol.
7Yr hen Ganaan!
Cloriannau twyllodrus sydd yn ei law,
Câr orthrymu.
8Canys dywedodd Effraim, “Ymgyfoethogais yn wir,
Cefais imi olud,
Yn fy holl enillion ni chânt yn fy erbyn
Anwiredd a fo bechod.”
9A myfi, Iafe, dy Dduw er amser gwlad yr Aifft,
A bair iti eto drigo mewn pebyll,
Fel yn nyddiau defod-ŵyl.
10Lleferais hefyd wrth y proffwydi,
Canys rhoddais aml weledigaeth,
A defnyddiais gyffelybiaeth drwy’r proffwydi.
11Os anwiredd yw Gilead, diau gwagedd ydynt;
Aberthasant ychen yng Ngilgal,
Bydd eu hallorau hefyd fel carneddau ar gwysau’r maes.
12Pan giliodd Iacob i dir Arâm,
Gwasanaethodd Israel am wraig,
Ac am wraig y bu’n cadw da.
13A thrwy broffwyd y dug Iafe Israel o’r Aifft,
A thrwy broffwyd y cadwyd ef.
14Cyffrôdd Effraim ef i lid chwerw,
Am hynny gedy ei Arglwydd ei waed arno,
A thâl iddo am ei waradwydd.
Aktuálne označené:
Hosea 12: CUG
Zvýraznenie
Zdieľať
Kopírovať
Chceš mať svoje zvýraznenia uložené vo všetkých zariadeniach? Zaregistruj sa alebo sa prihlás
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945